Coed a Warchodir (TPOs)

Ein Hysbysu am Broblem gyda Choed

Ar hyn o bryd mae Tîm Seilwaith Gwyrdd Cyngor Blaenau Gwent yn cydlynu rheoli stoc coed y Cyngor sydd ar dir sydd ym mherchnogaeth Cyngor Blaenau Gwent. 

Cafodd y Polisi Coed ar gyfer Tir y mae'r Cyngor yn Berchen Arno a Choed a Choetiroedd a gaiff eu Rheoli ei gynhyrchu i hysbysu'r cyhoedd, Cynghorwyr, staff a phartïon eraill am pryd, pam a sut y bydd Cyngor Blaenau Gwent yn gwneud gwaith i goed a choetiroedd sydd ar ein tir.

Mae'r Cyngor yn cydymffurfio gyda'r holl ddeddfwriaeth statudol perthnasol a pholisi lleol a chenedlaethol yn ymwneud â rheoli coed a choetiroedd. Mae hyn yn cynnwys rheoli coed i ostwng y perygl cysylltiedig yn ogystal â rhoi ystyriaeth i'r manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y mae stoc coed gwledig iach yn eu rhoi.

Gofynnir i chi ddefnyddio'r ffurflen hysbysu am broblem gyda choed i anfon ymholiad neu ein hysbysu am broblem gyda choed a choetiroedd ar dir y mae'r Cyngor yn eiddo arno.

Gorchmynion Cadw Coed o fewn Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Mae Gorchmynion Cadw Coed (TPOs) yn berthnasol i goed a choetiroedd penodol yn y Sir i helpu eu gwarchod.

Mae’n anghyfreithlon torri, tocio, dinistrio, difrodi neu wneud unrhyw waith os oes TPO mewn lle. Er mwyn gwneud gwaith, rhaid i chi gwblhau ffurflen gais.

Os ydych yn cynnig gwneud gwaith ar unrhyw goeden neu goetiroedd o fewn Ardal Gadwraeth bydd hefyd angen i chi gwblhau ffuflen gais i gael caniatâd i wneud unrhyw waith

Gwybodaeth a chyngor