Sut i ymgeisio?

Cam 1 – gwneud yr ymholiad cychwynnol
Cam 2 – digwyddiad gwybodaeth 
Cam 3 – yr ymweliad cychwynnol
Cam 4 – mynychu cwrs paratoi
Cam 5 – gwneud cais
Cam 6 – paratoi ac asesu
Cam 7 – diwedd y broses asesu
Cam 8 – y panel mabwysiadu
Cam 9 – eich uno chi â phlentyn
Cam 10 – lleoli plentyn
Cam 11 – y gorchymyn mabwysiadu 

Cam 1 – gwneud yr ymholiad cychwynnol

Yn gyntaf, cysylltwch â'ch asiantaeth fabwysiadu lleol.  Dyma fanylion ar gyfer Casnewydd, Torfaen, Caerffili, Sir Fynwy a Blaenau Gwent: Gwasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru Adain y Gogledd2il Lawr, Bloc BTŷ MamhiladYstâd Parc MamhiladPont-y-pwlTorfaenNP4 0HZ

Ffôn: (01495) 355753 neu 355764
E-bost : adoption@blaenau-gwent.gov.uk


Gallwch ofyn i siarad â gweithiwr mabwysiadu am sgwrs anffurfiol neu ofyn am becyn gwybodaeth, a anfonir atoch chi. Os oes un ar gael ar yr adeg o ffonion, gallwch siarad â gweithiwr cymdeithasol mabwysiadu ynglŷn â’ch diddordeb neu gall rywun eich ffonio yn ôl nes ymlaen. Bydd pecyn gwybodaeth yn cael ei anfon atoch. 

Cam 2 – Digwyddiadau Gwybodaeth

Ar ôl i chi ddarllen ac ystyried y pecyn gwybodaeth ac os hoffech drafod y posibilrwydd o fabwysiadu, cysylltwch â ni yma yn Nhîm Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru. Fe'ch gwahoddir wedyn i un o'n Digwyddiadau Gwybodaeth. Cynhelir y rhain 6 gwaith y flwyddyn lle rydyn ni'n darparu mwy o wybodaeth am y broses, y meini prawf mabwysiadu a'r hyn a fydd yn digwydd os byddwch yn penderfynu symud ymlaen. Byddwch hefyd yn cael cyfle i drafod eich amgylchiadau unigol yn breifat gydag un o'n gweithwyr cymdeithasol os dymunwch.

Cam 3 – yr ymweliad cychwynnol

Ar ôl clywed mwy am fabwysiadu gan y gweithiwr cymdeithasol, os oes dal gennych ddiddordeb mewn parhau ymhellach oherwydd eich bod yn credu bod mabwysiadu’n iawn i chi, yna bydd y gweithiwr cymdeithasol mabwysiadu’n cynnal ymweliad cychwynnol gyda chi yn eich cartref. Fel arfer, bydd hyn yn golygu un neu ddau ymweliad ond weithiau bydd angen mwy. Mae’r ymweliadau cynghori’n rhoi cyfle i chi drafod beth rydych chi ei eisiau wrth fabwysiadu gyda’r gweithiwr cymdeithasol a beth rydych yn teimlo y gallwch gynnig i blentyn a bydd yn eich helpu i fod yn sicr mai dyma’r peth cywir i chi. Bydd yn rhoi cyfle i chi a’r gweithiwr cymdeithasol ystyried materion yn ymwneud â mabwysiadu mewn mwy o fanylder ac am eich amgylchiadau chi’n benodol.

Yna bydd y gweithiwr cymdeithasol yn ysgrifennu adroddiad cynghori ac yn trafod hwn gyda rheolwr y tîm mabwysiadu.  Yn seiliedig ar yr adroddiad cynghori a’r wybodaeth gychwynnol; yna bydd y rheolwr tîm yn penderfynu a allwch chi symud ymlaen i gam nesaf y broses a mynychu'r hyfforddiant paratoi ar gyfer mabwysiadu.

Cam 4 – mynychu cwrs paratoi

Dylid rhoi cyfle i bob darpar ymgeisydd mabwysiadu fynychu cwrs hyfforddiant ar fabwysiadu. Mae’n ddisgwyliad bod pob darpar fabwysiadwr yn mynychu’r hyfforddiant yma. Mae’r cyrsiau hyfforddiant ar gael ar wahanol adegau trwy gydol y flwyddyn ac yn cynnwys sesiynau am 3 diwrnod fel arfer o ddydd Gwener i ddydd Sul. Mae pobl eraill sy’n ystyried dod yn rhieni mabwysiadol hefyd yn mynychu’r sesiynau. Mae’r hyfforddiant yn rhoi manylion ar y math o blant sydd angen cartrefi mabwysiadol a’r heriau maen nhw a’u teuluoedd mabwysiadol yn eu hwynebu.

