Cyllideb Blaenau Gwent 2023/2024

Mae’r Cyngor yn wynebu amrywiaeth o bwysau ariannol sydd wedi arwain at fwlch cyllid sylweddol. Rydym wedi llunio cyfres o gynigion am arbedion i geisio mynd i’r afael â’r diffyg hwn, a hoffem eich barn arnynt. Maent yn debygol o gynnwys newidiadau i rai gwasanaethau, a chynnydd yn y Dreth Gyngor.

Bydd hefyd arolwg ar-lein fydd ar gael o’r wythnos nesaf.

Dywedodd y Cynghorydd Steve Thomas, Arweinydd y Cyngor:

“Nid yw gosod Cyllideb eleni yn dasg rwydd, ac mae’n bwysig ein bod yn mynd mas ac yn ymgysylltu gyda phobl yn ein cymunedau fel y gallwn esbonio maint yr her a’r penderfyniadau allweddol sy’n ein hwynebu.

“Rydym hefyd eisiau eu holi am eu barn ar flaenoriaethau a syniadau ar gyfer gwariant y cyngor.”