Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yng Nghymru yn ymweld â dwy ysgol ym Mlaenau Gwent

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yng Nghymru, Lynne Neagle AS, wedi ymweld â Blaenau Gwent i weld sut mae cyllid Llywodraeth Cymru yn gwella ac yn adeiladu ysgolion yn y fwrdeistref.

Cyfarfu Mrs Neagle â disgyblion a staff, cynrychiolwyr y Cyngor a chontractwyr yn Ysgol Gynradd Glyncoed yng Nglynebwy a'r ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd sbon, Ysgol Gymraeg Tredegar.

Adeiladwyd Ysgol Gynradd Glyncoed, sydd â 360 o leoedd, diolch i bartneriaeth rhwng Cyngor Blaenau Gwent a Llywodraeth Cymru drwy raglen ariannu Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Costiodd yr ysgol £13.5 miliwn, gyda thraean wedi'i ariannu gan y Cyngor. Mae'r adeilad hefyd yn cynnwys meithrinfa dydd cyfrwng Cymraeg, a ariennir drwy Grant Cyfalaf y Cynnig Gofal Plant.

Mae Ysgol Gymraeg Tredegar yn ysgol egin â 210 o leoedd, gyda gofal plant ar yr un safle, yn Chartist Way. Costiodd yr ysgol £17 miliwn, ac fe'i hariannwyd yn llawn gan Lywodraeth Cymru. Gyda nifer y plant mewn addysg Gymraeg yn tyfu, mae'n rhan o ymrwymiad y Cyngor i gynyddu cyfleoedd i deuluoedd o fewn y fwrdeistref sirol. Mae'r ysgol wedi'i hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru trwy'r Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg. Mae gan yr ysgol Ardal Gemau Aml-ddefnydd (MUGA), ardal chwarae coedwig, perllan sy'n tyfu, dolydd blodau gwyllt a man chwarae cyfagos. Mae ganddi hefyd baneli solar a phwyntiau gwefru cerbydau trydan

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

"Mae wedi bod yn wych gweld uniongyrchol y gwaith sydd wedi'i wneud gan dimau arweinyddiaeth, staff a'r cyngor i ddarparu cyfleusterau modern wedi'u cynllunio ar gyfer dysgwyr a'r cymunedau maen nhw'n byw ynddynt. Roeddwn i'n falch iawn o weld yr amgylcheddau dysgu hyblyg yng Nglyncoed, gwell darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a mannau wedi'u cynllunio i'w defnyddio gan y gymuned ehangach.

"Mae mor ysbrydoledig gweld dysgwyr yn ffynnu yn Ysgol Gymraeg Tredegar, yr ail ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn y fwrdeistref, gyda dros £17m o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru.  Rwy'n gobeithio y gall y dysgwyr fwynhau ac elwa gwirioneddol o ddysgu yn eu hysgol newydd."

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Glyncoed, Joanne Weightman:

“Roeddem yn hynod falch o groesawu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i’n hysgol. Roedd yn gyfle gwych i arddangos yr amgylchedd dysgu bywiog rydym wedi’i sefydlu ar gyfer ein disgyblion, ac i rannu’r gwaith caled, y weledigaeth a’r ymroddiad sydd wedi mynd i greu amgylcheddau dysgu pwrpasol, dan do ac yn yr awyr agored. Roedd yr ymweliad yn foment arwyddocaol i gymuned ein hysgol, ac rydym yn ddiolchgar am amser, diddordeb a chefnogaeth y Gweinidog.”

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gymraeg Bro Helyg, Janine Wardill:

“Fel Pennaeth Ysgol Gymraeg Tredegar, roeddwn i’n hynod falch o groesawu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i’n hysgol ac roedd yn anrhydedd. Mae’r ymweliad hwn yn adlewyrchu’r weledigaeth gref ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ym Mlaenau Gwent - gweledigaeth a ddaeth yn fyw trwy ymrwymiad a chydweithrediad Llywodraeth Cymru, yr awdurdod lleol, ein llywodraethwyr, staff, rhieni a’r gymuned ehangach. Wrth i ni weld y weledigaeth gyffredin hon yn cael ei gwireddu er budd ein dysgwyr, rydym yn hynod falch o’r hyn a gyflawnwyd ac yn gyffrous am ddyfodol addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.”

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd, Blaenau Gwent:

“Rydym wrth ein bodd yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn  ystâd ysgolion yma ym Mlaenau Gwent a’i moderneiddio. Ein blaenoriaethau yw rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn, darparu amgylcheddau dysgu cynhwysol a meithringar, ac ysbrydoli dysgu gydol oes. Mae cael y cyfleusterau gorau y gallwn eu cynnig yn golygu bod gan ein plant a’n pobl ifanc y cyfleoedd y maent yn eu haeddu i ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn.”