Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff Y Nadolig a'r Flwyddyn Newyd 2025 - 2026
Bydd casgliadau Ailgylchu a Gwastraff ddeuddydd yn hwyr yn ystod wythnos y Nadolig ac un diwrnod yn hwyr yn ystod cyfnod y Flwyddyn Newydd.
Y dyddiadau casglu dros dro ar gyfer yr Wythnos yn Dechrau Dydd Llun 22 Rhagfyr a Dydd Llun 29 Rhagfyr yw:
| Dydd Llun 22 Rhagfyr 2025 | DIWRNOD CASGLU ARFEROL |
| Dydd Mawrth 23 Rhagfyr 2025 | DIWRNOD CASGLU ARFEROL |
| Dydd Mercher 24 Rhagfyr 2025 | DIWRNOD CASGLU ARFEROL |
| Dydd Iau 25 Rhagfyr 2025 | Dydd Sadwrn 27 Rhagfyr 2025 |
| Dydd Gwener 26 Rhagfyr 2025 | Dydd Sul 28 Rhagfyr 2025 |
| Dydd Llun 29 Rhagfyr 2025 | DIWRNOD CASGLU ARFEROL |
| Dydd Mawrth 30 Rhagfyr 2025 | DIWRNOD CASGLU ARFEROL |
| Dydd Mercher 31 Rhagfyr 2025 | DIWRNOD CASGLU ARFEROL |
| Dydd Iau 2 Ionawr 2026 | Dydd Gwener 2 Ionawr 2026 |
| Dydd Iau 2 Ionawr 2026 | Dydd Sadwrn 3 Ionawr 2026 |
Yr Wythnos yn Dechrau Dydd Llun 5 Ionawr 2026. Bydd casgliadau’n ailddechrau yn ôl yr arfer.
Dyma atgoffa Preswylwyr i barcio'n gyfrifol yn ystod cyfnod y Nadolig er mwyn osgoi unrhyw darfu ar eich casgliadau dyddiol a chasgliadau eich cymdogion.
Os na fydd casgliadau’n gallu cael eu gwneud gan fod mynediad wedi'i rwystro, efallai na fydd criwiau'n gallu dychwelyd.
Cewynnau a Hylendid
Bydd sachau Cewynnau a Hylendid y Gwasanaeth Casglu yn cael eu casglu o'r man casglu arferol Ddydd Sul 28 Rhagfyr 2025 a Dydd Sadwrn 3 Ionawr 2026.
Ailgylchu Eich Coeden Nadolig Go Iawn
Bydd Adran Gwastraff y Cyngor yn cynnig gwasanaeth i gasglu ac ailgylchu eich Coeden Nadolig Go Iawn o Ddydd Llun 5 Ionawr 2026. Cysylltwch â C2BG ar 01495 311556 i gofrestru'ch manylion neu cofrestrwch ar adran Fy Ngwasanaethau Cyngor ar wefan y Cyngor yn www.blaenau-gwent.gov.uk i gadarnhau diwrnod casglu ar gyfer eich Coeden Nadolig.
Casgliadau Gwastraff Swmpus
Bydd casgliadau'n ailddechrau Ddydd Llun 5 Ionawr 2025. Cysylltwch â C2BG ar 01495 311556 neu ewch i Fy Ngwasanaethau Cyngor yn www.blaenau-gwent.gov.uk i drefnu casgliad.
Canolfannau Ailgylchu a Gwastraff y Cartref [CAGCau], Safleoedd Bro Newydd a Roseheyworth
Ystâd Ddiwydiannol Waun-y-Pound, Glynebwy, NP23 6PL
Parc Busnes Roseheyworth, Ffordd Roseheyworth, Abertyleri, NP13 1SP
Bydd Canolfannau Ailgylchu'r Cyngor ar agor yn ystod cyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd rhwng 9.00am a 5.30pm [mynediad olaf am 5.20pm], er mwyn i breswylwyr gael gwared ar ddeunydd gwastraff.
Bydd y ddau safle ar gau ar Ddydd Nadolig, Dydd San Steffan a Dydd Calan yn unig.
Bydd y ddau safle yn dal i fod ar gau ar eu diwrnodau cau arferol, sef bob Dydd Mawrth a Dydd Mercher yn Roseheyworth a phob Dydd Iau a Dydd Gwener yn y Fro Newydd.
Gwybodaeth ychwanegol ar gyfer y Nadolig
Ailgylchwch Gardiau Cyfarch Plaen Yn Unig - Ni allwn dderbyn cardiau Nadolig gyda gliter neu ategolion fel rhubanau, pom-poms, gleiniau ac ati fel rhan o'n casgliad ailgylchu a bydd angen i chi eu rhoi nhw yn eich bagiau du.
Papur Lapio’r Nadolig – Does dim modd ei ailgylchu, rhowch e mewn bag/bin du ar gyfer eich casgliad sbwriel bob 3 wythnos.
Papur Brown a Llwyd - i'w gynnwys gyda chardfwrdd i'w ailgylchu.
Cardfwrdd – Gofynnir i breswylwyr blygu a thorri eu cardfwrdd a'i osod yn eu sach(au) casglu gwyn pwrpasol. Sylwch y bydd cardfwrdd yn dal i gael ei ailgylchu waeth pa gerbyd sy’n ei gasglu.
Dylai unrhyw Gardfwrdd Mawr/Swmpus na ellir ei dorri i ffitio yn y sach(au) casglu gwyn pwrpasol gael ei gludo i Ganolfannau Ailgylchu a Gwastraff y Cartref y Fro Newydd, Glynebwy a Roseheyworth, Abertyleri.
Unrhyw Bolystyren - Bydd angen ei roi yn eich bagiau du i'w gasglu.
Lwfans Bagiau Du – Dyma atgoffa'r holl breswylwyr fod yr holl lwfansau gwastraff bagiau du – naill ai pedwar bag du neu un bin olwynion – yn dal i fod ar waith dros gyfnod yr ŵyl. Ni fyddwn yn casglu unrhyw wastraff ychwanegol wrth ochr neu ar ben eich bin sy'n fwy na'r lwfans pedwar bag du / un bin olwynion. Bydd y gwaith o orfodi'r polisi hwn yn parhau dros gyfnod y Nadolig.
Gwastraff Gormodol - Gall preswylwyr fynd ag unrhyw wastraff bagiau du gormodol i'n Canolfannau Ailgylchu [wedi'i gyfyngu i 4 bag du] ond gwnewch yn siŵr fod yr holl ailgylchu wedi'i dynnu o’r bagiau cyn ymweld â'r safle.
Eitemau Trydanol Bach, Batris a Thecstilau - Gellir eu casglu'n wythnosol ar yr un pryd â'ch casgliad ailgylchu rheolaidd. Rhowch yr eitemau mewn bagiau a'u rhoi naill ai ar ben neu wrth ochr eich cynwysyddion ailgylchu.
