Mae gwaith adnewyddu pont a llwyfan pysgota ym Mhwll Cwmcelyn ym Mlaina wedi'i ddadorchuddio'n swyddogol.
Nododd ymgynghoriad â'r gymuned leol fod angen uwchraddio'r ardal i ddiogelu'r strwythurau i bobl eu mwynhau am flynyddoedd i ddod! Mae'r bont yn darparu llwybr uniongyrchol i gymunedau y naill ochr a'r llall; yn llwybr teithio llesol i'r ysgol gyfagos ac yn nodwedd ddeniadol ar gyfer mwynhau Gwarchodfa Natur Cwmcelyn a golygfeydd o'r dyffryn. Mae pobl hefyd yn stopio i wylio’r llawer o fywyd gwyllt sy'n byw ar ac o amgylch y pwll.
Nododd a sicrhaodd y Cyngor gyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (piler Cymunedau a Lleoedd) a Grant Gwella Mynediad Llywodraeth Cymru, sy'n anelu at wella mynediad i gefn gwlad, mannau gwyrdd a thir mynediad agored.
Heddiw, ymunodd cynrychiolwyr Cyngor Blaenau Gwent â disgyblion o Ysgol Gynradd Ystruth, Cymdeithas Tenantiaid a Phresgolion Cwmcelyn, pysgotwyr lleol a chontractwyr Horizon Civil Engineering Ltd i ddathlu ailagor y cyfleusterau.
Meddai'r Cynghorydd Tommy Smith, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gymdogaethau a Gwasanaethau Amgylcheddol:
"Fe wnaethon ni ymgynghori â Chymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr Cwmcelyn, Clwb Pysgotwyr Cwmcelyn a'r gymuned ehangach i ddysgu beth oedd yn bwysig iddyn nhw ac roedd cefnogaeth aruthrol i'r warchodfa natur a'r awydd i'w gweld yn cael ei gwella a'i gwarchod i'w defnyddio nawr ac yn y dyfodol. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu gwneud i hyn ddigwydd, trwy weithio mewn partneriaeth, ac mae wedi bod yn wych bod yma yn yr agoriad a gweld faint mae'n ei olygu i'r gymuned. Diolch i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth ariannol i helpu'r cynlluniau hyn i ddod yn fyw. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw bod yn yr awyr agored a bod ym myd natur ar gyfer lles corfforol a meddyliol, ac rydym wedi ymrwymo i weithio i ddarparu amgylcheddau sy'n hyrwyddo hyn ac sy'n cysylltu cymunedau."
Meddai'r Cynghorydd Lisa Winnett, sy'n cynrychioli ward y Blaenau:
"Hoffwn ddiolch i'r holl swyddogion o'r Cyngor am eu help yn gweithio gyda mi a'r gymuned i adfer yr ased cymunedol gwerthfawr hwn. Mae trigolion yn gwerthfawrogi'r bont hon yn fawr fel cysylltiad cerdded rhwng ystadau a’r ysgol leol, ac i sefyll i wylio natur a mwynhau’r dirwedd hyfryd o amgylch y warchodfa natur."
Meddai Ross Townley, Ysgrifennydd Clwb Pysgota Cwmcelyn:
"Rydym yn ddiolchgar iawn am y gwaith o safon uchel sydd wedi’i wneud ar y bont a'r llwyfan ym Mhwll Cwmcelyn. Mae'r canlyniadau’n werth yr aros, a dylai'r deunyddiau gwydn sydd wedi’u defnyddio sicrhau bod y strwythur yn gwasanaethu'r gymuned yn dda am flynyddoedd lawer. Mae'r gwelliannau hyn eisoes wedi gwneud gwahaniaeth ystyrlon – cefnogi plant ar eu ffordd i'r ysgol, gwella'r profiad i'r rhai sy'n cerdded ar lannau’r pwll bob dydd, ac annog mwy o ddefnydd o'r ardal yn gyffredinol. Mae'r llwyfan newydd hefyd yn darparu gofod diogel, pwrpasol i ni gyflwyno pobl ifanc i bysgota – rhywbeth rydyn ni’n falch o'i gefnogi. Diolch yn fawr i bawb a helpodd i gyflawni'r prosiect gwerthfawr hwn."
Er mwyn sicrhau hirhoedledd y bont a'r llwyfan pysgota, defnyddiwyd plastig cyfansawdd wedi'i ailgylchu. Mae hwn yn ddeunydd cynaliadwy hirhoedlog nad yw’n gofyn am lefel uchel o gynnal a chadw, ac mae ganddo hyd oes o 75 mlynedd.