Gallwch ailgylchu eich gwastraff gwyrdd bob bythefnos o ddydd Llun 30 Mawrth 2026 i ddydd Gwener 6 Tachwedd 2026.
Dylid nodi nad oes angen i chi bellach gofrestru i ddefnyddio’r gwasanaeth casglu am ddim.
Gofynnir i chi roi eich sachau gwyrdd mas i gael eu casglu cyn 7am ar eich diwrnod casglu, yn eich man casglu ailgylchu.
Oherwydd y cyfyngiadau cyllidebol sylweddol presennol, mae'r Cyngor wedi cymeradwyo tâl o £2.20 am bob sach gwastraff gwyrdd.
Os ydych angen sachau gwyrdd, fydd ar gael i’w harchebu o ddydd Llun 23 Mawrth, ewch i Fy Ngwasanaethau neu ffonio 01495 311556.
Cliciwch yma ar gyfer Cwestiynau Cyffredin ar brynu sachau gwastraff gwyrdd.
Dim ond sachau gwyrdd a ddarperir gan y cyngor y dylech eu defnyddio i gyflwyno eich gwastraff gwyrdd. Ni chaiff unrhyw wastraff gwyrdd a roddir mewn unrhyw ddaliedyddion eraill, yn cynnwys sachau hesian ailgylchu glas, eu casglu. Nid ydym chwaith yn medru gwagu “bagiau tunnell” wedi eu llenwi gyda gwastraff gwyrdd.
NODWCH OS GWELWCH YN DDA – Nid ydym bellach yn darparu gwasanaeth casglu gwyrdd yn ystod y gaeaf, gyda CHASGLIADAU BOB BYTHEFNOS YN DOD I BEN DDYDD GWENER 6 TACHWEDD 2026
Caiff dyddiadau casglu y flwyddyn nesaf eu cadarnhau yn gynnar yn 2027.
Yn ystod y cyfnod pan nad yw’r Cyngor yn darparu casgliadau gwastraff gwyrdd, gallwch fynd â’r gwastraff hwn i’r Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu Cartrefi (HWRC) yn New Vale, Glynebwy a Roseheyworth, Abertyleri. I gael mwy o wybodaeth am ganolfannau HWRC yr Awdurdod, defnyddiwch y ddolen isod os gwelwch yn dda:
Casgliadau
Casgliadau Wythnos 1
Bydd casgliadau bob bythefnos yn dechrau yn yr wythnos yn cychwyn ddydd Llun 30 Mawrth 2026 ar gyfer yr ardaloedd isod:
|
DYDDIAU LLUN Mawrth: 30 Ebrill: 13/27
|
Pochin, Tredegar |
|
DYDDIAU MAWRTH Mawrth: 31 Ebrill: 14/28 |
• Troedrhiwgwair, Tredegar |
|
DYDDIAU MERCHER Ebrill: 1/15/29 |
• Rasa, Glynebwy |
|
DYDDIAU IAU Ebrill: 2/16/30 |
• Glyncoed (Rhan), Glynebwy |
|
DYDDIAU GWENER Ebrill: 3/17 |
• Rhiw Beaufort, Glynebwy |
Casgliadau Wythnos 2
Bydd casgliadau bob bythefnos yn dechrau yn yr wythnos yn cychwyn ddydd Gwener 6 Tachwedd 2026 ar gyfer yr ardaloedd isod:
|
DYDDIAU LLUN Ebrill: 6/20 Tachwedd: 2 |
• Brynmawr |
|
DYDDIAU MAWRTH Ebrill: 7/21 Tachwedd:3 |
• Nantyglo |
|
DYDDIAU MERCHER Ebrill: 8/22 Tachwedd: 4 |
• Winchestown, Nantyglo |
|
DYDDIAU IAU Ebrill: 9/23 Tachwedd: 5 |
• Roseheyworth, Abertyleri |
|
DYDDIAU GWENER Ebrill: 10/24 Tachwedd: 6 |
• Aber-bîg, Abertillery |
Cyn i chi ddechrau
Byddwch angen eich enw defnyddiwr a chyfrinair Fy Ngwasanaethau neu greu cyfrif drwy glicio greu cyfrif ar y sgrîn mewngofnodi.
Defnyddiwch borwr tebyg i Chrome, Edge neu Safariii gael mynediad i Fy Ngwasanaethau. Ni fydd yn gweithio yn Internet Explorer.
Os ydych angen help
Os oes gennych unrhyw sylwadau ar gasgliadau gwastraff gwyrdd, anfonwch e-bost at info@blaenau-gwent.gov.uk neu ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 01495 311556.