Canolfan Ddydd Ash Park - Glynebwy
MMae Ash Park yn ganolfan ddydd sy'n darparu ar gyfer oedolion gydag anghenion iechyd meddwl cysylltiedig ag oedran a Dementia. Mae'r ganolfan yn Ysbyty'r Tri Chwm, Glynebwy. Mae'r ganolfan yn gweithio'n agos gyda Thîm Gwaith Cymdeithasol Iechyd Meddwl Cymunedol, Nyrsus Seiciatrig Cymunedol a'r Ysbyty Dydd.
Canolfan Bert Denning - Brynmawr
Mae'r ganolfan hon yn darparu ar gyfer oedolion gydag anableddau corfforol a/neu synhwyraidd dybryd a lluosog sydd angen cefnogaeth staff arbenigol. Mae'r cyfleuster yn cynnwys pwll hydrotherapi ac offer synhwyraidd arbenigol. (Ar gael ar log preifat).
Allgymorth Vision House - Glynebwy
Mae Vision House yn hwyluso pedwar gwasanaeth allgymorth. Caiff unigolion eu cefnogi i gael mynediad i'r gymuned, a chymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau gyda ffocws ar ganlyniadau, fel sgiliau byw annibynnol, Sgiliau Bywyd, Technoleg Gwybodaeth a chyfleusterau hamdden.
Cyfleuster Arlwyo Opsiynau Cymunedol - Adeilad Lakeview, Heol Pond, Nantyglo
Mae'r cyfleuster hwn yn darparu hyfforddiant arlwyo seiliedig ar waith ar gyfer unigolion a hoffai ddatblygu eu sgiliau a gallant ddymuno symud ymlaen i gyflogaeth prif ffrwd neu gyflogaeth â chymorth.
Lake View - Heol Pond, Nantyglo
Mae'r gwasanaeth yn darparu ar gyfer oedolion hŷn gydag anableddau dysgu ac anghenion iechyd meddwl, gan gynnig amgylchedd diddorol i alluogi pobl i ddatblygu sgiliau personol. Rhoddir cefnogaeth wrth gael mynediad i'r gymuned leol. Mae'r gwasanaeth hefyd yn cefnogi unigolion sydd â salwch iechyd meddwl drwy ailadeiladu/adeiladu sgiliau byw, adennill annibynniaeth ac ailintegreiddio i'r gymuned.
Wick and Wax/STA - Gweithdai Blaenau Gwent, Heol Pond, Nantyglo
Mae'r gwasanaeth yn cefnogi unigolion sydd ag anabledd i feithrin sgiliau wrth wneud canhwyllau/tawdd persawrus. Gall y prosiect hefyd ddarparu gwasanaeth golchi dillad masnachol ar gais.
Prosiect Garddwriaethol Green Shoots - Gweithdai Blaenau Gwent, Heol Pond, Nantyglo
Mae ein Prosiect Garddwriaethol yn seiliedig (yn dymhorol) ym Mharc Bryn Bach, Tredegar. Mae'r prosiect yn darparu hyfforddiant garddwriaethol seiliedig ar waith ar gyfer unigolion a hoffai ddatblygu eu sgiliau ac a all fod am symud ymlaen i gyflogaeth brif ffred neu gyflogaeth â chymorth.
Prosiect Cwm Newydd - Seiliedig yn Bert Denning
Mae ailgylchu Cwm Newydd yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyfarwyddieath Amgylchedd y Cyngor.
Vision 21 - Seiliedig yn Llys Nant Y Mynydd
Mae trefniant partneriaeth gyda Vision 21 a Chymdeithas Tai United Welsh wedi darparu cyfleoedd i unigolion ddatblygu sgiliau arlwyo a chymwysterau gyda'r nod o symud ymlaen i gyflogaeth ar dâl.
Os hoffech wybod mwy am Opsiynau Cymunedol a'i wasanaethau cysylltwch â:
Canolfan Bert Denning
Heol Warwick
Brynmawr
NP23 4AR
Ffôn: (01495) 315278
Gwybodaeth Gyswllt
I gael gwybodaeth, cyngor a chymorth, neu i wneud atgyfeiriad atgyfeiriad neu adroddiad am bryderon yn gysylltiedig â:
- person 18 oed neu drosodd, cysyllwch â Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion
- plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â hyb IAA Gwasanaethau Plant
Ffôn: 01495 315700
E-bost: DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350
Ar gyfer gwybodaeth ac ymholiadau:
E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk
Pencadlys:
Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB