Dechrau’n Deg

Dechrau’n Deg yw’r rhaglen a ariannir gan Lywodraeth Cymru, sy’n darparu gwasanaethau cefnogaeth dwys i deuluoedd gyda phlant rhwng 0-3 mlwydd oed, sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig ledled Cymru.  

Mae Tîm Dechrau’n Deg Blaenau Gwent yn canolbwyntio ar y plentyn ac yn cynnig anogaeth, gwybodaeth a chyfarwyddyd i gefnogi rhieni/gofalwyr ar bob cam o ddatblygiad eu plentyn; darparu cyfleoedd, gweithgareddau a rhaglenni am ddim i ganiatáu i bob plentyn ddatblygu eu sgiliau iaith a chymdeithasol a’u datblygiad emosiynol a chorfforol er mwyn bod yn barod cychwyn ysgol.      

Pwy sy’n gymwys ar gyfer Dechrau’n Deg? 

Mae’r rhaglen ar gael i bob plentyn cymwys a’u teuluoedd yn yr ardaloedd canlynol o Flaenau Gwent (Cyfnod Un –Cyn Dalgylchoedd Ysgolion Cynradd 2006-2011):  

  • Sirhywi 

  • Deighton  

  • St Illtyd's  

  • Garnlydan  

  • Swffrydd  

Yn ychwanegol at yr uchod, fe estynnwyd Dechrau’n Deg i ardaloedd newydd gan Lywodraeth Cymru gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru a chymunedau dynodedig trwy ffiniau ardaloedd daearyddol o’r enw LSOA’s (Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is).   

Rhwng 2012 a 2015, fe estynnwyd rhaglen Dechrau’n Deg i gynnwys y LSOA’s canlynol:   

  • Gogledd Glynebwy 2 (Hilltop) 

  • De Glynebwy 1 (Briery Hill)  

  • Cwmtyleri 1 (Roseheyworth)  

  • Nant-y-glo 3 (CoedCae) 

Yn 2015/16 – Roedd estyniad pellach o raglen Dechrau’n Deg i gynnwys 2 Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is newydd 

  • Cwm 2 (o fis Tachwedd 2015) 

  • Abertyleri 1 (o fis Mawrth 2016) 

O fis Mawrth 2016, mae Dechrau’n Deg ar gael i draean o Fwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.   

I gadarnhau os ydych yn gymwys am le teulu o fewn ardal Dechrau’n Deg, cysylltwch â Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd ar 08000 32 33 39. 

Beth mae Dechrau’n Deg yn golygu’n ymarferol:  

Mae 4 elfen graidd i raglen Dechrau’n Deg sydd wedi cael eu tynnu o amrediad o opsiynau sydd â thystiolaeth eu bod yn cael dylanwad cadarnhaol ar ganlyniadau ar gyfer plant a’u teuluoedd.   

  1. Gwell gwasanaeth ymweliadau iechyd 

Mae Ymwelwyr Iechyd Dechrau’n Deg yn darparu gwasanaeth ymweliadau iechyd dwys i bob teulu dilys a gyda chymorth Gweithwyr Cymorth Ymweliadau Iechyd mae ganddynt y gallu i ymweld â theuluoedd yn fwy aml a darparu cymorth un i un yn y cartref.    

Yn ddiweddar mae Dechrau’n Deg wedi cyflwyno rhaglenni a gwasanaethau cynenedigol newydd, gyda’r nod o gysylltu â phob mam feichiog sy’n mynychu ein Clinig Bwcio Cynenedigol. Mae cyswllt cynnar yn hyrwyddo iechyd a lles ar gyfer y fam a’r plentyn yn ystod beichiogrwydd a thu hwnt. Mae pob teulu Dechrau’n Deg yn cael eu cefnogi i ddatblygu a bondio gyda’u babi, gan gefnogi’r fam yn benodol gyda’i hiechyd emosiynol a meddyliol. Mae Dechrau’n Deg yn darparu clinigau babanod hygyrch lleol, gan hyrwyddo imiwneiddiadau, rhoi cyngor cyffredinol ar iechyd babanod, bwydo o’r fron, diddyfnu, creu trefn feunyddiol a phatrymau cysgu.  

