Cynllun Partneriaeth LABC

Cynllun Partneriaeth Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol (LABC)

Bwriad y Cynllun Partneriaeth LABC yw helpu’r sawl sy’n gwneud gwaith dylunio ac adeiladu mewn amryw leoliadau ar draws y wlad, gan weithio gyda sawl cyngor gwahanol

Sut mae’r cynllun yn gweithio?

Fel partner cofrestredig gyda’r Cyngor, gallwch drafod eich ceisiadau a chyflwyno’ch ceisiadau Rheoli Adeiladu i ni ym Mlaenau Gwent, ble bynnag mae’r safle. Byddwch yn trafod gyda chi a’r Cyngor arolygu yn ystod y broses gymeradwyo, ac ar y diwedd byddwn yn cyhoeddi argymhellion ar gyfer cymeradwyaeth, fel bo’n briodol, ar gyfer y Cyngor arolygu.

Unwaith i’r gwaith gychwyn ar y safle, y cyngor perthnasol bydd yn rheoli’r cam adeiladu a darparu arolygiadau ar y safle a chyngor i’r tîm ar y safle.

Manteision

  • Arbed amser ac arian ar weinyddiaeth a theithio diangen
  • Un pwynt cyswllt yn eich cyngor o ddewis i chi siarad â hwy ar unrhyw adeg
  • Cyngor cyson ar safonau adeiladu
  • Proses cymeradwyo symlach a chyflymach
  • Arolygiadau lleol gan dîm proffesiynol yn agos at eich safle sy’n golygu eich bod yn manteisio o wybodaeth leol trwy gydol y cam adeiladu
  • Defnydd o logo LABC ar ohebiaeth gyda’ch cwsmeriaid, cytundebwyr a gweithwyr proffesiynol eraill

Os hoffech drafod Cynllun Partner LABC neu os oes diddordeb gennych mewn ymuno â’r cynllun, ffoniwch 01495 355521 neu ewch i wefan LABC

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Rheoli Adeiladu
01495 364848
Rheoli Adeiladu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy, NP23 6DN


Building.control@blaenau-gwent.gov.uk