Mae Siop Ailddefnyddio The Den yn awr ar agor

Mae Siop Ailddefnyddio The Den yn y Ganolfan Ailgylchu newydd yn Roseheyworth:
Parc Busnes Roseheyworth, Heol Roseheyworth, Abertyleri, NP13 1SP a chaiff ei rhedeg gan Wastesavers, ein partner.

Cafodd yr eitemau a werthir oes newydd ar ôl dod i Ganolfan Ailgylchu Roseheyworeth a gellir eu prynu o’r siop am brisiau rhagorol.

Mae The Den ar agor 6 diwrnod yr wythnos, dydd Mercher – dydd Llun o 9.30am tan 5:30pm, mae’r safle ar gau ar ddyddiau Mawrth.

Mae The Den yn gwerthu eitemau a gafodd eu hachub rhag cael eu taflu gan weithwyr a gwirfoddolwyr yn y Ganolfan Ailgylchu. Gellir hefyd gyfrannu eitemau i’r siopau, felly os ydych yn mynd draw i’r ganolfan ailgylchu, cyfrannwch unrhyw eitemau y gellid eu hailddefnyddio os gwelwch yn dda!

Mae gweithwyr a gwirfoddolwyr yn gwirio i sicrhau fod yr eitemau mewn cyflwr diogel ac yn gweithio’n dda – cyn eu glanhau’n drwyadl a’u rhoi ar werth.

O lyfrau i deganau, beiciau, llestri, addurniadau, DVDs, celfi bach a laler mwy. Felly dewchi  ymweld â ni a sicrhau bargen!

Siop Ailddefnyddio The Den Facebook

Byddem wrth ein bodd yn cymryd pob rhodd ond ni allwn dderbyn popeth - beth na ellir ei  rhodd.

Siop Ailddefnyddo Y Den

Canolfan Ailgylchu RoseheyworthParc Busnes Roseheyworth, Heol Roseheyworth, Abertyleri, NP13 1SP