Penodwyd Dirprwy Arweinydd Newydd.

Yng nghyfarfod Cyngor Llawn Blaenau Gwent, penodwyd y Cynghorydd Tommy Smith yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor. Y Cynghorydd Smith hefyd yw'r Aelod Cabinet dros Gymdogaethau a Gwasanaethau Cymunedol.

Penodwyd y Cynghorydd Jules Gardner yn Aelod Cabinet newydd dros Oedolion a Chymunedau.

Croesawyd y ddau benodiad gan gynghorwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Smith: "Mae'n anrhydedd i mi gael fy mhenodi'n Ddirprwy Arweinydd y Cyngor heddiw a diolch i'm cydweithwyr am yr hyder a ddangoswyd ynof fi. Rwy'n gwbl ymrwymedig i weithio gyda chydweithwyr o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol i gynnig fy nghefnogaeth ac i sicrhau ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd er lles ein cymunedau yma ym Mlaenau Gwent."

Mae'r Cynghorydd Jules Gardner yn camu i swydd yn y Cabinet am y tro cyntaf. Dywedodd: "Rwy'n croesawu'n llwyr yr her a'r cyfle i wasanaethu fel Aelod Cabinet dros Oedolion a Chymunedau, gan adeiladu ar y gwaith gwych a wnaed gan y Cynghorydd Helen Cunningham. Mae hwn yn bortffolio hynod bwysig wrth i ni symud i ffordd newydd feiddgar o weithio gyda'n cymunedau a'n partneriaid, gyda'r nod o adeiladu bwrdeistref decach, fwy gwydn, a fydd yn gwella iechyd a lles etholwyr , tra'n anelu at leihau anghydraddoldebau.”