Ydych chi'n adnabod rhywun sydd ar wahân i'w cymuned neu deulu? Rhywun heb lawer o hyder? Rhywun sy'n unig?
Os ydych, yna gallwch helpu
Mae gan Gyngor Blaenau Gwent nifer o 'Gysylltwyr Cymunedol' sy'n gweithio ym mhob rhan o'r Fwrdeisdref i ailgysylltu pobl yn ôl i'w cymunedau. Mae Cysylltwyr Cymunedol hefyd yn gweithio gyda llawer o grwpiau a sefydliadau o fewn cymunedau i helpu pobl i ddod o hyd i weithgareddau a grwpiau a all fod i fudd i'w lles eu hunain.
Nod Cysylltwyr Cymunedol yw cefnogi pobl i:
- Parhau mor annibynnol ag sydd modd
- Gwella eu hymdeimlad o lesiant
- Teimlo'n llai unig
- Teimlo'n rhan o'u cymuned
- Canfod gwybodaeth a chyngor
Gall Cysylltwyr Cymunedol hefyd weithio o fewn cymunedau i gynnig cyngor ac arweiniad i bobl leol am sut y gallant ddefnyddio eu cryfderau, sgiliau a phrofiadau eu hunain i helpu eraill.
Os na allwn ni helpu, byddwn yn gwybod am rywun a all!!
I siarad gyda rhywun am eich Cynllun Cysylltydd Cymunedol, cysylltwch â: 01495 315700
Ebost: communityconnectors@blaenau-gwent.gov.uk
Cwrdd â'r Tîm
Edrychwch ar ein taflen 'Cwrdd â'r tîm' fel y gallwch ddod i adnabod ein Cysylltwyr Cymunedol.
Mathau o grwpiau y gallwn eich cysylltu â nhw:
- Ymarfer Ysgafn
- Turnio Pren
- Grwpiau Cinio
- Dawnsio'r Hen Ddyddiau
- Grwpiau Crefft
- Den Dynion
- Gwydr Lliw
- Grwpiau Coffi
- Grwpiau Gweu
Hoffech chi wybod sut ydym wedi helpu pobl hyd yma? Edrychwch ar ein tudalen 'Sut y gwnaethom helpu'.
Gwybodaeth Gyswllt
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Cyswllt Blaenau Gwent (C2BG) ar 01495 315700.
E-bost: communityconnectors@blaenau-gwent.gov.uk
DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk