Mabwysiadu gan Lys-Rieni

Mae llysrieni yn aml yn dymuno mabwysiadu plant o berthnasau blaenorol eu partner. Mae mabwysiadu gan lys-rieni yn cynnwys dod yn rhiant cyfreithlon y plentyn. Mae hyn yn cynnwys gwneud ymrwymiad oes i’r plentyn.

I fabwysiadu plentyn eich partner (ddylai fyw yn y DU) bydd angen i chi ddweud wrth eich cyngor lleol eich bod yn bwriadu mabwysiadu o leiaf tri mis cyn cychwyn eich cais i fabwysiadu gyda’r llys.

Cyn i chi gychwyn

Mae mabwysiadu yn ymwneud yn bennaf â beth sydd orau ar gyfer y plentyn/plant dan sylw.

Mae’n bwysig sylweddoli mai nid mabwysiadu gan lys-rieni yw’r unig ffordd o ddarparu awyrgylch teuluol sefydlog a diogel neu i adnabod hawliau, rolau a chyfrifoldebau’r llys-rieni.

Dylech felly ystyried yr holl ddewisiadau eraill cyn parhau gyda’r broses o fabwysiadu gan lys-rieni, ni fydd y Llysoedd yn cymeradwyo gorchymyn mabwysiadu yn awtomatig a byddant yn disgwyl bod dewisiadau eraill wedi cael eu harchwilio a’u hasesu yn gyntaf.

Mae’n gall ceisio cyngor cyn gwneud cais mabwysiadu.

Gall SEWAS gynnig gwybodaeth a chyngor cyn i chi gysylltu â’ch llys sirol neu ynadon lleol, mae’n manylion cyswllt yn yr adran “gwybodaeth gyswllt”.

Dylech hefyd ystyried cysylltu â chyfreithiwr sy’n arbenigo mewn cyfraith plant a theuluoedd er nid yw hwn yn ofyniad hanfodol. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyfreithwyr teulu yn y cyfeirlyfr ffôn lleol neu ar-lein.

Effaith Mabwysiadu gan Lys-Rieni:

Ar y plentyn mabwysiedig

Ymhlith effaith mabwysiadau gan lys-riant mae:

  • Bydd y berthynas rhwng y plentyn a’r llys-riant yn cael ei chydnabod yn gyfreithiol.
  • Bydd gan y llys-riant ddyletswydd rhieni yn gyfartal â’r rhiant naturiol.
  • Efallai bydd y plentyn yn cael cyfenw neu enw teuluol newydd.

Mae nifer o oblygiadau eraill i’w hystyried oherwydd ni fyddai gan y plentyn unrhyw gysylltiadau cyfreithiol i’r rhiant naturiol arall bellach na rhan fawr o deulu’r rhiant yna chwaith.

Er bod modd cynnal perthynas dda, mae’n golygu y bydd y plentyn mabwysiedig yn ôl y gyfraith yn:

  • Colli unrhyw hawl awtomatig i gyswllt gyda’r rhiant hwnnw neu deulu’r rhiant hwnnw (modrybedd, ewythrod, mam-guod a thad-cuod, ac ati).
  • Colli unrhyw hawliau i daliadau cynhaliaeth gan y rhiant naturiol arall.
  • Colli unrhyw hawliau i etifeddiaeth gan y rhiant naturiol arall neu deulu’r rhiant hwnnw oni bai bod darpariaeth arbennig yn cael ei wneud yn eu hewyllysiau.

Ar Gyfer y Llys-Riant

Bydd y llys-riant yn dod yn rhiant cyfreithiol i’r plentyn, gyda’r holl hawliau a chyfrifoldebau byddai ganddynt pe byddent yn rhiant naturiol i’r plentyn. Mae mabwysiadu yn ymrwymiad oes i fod yn rhiant trwy gydol plentyndod a thu hwnt. Mae mabwysiadu yn barhaol ddiwrthdro heblaw am mewn amgylchiadau eithriadol ac eithafol.

Ar Gyfery rhieni naturiol

Bydd Gorchymyn Mabwysiadu yn cymryd cyfrifoldeb rhieni (os ydyw ganddynt) i ffwrdd o’r rhieni naturiol arall ond ni fydd yn ei dynnu i ffwrdd o’r rhiant sy’n bartner i’r llys-riant.

Os yw cwpl mewn perthynas newydd neu ail briodas yn gwahanu neu’n ysgaru ar ôl i orchymyn mabwysiadu cael ei wneud, bydd gan y ddau riant hawl cyfartal i’r plentyn ond bydd rhiant naturiol arall y plentyn yn parhau heb ddim hawliau. Bydd cyfrifoldebau’r rhiant mabwysiadu tuag at y plentyn yn parhau.

Ar gofnodion

  • Bydd llunio gorchymyn mabwysiadu yn cael ei gofnodi yn y Gofrestr Plant Mabwysiedig (nid yw’r Gofrestr Plant Mabwysiedig yn agored i’r cyhoedd ei harchwilio neu chwilio).
  • Bydd tystysgrif mabwysiadu yn cael ei chyhoeddi i’r rhieni mabwysiadol.
  • Bydd cofnod y plentyn yn y gofrestr o enedigaethau hefyd yn cael ei anodi i ddynodi bod y mabwysiadu wedi digwydd. Yn 18 mlwydd oed, gall person mabwysiedig wneud cais am gopi o’i dystysgrif geni wreiddiol.

