Cais am Gyllid Mannau Cynnes

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi derbyn grant gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Mannau Cynnes yn y fwrdeistref.   

Bydd y grantiau Mannau Cynnes yn cael eu gweinyddu gan Gyngor Blaenau Gwent a bydd cyllid yn cael ei ddyrannu i gefnogi Mannau Cynnes presennol neu newydd sy'n canolbwyntio ar ddarparu: 

  • lluniaeth sylfaenol, byrbrydau a phryd os yn bosibl
  • cyfleoedd i gymdeithasu
  • cyngor a chymorth ar faterion ariannol, iechyd a lles neu gynhwysiant digidol.
  • gweithgareddau fel ymarfer corff, celfyddydau a gweithgareddau diwylliannol.

 

Bydd grantiau bach o tua £1500 ar gael i ymgeiswyr sy'n bodloni'r meini prawf hyn. Bydd angen i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais byr ar-lein i nodi sut maen nhw'n bwriadu gweithredu'r mannau cynnes a dangos beth maen nhw'n bwriadu gwario'r grant arno, megis costau rhedeg, lluniaeth neu gostau offer.

Gwneud cais am Gyllid Mannau Cynnes

Bydd y broses ymgeisio ar agor yn amodol ar y cyllid sydd ar gael. Sylwch y bydd y cais yn cau ar 6ed o Hydref 2025.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Anna.Watkins-Hughes@blaenau-gwent.gov.uk