Beth yw Adolygiad Cymunedol?
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ddyletswydd statudol, o dan Adrannau 25 a 31 Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 i fonitro'r cymunedau o fewn y sir, a threfniadau etholiadol y cymunedau hynny. Rhaid iddo hefyd gynnal 'adolygiadau cymunedol' pan fo'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol, neu pan fo'n ystyried yn briodol. Wrth gyflawni'r dyletswyddau hyn rhaid i'r Cyngor barhau i geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
Mae'r Cyngor yn cynnal adolygiad o drefniadau etholiadol a ffiniau cymunedol ym Mlaenau Gwent a'r cam cyntaf i'r adolygiad yw gofyn i'r cyhoedd a phartïon eraill sydd â diddordeb roi eu hadborth ar ffiniau presennol yr ardaloedd cymunedol a chynigion ar gyfer unrhyw newidiadau.
- Adolygiad o Ffiniau Cymunedol (o dan adran 25 o'r Ddeddf)
Adolygiad o ffiniau un neu fwy o gymunedau i sicrhau eu bod yn parhau i adlewyrchu hunaniaeth yr ardal dan sylw ac yn hwyluso llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Mae newidiadau i ffiniau cymunedol yn cynnwys newidiadau i ffin cymuned bresennol, neu ddiddymu cymuned bresennol a chreu cymuned newydd.
- Adolygiad o Drefniadau Etholiadol (o dan adran 31 o'r Ddeddf)
Mae hyn yn cynnwys edrych ar y trefniadau etholiadol o fewn cymuned benodol, sy'n golygu ystyried y sefyllfa mewn perthynas â wardiau a nifer y cynghorwyr. Wrth gynnal adolygiad o'r fath, gall y Cyngor edrych ar:
- nifer aelodau'r cyngor ar gyfer y gymuned
- y rhaniad yn wardiau (os yw'n briodol) at ddiben ethol cynghorwyr
- nifer a ffiniau unrhyw wardiau
- enw unrhyw ward
- nifer yr aelodau i'w hethol ar gyfer unrhyw ward
Dweud eich dweud
Cyn llunio cynigion drafft, mae'r Cyngor yn gofyn i'r cyhoedd a phartïon eraill sydd â buddiant roi eu hadborth ar ffiniau presennol yr ardaloedd cymunedol a'r trefniadau etholiadol a rhoi manylion am unrhyw newidiadau arfaethedig.
Hefyd, isod mae mapiau sy'n dangos ffiniau presennol pob cymuned ym Mlaenau Gwent.
Dylid gwneud sylwadau erbyn 5.00yp ar 16 Mawrth 2026 drwy e-bost i electoral.services@blaenau-gwent.gov.uk neu yn ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Etholiadol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy NP23 6DN
Os ydych chi eisiau gwybod mwy am ffiniau a chymunedau, mae gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru rai fideos ar eu sianel YouTube.
|
WARD NAMES |
|
|
ENGLISH |
WELSH |