Pethau pwysig eraill i’w hystyried

Pwynt pwysig mae pobl yn gallu ei anghofio yw bod y llysoedd yn ystyried y mabwysiadu o safbwynt y plentyn yn hytrach na’r oedolyn. Mae dymuniadau’r oedolyn yn cael ei ystyried, ond bydd gorchymyn mabwysiadu yn cael ei gymeradwyo dim ond os ydyw yn niddordebau gorau’r plentyn. Mae rhai pobl yn teimlo’r angen i fabwysiadu’u llys-blant er mwyn gwneud i’r teulu teimlo’n gyflawn, ond nid yw hwn yn rheswm digonol i’r llys gymeradwyo gorchymyn mabwysiadu.

Y Meini Prawf ar gyfer Mabwysiadu gan Lys-Riant

Gall ceisiadau cael eu gwneud gan bartner priod neu ddi-briod (naill ai o’r un rhyw neu’n wahanol) i bartner gyda phwy maen nhw’n byw mewn perthynas deuluol barhaol (fel arfer yn para 3 mlynedd neu’n hirach).

Rhaid bod y llys-riant wedi bod yn byw gyda’r plentyn am o leiaf chwe mis cyn y cais. Dylai’r ymgeisydd fod dros 18 mlwydd oed.

Rhaid i’r llys-riant ymgeisio i’r Llys am orchymyn mabwysiadu. Os yw caniatâd yn cael ei roi, fe ddaw’r llys-riant yn rhiant mabwysiadol.

Mae gorchymyn mabwysiadu’n bosib dim ond os:

  • Bod y Llys yn penderfynu ei fod yn niddordeb gorau’r plentyn.
  • Yw unrhyw riant arall sy’n chwarae rôl ym mywyd y plentyn ac sydd â chyfrifoldeb rhiant yn cytuno (oni bai bod y Llys yn penderfynu na fod angen eu caniatâd).
  • Yw’r plentyn wedi cael ei ofalu am gan y cwpl am o leiaf 6 mis cyn y cais.
  • Bod y ddau ymgeisydd yn 21 oni bai bod y rhiant naturiol yn 18 neu’n hŷn.
  • Bod un o’r cwpl yn breswylydd yn y DU neu fod y ddau wedi bod yn preswylio yn y DU am flwyddyn neu’n hirach.
  • Nad yw’r cwpl yn cynnwys dau berson sy’n perthyn (e.e. dwy chwaer hŷn yn mabwysiadu brawd neu chwaer iau).
  • I ddangos tystiolaeth o sefydlogrwydd, rhaid bod y Llys yn asesu’r cwpl fel un sydd mewn “perthynas deuluol barhaol”.

Nodwch na fod hi bellach yn ofyniad yn ôl y gyfraith bod rhiant naturiol yn mabwysiadu ei blentyn ei hun ar yr un adeg â’r llys-riant.

Dewisiadau arall i Fabwysiadu gan Lys-Riant

Mae’n naturiol i lys-riant yrru’r penderfyniad i fabwysiadu plant oherwydd awydd i ddod yn rhan o uned deuluol ffurfiol.

Fodd bynnag, nid mabwysiadu yw’r ffordd orau o ddarparu sefydlogrwydd a strwythur i blentyn ym mhob sefyllfa.

Mae’r Llysoedd yn aml yn cydnabod nifer o ddewisiadau eraill, yn eu plith mae:

Gorchymyn Cyfrifoldeb Rhieni

Gorchymyn, os caiff ei gymeradwyo, sy’n rhoi cyfrifoldeb rhieni i’r llys-riant. Ni fydd hyn yn torri’r cysylltiadau ffurfiol gyda theulu naturiol estynedig y plentyn yn yr un modd ag y byddai mabwysiadu.

Cytundeb Cyfrifoldeb Rhieni

Cytundeb ffurfiol sy’n cael ei lunio gan gyfreithiwr yw hwn sy’n egluro hawliau, rolau a chyfrifoldebau pawb gyda chyfrifoldeb rhieni.

Gorchymyn Trefniadau Plant

Cyflwynwyd Gorchmynion Trefniadau  Plant i ddeddfwriaeth y DU i ddisodli a chwmpasu gorchmynion eraill megis Gorchmynion Preswyliad a Gorchmynion Cyswllt. Felly mae Gorchymyn Trefniadau Plant yn rheoleiddio trefniadau sy'n ymwneud â gyda phwy a phryd y mae plentyn yn byw, treulio amser neu fel arall yn cael cyswllt â rhai pobl.

Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol i reoli’r berthynas gyda rhieni sy’n bell i ffwrdd.