Mae cyrsiau Tylino Babanod ar gael, gan roi gwybodaeth i rieni am fondio gyda’r babi a chreu cyswllt sy’n gallu helpu lleddfu a chysuro babi yn ystod salwch, torri dannedd neu dwf cyffredinol. Mae’r Gwasanaeth Ymweliadau Iechyd yn parhau hyd at 4 blwydd oed pan mae gofal iechyd y plentyn yn cael ei drosglwyddo i nyrs yr ysgol pan mae’r plentyn yn cychwyn yn yr ysgol.   

  1. Mynediad at Raglenni Magu Plant  

Mae rhieni sy’n byw mewn ardaloedd Dechrau’n Deg yn cael eu cefnogi ymhellach trwy gael y cyfle i fynychu amrediad o raglenni magu plant, gyda’r nod o roi’r sgiliau iddynt fagu plant yn effeithiol. Mae rhai cyrsiau yn arbennig ar gyfer rhieni newydd gyda babanod newydd anedig er mwyn annog bondio a chreu cyswllt gyda’r babi. Wrth i’r plentyn dyfu, mae rhaglenni pellach ar gael sy’n adeiladu hyder rhieni i ddelio gydag ymddygiad eu plentyn, hyrwyddo modd positif o fagu plant, creu ymagweddau positif ac adeiladu perthnasau iachus gyda’r plant. Ymhlith y cyrsiau sydd ar gael mae:   

  • Cyswllt Teuluol, Rhaglen Cynenedigol “Croeso i’r Byd” – Cefnogi rhieni newydd gyda rhai o’r anawsterau gallant eu hwynebu a chefnogaeth i ddod i adnabod eich babi newydd 

  • Rhaglen Babanod y Blynyddoedd Rhyfeddol – ar gyfer rhieni newydd gyda babanod newydd anedig a phlant hyd at 12 mis oed  

  • Rhaglen Plant Bach y Blynyddoedd Rhyfeddol – Er mwyn i rieni ddysgu sut i annog datblygiad iaith, cymdeithasol ac emosiynol eu plentyn bach 

  • Rhaglen Meithrin Cysylltiadau Teuluol – Yn cefnogi teuluoedd i adeiladu perthnasau cadarnhaol, cyfathrebu a rheoli ymddygiad positif o fewn y teulu.  

Mae amrediad o raglenni pwrpasol ar gael trwy hybiau lleol Dechrau’n Deg neu trwy gyflwyniadau cartref, sy’n cynnig cefnogaeth wedi’i deilwra i fodloni anghenion pob teulu.    

Mae gwahanol weithdai a sesiynau hefyd ar gael ar gyfer rhieni Dechrau’n Deg sy’n gallu bod yn fuddiol iawn, yn eu plith mae:  

  • Delio gyda phyliau o dymer ddrwg 

  • Curo Straen 

  • Rheoli ymddygiad plant 

  • Babi newydd yn y teulu 

  • Cychwyn yn yr ysgol 

  • Magu plant ar ôl gwahanu 

  • Cefnogi plant trwy newid a cholled 

  • Bwyta’n iach a choginio ar gyllideb  

    Cefnogaeth Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu  

  1. Cefnogaeth Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu  

Rhieni yw athro cyntaf babi a phlentyn ifanc.    

Mae Dechau’n Deg yn cefnogi rhieni i feithrin cyfathrebu ac awyrgylch iaith gryf i wella datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu plentyn a dysgu i siarad. Mae’r blynyddoedd o enedigaeth i 3 mlwydd oed yn hanfodol o ran datblygu angen cynyddol plentyn i gyfathrebu.   

