Gofalwn Cymru

Tynnu sylw at rolau ym maes Gofal Cymdeithasol

Gan lansio ddydd Llun 30 Tachwedd, byddwn yn codi proffil Gweithwyr Gofal Cartref, Gweithwyr Cymdeithasol a Nyrsys mewn lleoliadau Gofal Cymdeithasol. Bydd yr ymgyrch hon yn canolbwyntio ar helpu i dynnu sylw at y rolau ac, wrth wneud hynny, helpu pobl I ystyried gyrfaoedd yn y meysydd hyn. Byddwn yn cyflwyno hysbyseb deledu ac yn rhoi gwybod i chi pryd y caiff ei darlledu.

Helpu pobl i ddod o hyd i waith mewn gofal

Ym mis Mawrth 2020, lansiwyd ein Porth Swyddi ac rydyn ni wedi rhannu dros 2,000 o swyddi ac wedi cael dros 20,000 o ymwelwyr. Gan adeiladu ar y llwyddiant, rydyn ni'n gwella'r Porth Swyddi i gefnogi sefydliadau'n well gyda'u recriwtio a chreu profiad gwell fyth I ddefnyddwyr. Bydd y fersiwn newydd yn helpu ceiswyr gwaith i ddeall gofal yn well, yn cynnwys elfen ddysgu a fydd yn cynnwys A Question of Care ac yn galluogi pobl i ddod o hyd i swyddi gwag sy'n diwallu eu hanghenion. Ar gyfer y cyflogwr, mae gwell llwybr I hysbysebu swyddi a gwell gwybodaeth am ddarpar ymgeiswyr.

I weld erthygl newyddion ddiweddar, ewch i Wales Online yn www.walesonline.co.uk/specialfeatures/jobs-wales-recruitment-campaign-under-18982876
cial-features/jobs-wales-recruitment-campaign-under-18982876

Os ydych yn hoffi gweithio gyda phobl a bod gennych ddiddordeb mewn gwneud gwahaniaeth go iawn i’w bywydau bob dydd, gallai gyrfa mewn gofal fod i chi.

Os oes gennych agwedd gadarnhaol ac ymrwymiad i ofalu am eraill, yna yn y rhan fwyaf o swyddi gallwch gael unrhyw hyfforddiant a chymwysterau angenrheidiol wrth wneud y gwaith. Mae llawer o ffyrdd i weithio’n hyblyg, fel y gallwch ffitio gofalu am bobl o amgylch eich anghenion chi a’ch teulu.

Ar gyfer y bobl gywir mae’n un o’r gyrfaoedd mwyaf gwerth chweil sydd ar gael.

EWCH i wefan Gofalwn Cymru  i ganfod mwy am yrfa mewn gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant a sut yr ydym angen mwy o bobl gyda’r sgiliau a gwerthoedd cywir i weithio mewn rolau gofalu gyda phlant ac oedolion.

Cysylltu â ni

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar Gofalwn Cymru, anfonwch ebost atom yn cyswllt@gofalwn.cymru