Cam 5 – gwneud cais

Os yw’r asiantaeth yn penderfynu ei fod yn addas ac os hoffech barhau, yna byddwch yn cael eich gwahodd i ymgeisio i gael eich asesu fel darpar riant mabwysiadol.   Byddwch yn cael ffurflen gais i'w chwblhau, cyflwyno i SEWAS a dyma fydd dechrau’r broses asesu. Os ydych yn penderfynu parhau, bydd gofyn i chi roi caniatâd i’r heddlu a’r awdurdod lleol gynnal gwiriadau arnoch. Gall y gwiriadau hyn swnio’n frawychus. Ond mae’n werth cadw mewn cof bod rhaid i asiantaethau gynnal y gwiriadau hyn er mwyn diystyru unrhyw un sydd wedi cyflawni trosedd difrifol, megis trais neu droseddau yn erbyn plant.

 

Bydd hefyd gofyn i chi gael archwiliad meddygol gyda’ch doctor a bydd angen i'r darpar fabwysiadwr dalu'r gost am hynny. 

Cam 6 – paratoi ac asesu

Os caiff eich cais ei derbyn, byddwch yn cychwyn cyfnod hirach o baratoi ac asesu, gan weithio mewn partneriaeth gyda’ch gweithiwr cymdeithasol. Mae’r cyfnod paratoi yn rhoi cyfle i chi ddod i wybod am fabwysiadu mewn llawer mwy o fanylder a meddwl yn ofalus am wneud ymrwymiad oes i blentyn. Rhan o waith yr asiantaeth yw rhoi llawer o wybodaeth i chi am fabwysiadau, gan gynnwys y math o blant sydd ar gael yn eich ardal.

Mae gennych rôl hanfodol ar yr adeg hon. Mae’r wythnosau hyn yn gyfle i chi feddwl yn onest am beth rydych chi ei eisiau o’r broses mabwysiadu a beth allwch chi ei gynnig i blentyn sy’n aros i gael ei fabwysiadu (mae nifer ohonynt yn gallu gofyn llawer). Bydd gennych amser i feddal am yr holl faterion pwysig. Beth yw anghenion plant mabwysiedig? Beth yw’ch cryfderau a gwendidau fel rhiant mabwysiedig yn debygol o fod? Ydych chi’n gallu gwneud y math o ymrwymiad a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywy

 

Tra rydych yn dysgu am fabwysiadu o’r asiantaeth, bydd yr asiantaeth yn dechrau asesu’ch addasrwydd i fabwysiadu trwy adeiladu proffil trylwyr ohonoch. Gelwir hyn yn Adroddiad Darpar Fabwysiadwyr neu, yn fyr, PAR.  Bydd gweithiwr cymdeithasol o’r asiantaeth yn gwneud ymweliadau wythnosol i’ch cartref ac yn gofyn cwestiynau manwl i chi am eich cefndir teuluol, eich plentyndod a’ch amgylchiadau presennol. Os ydych yn ymgeisio fel cwpl, bydd y gweithiwr cymdeithasol eisiau eich gweld gyda’ch gilydd ac ar wahân. Bydd hefyd rhaid i chi gael archwiliad meddygol llawn gyda’ch doctor, a bydd gofyn i chi ddarparu o leiaf tri geirda personol (fel rheol dau gan ffrindiau ac un gan aelod o'r teulu).

Cam 7 – diwedd y broses asesu

Ar ddiwedd y broses asesu, byddwch chi a’r gweithiwr cymdeithasol wedi gweithio gyda’ch gilydd i gynhyrchu adroddiad asesu ‘Ffurflen F’.  Mae’r adroddiad yn cynnwys asesiad manwl ohonoch chi fel darpar riant mabwysiadol, ynghyd â chanlyniadau’r archwiliad meddygol, gwiriadau’r heddlu a’r awdurdod lleol a’ch geirdaon personol.  Rhan allweddol o’r adroddiad yw i chi benderfynu y math o blentyn neu blant rydych yn teimlo y gallech ei/eu mabwysiadu. A fedrech chi ofalu am blentyn gydag anhawster corfforol neu ddysgu er enghraifft? Pa ystod oedran byddech chi’n ei ystyried? A sawl plentyn gallech chi eu cymryd?

Mae gennych yr hawl i weld mwyafrif yr adroddiad asesu (heblaw am y geirdaon a’r adroddiad iechyd) a bydd gennych y cyfle i wneud sylwadau ar yr hyn a ysgrifennwyd.

Cam 8 – y panel mabwysiadu

Unwaith iddo gael ei gwblhau a bod eich sylwadau wedi cael eu hychwanegu, mae’r adroddiad asesu’n mynd ymlaen i banel mabwysiadu – grŵp o weithwyr cymdeithasol, gweithwyr proffesiynol eraill a phobl annibynnol gan gynnwys cyn rieni mabwysiadol ac oedolion wedi’u mabwysiadu. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn mynychu’r panel i ateb unrhyw gwestiynau gan aelodau’r panel. Byddwch yn cael eich gwahodd i fynychu panel ond chi sydd piau'r dewis p'un ai ydych chi am fynychu ai peidio. Unwaith iddynt ystyried yr adroddiad, bydd y panel yn argymell a ddylech gael eich cymeradwyo fel rhiant mabwysiadol ai peidio. Byddwch fel arfer yn cael eich hysbysu am argymhelliad y panel mabwysiadu ar yr un diwrnod. Yn seiliedig ar argymhelliad y panel, bydd yr asiantaeth yn penderfynu a ydynt am eich cymeradwyo ai peidio o fewn tuag wythnos ar ôl cyfarfod y panel. Gwneir y penderfyniad hwn gan Penderfyniad Asiantaeth Gwneud Penderfyniad yr asiantaeth fabwysiadu.

Cam 9 – eich uno â phlentyn

Unwaith i chi gael eich cymeradwyo fel rhieni mabwysiadol, bydd yr asiantaeth yn cychwyn ystyried a oes unrhyw blant sy’n aros i gael eu mabwysiadu yn lleol a allai fod yn addas ar eich cyfer. Mewn rhai achosion, mae’n bosib bydd gan yr asiantaeth blant mewn golwg eisoes ar eich cyfer a bydd y broses yn gallu cychwyn yn gyflymach (ond nid cyn i chi gael eich cymeradwyo). Bydd eich asiantaeth yn cychwyn y broses uno trwy edrych ar broffiliau’r plant rydych wedi cael eich cymeradwyo i’w mabwysiadu gan y panel mabwysiadu.

 

Mae SEWAS yn gonsortiwm mabwysiadu sef partneriaeth o asiantaethau mabwysiadu awdurdodau lleol eraill sy’n cynnwys Blaenau Gwent, Caerffili, Torfaen, Casnewydd a Sir Fynwy.  Golyga hyn, unwaith i chi gael eich cymeradwyo, y bydd y broses o chwilio am uniad addas yn digwydd yn lleol ac o fewn ardaloedd yr awdurdodau partner.   Os na allwn eich paru â phlentyn yn fewnol am ba reswm bynnag, gallwn ni gael mynediad at Gofrestr Mabwysiadu Cymru a'r Gofrestr Mabwysiadu Genedlaethol a fydd yn dechrau ystyried paru posib ledled Cymru ac yna ar draws y DU.

Cam 10 – Panel Paru a lleoli plentyn

Unwaith y bydd plentyn neu blant wedi cael eu nodi fel rhai sy'n addas ar eich cyfer chi, fe gewch chi rywfaint o wybodaeth sylfaenol am y plentyn i weld a ydych yn teimlo bod hwn yn uniad posibl. Os ydych chi am barhau, cewch chi'r holl wybodaeth gefndirol am y plentyn hwnnw. Os ydych yn dal i ddymuno bwrw ymlaen, cewch gyfle i gwrdd â gweithiwr cymdeithasol y plentyn, y gofalwyr maeth a'r ymgynghorydd meddygol ar gyfer y plentyn. Os, ar ôl yr holl gyfarfodydd hyn, fod pawb yn cytuno bod y paru yn un bositif, byddwch yn dychwelyd i'r panel mabwysiadu er mwyn iddynt ystyried y paru. Bydd y Panel yn darparu argymhelliad y bydd yn rhaid i asiantaeth gwneud penderfyniad yr asiantaeth hefyd ei gadarnhau.

Os bydd hyn yn llwyddiannus bydd cyfnod o gyflwyniadau lle byddwch chi a'ch plentyn yn dod i adnabod eich gilydd yn raddol gan arwain at eich plentyn neu blant mabwysiadol yn dod i fyw gyda chi a dod yn rhan o'ch teulu newydd.

 

Cofiwch, dydych chi ddim ar eich pen eich hun nawr – bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn gallu cynnig cefnogaeth a chyngor i chi ar ôl eich lleoliad, a byddant yn gyfrifol am gadw mewn cysylltiad â chi i gyd tan i’r broses mabwysiadu ddod i ben. Dylech siarad â’ch gweithiwr cymdeithasol am y gwasanaethau i gefnogi mabwysiadu sydd ar gael yn eich ardal. 

Cam 11 – y gorchymyn mabwysiadu

Pan fydd eich plentyn wedi setlo'n llwyddiannus yn eich teulu ac wedi bod gyda chi am o leiaf 10 wythnos, gallwch ymgeisio i’r llys am orchymyn mabwysiadu. Unwaith i’r gorchymyn gael ei wneud, bydd yr holl hawliau a chyfrifoldebau a oedd gan y rhieni naturiol yn wreiddiol yn trosglwyddo i chi.

 

 

Gwybodaeth Gyswllt

Gwasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru

Adain y Gogledd
2il Lawr, Bloc B
Tŷ Mamhilad
Ystâd Parc Mamhilad
Pont-y-pŵl
Torfaen
NP4 0HZ

Teleffon: (01495) 355753 or 355764
E-bost: adoption@blaenau-gwent.gov.uk