Mae tystiolaeth yn dangos bod gallu lleferydd, iaith a chyfathrebu yn ddaroganwr pwysig o gynnydd diweddarach mewn llythrennedd ac mae’n effeithio ar sgiliau cymdeithasol yn ogystal ag ymddygiad plant a’u parodrwydd ar gyfer yr ysgol.    

O fewn Blaenau Gwent rydym yn cynnig amrediad o raglenni a gwasanaethau i adnabod anghenion, darparu cefnogaeth a hyrwyddo lleferydd, iaith a chyfathrebu cadarnhaol o fewn teuluoedd trwy ein tîm o Weithwyr Iaith Cynnar, yn eu plith mae:  

Iaith a Chwarae Cynenedigol -  i ddarparu darpar rieni â dealltwriaeth o sut i gyfathrebu gyda’u babi cyn genedigaeth, yn ogystal ag amrediad o sgiliau i gefnogi datblygiad addysgol cynnar eu babi o ddiwrnod eu genedigaeth.   

Elklan ‘Gadewch i ni siarad â’ch babi’ – ar gyfer rhieni gyda babanod 3-12 mis oed – gan ddarparu awyrgylch cyfathrebu cryf trwy weithgareddau rhyngweithiol, hwylus.  

 Plant yn Chwarae – y nod yw cyflwyno strategaethau datblygiad iaith ac arddulliau o ryngweithio i rieni i gefnogi plant sy’n hwyr yn datblygu lleferydd, iaith a chyfathrebu.   

Elklan ‘Gadewch i ni siarad â sawl o dan 5” – y nod yw darparu rhieni a gofalwyr â chyfleodd i drafod syniadau i helpu eu plant i ddysgu gwrando, deall a siarad, yn ogystal â darparu gwybodaeth ar ddatblygiad lleferydd ac iaith arferol ynghyd ag anawsterau cyfathrebu mae plant yn gallu eu cael.   

Therapyddion Lleferydd ac Iaith Dechrau’n Deg – ar gael i gefnogi teuluoedd a’u plant ar sail un i un yn eu cartref neu fel rhan o sesiwn grŵp ble mae plant wedi cael eu hadnabod fel rhai sy’n oedi yn eu datblygiad neu iaith. Yn aml iawn mae plant yn gallu dod yn rhwystredig os oes ganddynt broblemau iaith a lleferydd, ond mae gwneud rhai newidiadau’n gallu eu helpu i wneud llawer o gynnydd.  

Pecyn rhieni Dechrau’n Deg: hwiangerddi

  1. Gofal plant am ddim, o ansawdd ar gyfer plant 2-3 mlwydd oed  

Mae gan blant sy’n byw mewn cartrefi cymwys (yn dibynnu ar y cod post) o fewn ardaloedd Dechrau’n Deg hawl i ofal plant rhan amser am 2.5 awr y diwrnod (12.5 awr yr wythnos), dydd Llun i ddydd Gwener am 42 wythnos y flwyddyn.   

Mae Athro Cynghorol Blynyddoedd Cynnar Dechrau’n Deg yn gweithio gyda phob lleoliad gofal plant Dechrau’n Deg o fewn y Fwrdeistref Sirol er mwyn datblygu cynlluniau cwricwlwm a gweithgareddau addas sy’n ysgogi datblygiad plant dwy flwyddyn oed. Mae’r pwyslais ar osod safonau sy’n cynhyrchu darpariaeth gofal plant ‘o ansawdd’ ar draws yr 11 lleoliad sy’n darparu gofal plant. 

Gweler isod am fanylion yr holl Ddarparwyr Gofal Plant Dechrau’n Deg o fewn Blaenau Gwent.  

