Terfyn Cyflymder Diofyn – Dweud eich barn

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu'r camau nesaf ar 20mya yn y datganiad i'r wasg hwn: 20mya: Yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth yn disgrifio cynllun ar gyfer targedu newid | LLYW.CYMRU

Hefyd mae'r dudalen Cwestiynau Cyffredin wedi'i diweddaru i adlewyrchu hyn: Cyflwyno terfynau cyflymder 20mya: cwestiynau cyffredin | LLYW.CYMRU

Os oes gennych awgrymiadau (ynghyd â rhesymau dilys) pam y dylai ffordd gael ei heithrio o’r terfyn cyflymder cenedlaethol 20mya yng Nghymru, anfonwch nhw i TrafficManagement@blaenau-gwent.gov.uk cynhwyswch eich enw a'ch cyfeiriad fel y gallwn gofrestru eich awgrym.

Byddwn yn cofnodi eich adborth ac yn ei adolygu unwaith y bydd canllawiau eithriadau newydd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Disgwyliwn dderbyn y canllawiau hyn erbyn yr haf.

Ni fyddwn yn gallu cofnodi unrhyw sylwadau cyffredinol am y Polisi Cenedlaethol 20mya, gan mai mater i Lywodraeth Cymru a Gweinidogion Llywodraeth Cymru yw hynny.

Os yw eich adborth yn ymwneud â Chefnffordd, nid cyfrifoldeb yr Awdurdodau Lleol yw’r rhain, felly e-bostiwch TrunkRoads20mph@gov.wales Mae rhagor o wybodaeth am Gefnffyrdd ar gael ar MapDataCymru.