Cyngor Cyfreithiol

Efallai byddwch yn dymuno ceisio cyngor Cyfreithiwr Plant a Theuluoedd cyn parhau gyda chais. Nid yw bob tro’n hanfodol neu’n angenrheidiol i gael cynrychiolaeth gyfreithiol i wneud cais mabwysiadu, fodd bynnag mewn achosion cymhleth neu achosion ble mae anghydfod, gall fod yn ddoeth cael cyngor cyfreithiol.

Beth i’w wneud nesaf?

  1. Cysylltwch â ni (SEWAS) am gyngor cyffredinol.
  2. Os byddwch yn penderfynu cyflwyno cais am ddod yn lys-riant mabwysiadol, dylech roi gwybod i SEWAS yn ysgrifenedig am eich bwriad i wneud cais (dylid gwneud hyn o leiaf tri mis cyn i chi wneud y cais i’r llys, gall eich cyfreithiwr hefyd wneud hyn ar eich rhan os oes gennych chi un).  Fe fyddem bob amser yn eich cynghori i ofyn am gyngor gan SEWAS yn gyntaf.
  3. Bydd SEWAS yn cysylltu â chi i drafod mabwysiadu a'r dewisiadau amgen a bydd gweithiwr cymdeithasol yn ymweld â chi i drafod y broses. Bydd ganddynt hefyd ddyletswydd i ymweld â'r plentyn i sicrhau bod eu gofal a'u lles yn foddhaol a hefyd bod ganddynt ddealltwriaeth briodol o o fabwysiadu sy’n cyd-fynd â’u hoedran.
  4. Cyflwyno’ch cais gyda’r Llys. Defnyddir Llys Achosion Teuluol (llys yr ynadon) yn y rhan fwyaf o geisiadau mabwysiadu gan lys-riant, yn enwedig pan fo'r ddau riant biolegol yn cydsynio i'r mabwysiadu. Bydd angen i chi dalu ffi ymgeisio i'r llys, ni ellir ad-dalu hyn pe baech yn penderfynu yn ddiweddarach peidio â symud ymlaen.
  5. Bydd y Llys yn gofyn i un o’n gweithwyr cymdeithasol ddarparu adroddiad manwl cyn iddo allu gwneud gorchymyn mabwysiadu. Gelwir yr adroddiad yn Adroddiad Cynaliadwyedd a rhaid iddo gynnwys gwybodaeth am:
  • Chi
  • Eich teulu
  • Eich iechyd
  • Gwiriadau rhestri’r Heddlu, y Gwasanaeth Prawf ac amddiffyn plant
  • Partneriaid blaenorol y llys-riant (a manylion am unrhyw blant eraill)
  • Pa ddewisiadau eraill i fabwysiadu sydd wedi cael eu hystyried
  • Tystiolaeth sy’n dangos bod ymdrech ddigonol wedi cael ei wneud i olrhain, cysylltu a cheisio barn rhiant absennol neu bell i ffwrdd.
  • Os yw mabwysiadu yn niddordebau gorau’r plentyn.
  • Lles ac addysg y plentyn.

Bydd yr adroddiad hefyd yn asesu effaith posib y mabwysiadu ar y plentyn a’r ddau riant biolegol ac unrhyw blant eraill o fewn y teulu na fyddant efallai'n rhan o'r cais. Mae'r adroddiad yn ei gwneud yn ofynnol i'r gwasanaeth mabwysiadu wneud argymhelliad proffesiynol i'r llys p'un a yw mabwysiadu er lles gorau'r plentyn.

Bydd hyn yn helpu’r Llys benderfynu os mai gorchymyn mabwysiadu yw’r penderfyniad cywir i’r teulu cyfan neu os yw dewisiadau eraill yn fwy addas.

  1. Bydd y Llys hefyd yn penodi Goruchwyliwr a fydd yn ymweld â’r ddau riant biolegol a’r ymgeisydd i ymdrin â chytundebau i fabwysiadu ac unrhyw faterion eraill a allai fod wedi codi. Bydd y Goruchwyliwr bob amser yn ystyried cais o safbwynt y plentyn.
  2. Yna bydd y Llys yn penderfynu cymeradwyo gorchymyn mabwysiadu ai peidio.  Bydd y ddau ymgeisydd yn mynychu gwrandawiadau'r llys a gwahoddir y plentyn hefyd i fynychu gwrandawiad mabwysiadu yn y Llys.  Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol hefyd yn mynychu ac efallai bydd eich cyfreithiwr yn mynychu os oes gennych chi un. Gall y Llys gymeradwyo Gorchymyn Mabwysiadu, dim gorchymyn o gwbl neu orchymyn arall megis Gorchymyn Trefniadau Plant.

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â

Gwasanaeth Mabwysiadu De Ddwyrain Cymru
Adain y Gogledd
2il Lawr, Bloc B
Tŷ Mamhilad
Ystâd Parc Mamhilad
Pont-y-pwl
Torfaen
NP4 0HZ

Ffôn: (01495) 355753 neu 355764
E-bost : adoption@blaenau-gwent.gov.uk

Cyngor Sirol Casnewydd (Canolfan Fabwysiad)
Tŷ Olympia
3ydd Llawr
Upper Dock Street
Casnewydd
NP20 1PQ

Ffôn: (01633) 227151