Rhoddir hysbysiad drwy hyn bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (‘y Cyngor’) yn cynnig, at ddibenion lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, ymestyn y Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus presennol o dan Adran 60(2) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.
Hoffai’r Cyngor ofyn am eich barn ar y cynnig hwn i ymestyn Gorchmynion presennol 2019 am 3 blynedd arall o 1 Mai 2022. Cafodd yr arolwg ei gau ar 28 Ebrill 2022.
Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus
Disodlwyd 19 o bwerau yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol gan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 a sefydlu 6 phwer ehangach yn eu lie. Bu hyn o gymorth i symleiddio gweithdrefnau i ganiatau ymateb cyflymach i ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Cyflwynodd Penned 2 (Adrannau 59 i 75) Deddf 2014 bwer newydd o'r enw Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (PSPO).
Pwy gaiff wneud Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus?
Cynghorau sy'n gyfrifol am wneud Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus, er bod y pwerau gorfodi yn llawer ehangach. Gall Swyddogion yr Heddlu, Swyddogion Cymorth Cymunedol a phersonau wedi ei hawdurdodi, sy'n golygu person sydd wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod lleol a wnaeth y gorchymyn, orfodi'r gwaharddiadau a'r gofynion.
Beth yw Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus?
Diben y PSPO yw ymdrin a niwsans neu broblem benodol mewn ardal benodol sy'n niweidiol i ansawdd bywyd y gymuned leol, yn amodol ar fodloni'r 'prawf sail resymol' isod. Mae'r PSPO yn gosod amodau ar ddefnyddio'r ardal honno ac mae wedi'i gynllunio i sicrhau y gall y mwyafrif sy'n cydymffurfio a'r gyfraith ddefnyddio a mwynhau'r mannau cyhoeddus, yn ddiogel rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Prawf Sail Resymol
Caiff awdurdod lleol wneud PSPO ar sail resymol cyn belled a bod y ddau amod canlynol wedi eu bodloni:
- Yn gyntaf, mae gweithgareddau a gynhelir mewn man cyhoeddus wedi cael neu'n debygol o gael effaith niweidiol ar ansawdd bywyd y rhai sydd yn yr ardal;
- Yn ail, mae'r gweithgareddau hynny yn, neu'n debygol o fod yn barhaol, yn gyson eu natur neu'n afresymol; ac yn cyfiawnhau'r cyfyngiadau a osodir gan yr hysbysiad.
Ardaloedd Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus
- Parc Manwerthu Lakeside, Nantyglo
- Glyn Ebwy (i gynnwys: Maes Parcio aml-lawr yng nghanol y dref, Stryd Bethcar, Stryd y Farchnad, The Walk)
- Maes Parcio Aml-lawr a Rhodfa Calch, Glyn Ebwy
- Stryd Fasnachol, Tredegar
i gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a'r Tim Polisi, Diogelwch y Gymuned ar 01495 311556.
Dogfennau Cysylltiedig
- GGMC Parc Manwerthu Lakeside, Nanyglo - Rhif 1 2019
- GGMC Parc Manwerthu Lakeside, Nanyglo - Cynllun
- GGMC Stryd Y Farchnad, Glyn Ebwy - Rhif 2 2019
- GGMC - Stryd Y Farchnad, Glyn Ebwy - Cynllun
- GGMC Stryd Bethcar, Glyn Ebwy - Rhif 3 2019
- GGMC Stryd Bethcar, Glyn Ebwy - Cynllun
- GGMC The Walk, Glyn Ebwy - Rhif 4 2019
- GGMC The Walk, Glyn Ebwy - Cynllun
- GGMC Rhodfa Calch, Glyn Ebwy - Rhif 5 2019
- GGMC Rhodfa Calch, Glyn Ebwy - Cynllun
- GGMC Stryd Fasnachol, Tredegar - Rhif 6 2019
- GGMC Stryd Fasnachol, Tredegar- Cynllun