Darparwyr Gofal Plant Dechrau’n Deg 

Mae Darparwyr Dechrau’n Deg yn gymysgedd o ddarparwyr lleol a lleoliadau’r awdurdod lleol, fodd bynnag, mae pob un yn cynnig gofal plant o’r un ansawdd uchel ar wahanol adegau, o ddydd Llun i ddydd Gwener: 
 
Awdurdod Lleol: 

  • Swffryd Sunflowers – Adeilad Meithrin, Ysgol Gynradd Swffryd, Swffryd Road, NP11 5WD  

Lleoliad Saesneg gydag elfennau o’r iaith Gymraeg - 9.15 i 11.45  

  • Twinkle Tots – Hwb Dechrau’n Deg Garnlydan, Commonwealth Road, Garnlydan, NP23 5ER 

Lleoliad Saesneg gydag elfennau o’r iaith Gymraeg - 9.15 to 11.45  

  • First Friends – Canolfan Dechrau’n Deg, Attlee Way, Cefn Golau, Tredegar, NP22 3TE 

Lleoliad Saesneg gydag elfennau o’r iaith Gymraeg – 9.15 i 11.45 a 12.30 i 3.30   

Meithrinfeydd Dydd Preifat: 

  • Tweenie Tots  - Canolfan Ieuenctid Brynteg, Brynteg Terrace, Hilltop, Glynebwy, NP23 6NA  

              Lleoliad Saesneg gydag elfennau o’r iaith Gymraeg – 9.15 i 11.45 a 12.45 i 3.15  

  • Mini Me’s – Rose Heyworth Ysgol Gynradd y Mileniwm, Abertyleri, NP13 1SR 

Lleoliad Saesneg gydag elfennau o’r iaith Gymraeg – 9.15 i 11.45 a 1.00 i 3.30  

  • Penrhiw Nursery – Canolfan Plant y Cymoedd Canol, High Street, Blaina,  

NP13 3BN 

Lleoliad Saesneg gydag elfennau o’r iaith Gymraeg – 9.30-12.00 a 1.30 – 3.30  

  • Little Stars – ICC Glynebwy, Strand Annealing Lane, Glynebwy, NP23 6AN 

Lleoliad Saesneg – 9.00-11.30 a 1.00 i 3.30  

  • Jack and Jill’s – (yn agor yn hwyr yn 2016) Hwb Dechrau’n Deg Abertyleri, Safle Ysgol Gyfun Abertyleri, Alma Street, Abertyleri, NP13 1YL 

Lleoliad Saesneg gydag elfennau o’r iaith Gymraeg –9.15 i 11.45  

 
Gwirfoddol: 

  • Cylch Meithrin Pobl Bach – Hwb Dechrau’n Deg Sirhywi, Rhoslan, Tredegar, NP22 4PG 

Lleoliad cyfrwng Cymraeg – 9.15 i 11.45 a 12.30 i 3.30  

  • Cylch Meithrin Helyg Bychan – Ysgol Gymraeg Bro Helyg, Ystâd Ddiwydiannol Rising Sun, Blaina, NP13 3DQ 

Lleoliad Cymraeg a Saesneg – 9.00 i 11.30 a 12.45 i 3.15  

  • Cylch Meithrin Gwdi Hw – Hwb Dechrau’n Deg Brynithel, Penrhiw, Brynithel, Abertyleri NP13 2GZ 

Lleoliad cyfrwng Cymraeg – 9.15 i 11.45  

Ffoniwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar 08000 32 33 39 i weld a ydych yn gymwys am unrhyw un o’r gwasanaethau am ddim hyn ac i wirio am argaeledd lleoedd gofal plant gwag.  

Gallwch hefyd ddod o hyd i ddiweddariadau a gwybodaeth ar:  

Dolen Facebook– www.facebook.com/bgfis 

Dolen Twitter - @bgfis 

Gwefan:www.bgfis.org.uk 

E-bost: fis@blaenau-gwent.gov.uk 

Gwybodaeth Gyswllt

Enw’r Tîm: Rheolwr Rhaglen Dechrau’n Deg 

Rhif Ffôn: 01495 354786 

Cyfeiriad: Canolfan Plant Integredig Y Cymoedd Canol, High Street, Blaina, Blaenau Gwent, NP13 3BN 

Cyfeiriad e-bost: Sherelle.jago@blaenau-gwent.gov.uk