Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg Blaenau Gwent yn dathlu adroddiad arolygu

Llongyfarchiadau i Ysgol Gymraeg Bro Helyg sydd wedi derbyn adborth gwych o'i arolwg diweddar gan Estyn. Roedd adroddiad yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn y Blaenau yn adlewyrchu ymrwymiad yr ysgol i ragoriaeth, cynhwysiant a lles disgyblion.

Tynnodd yr adroddiad sylw at:

✅ Gymuned ofalgar a chynhwysol lle mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel a’u bod yn cael eu cefnogi
✅ Arweinyddiaeth gref sy'n meithrin diwylliant o gydweithredu ac uchelgais
✅ Disgyblion sy'n barchus, yn hyderus, ac yn ymfalchïo yn eu dysgu
✅ Cwricwlwm ysgogol sy'n herio ac yn cefnogi pob dysgwr
✅ Defnydd creadigol o fannau awyr agored i ennyn chwilfrydedd ac ymgysylltiad
✅ Staff sy'n darparu profiadau dysgu cyffrous ac yn annog hunanfyfyrio
✅ Disgyblion yn gwneud cynnydd cryf yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig
✅ Addysgu cadarn sy'n hyrwyddo meddwl annibynnol a chydweithredu

Canmolwyd hefyd y ddarpariaeth arbenigol 'ragorol' yn y Noddfa, sy'n cefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, a datblygiad effeithiol sgiliau digidol a rhifedd drwy brosiectau cyfoethog.

Meddai’r Pennaeth, Janine Wardill:

"Rydyn ni’n hynod falch o’r adroddiad Estyn. Mae'n adlewyrchu ymroddiad ein staff, brwdfrydedd ein disgyblion, a chefnogaeth barhaus ein rhieni a'n llywodraethwyr. Mae'n dyst i'r holl waith caled sy'n digwydd bob dydd ym Mro Helyg.

"Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at arweinyddiaeth gref yr ysgol, cwricwlwm deniadol, a'r amgylchedd gofalgar sy'n cefnogi disgyblion i ffynnu'n academaidd ac yn bersonol.

"Hoffem ddiolch yn ddiffuant i'n teuluoedd am eu cefnogaeth barhaus, ac estyn ein gwerthfawrogiad llawn i'r staff, y disgyblion a'r Llywodraethwyr am eu hymroddiad, eu gwaith tîm a'u gweledigaeth gyffredin wrth greu cymuned ddysgu fywiog a gofalgar.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Cyngor Blaenau Gwent dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

"Mae'r adroddiad hwn yn dyst i ymroddiad cymuned gyfan yr ysgol. Da iawn i'r holl staff, disgyblion, a theuluoedd - mae eich gwaith caled wir yn gwneud gwahaniaeth."