
Mae Combined Engineering Services Limited (CES Ltd) yn gwmni peirianneg arbenigol sydd wedi’i leoli ar Ystad Ddiwydiannol Barleyfield, Bryn-mawr.
Mae CES Ltd yn dylunio ac yn cynhyrchu offer at ddibenion arbennig ar gyfer y sector gweithgynhyrchu. Mae eu cynhyrchion yn amrywio o offer llaw syml sy’n helpu i gydosod cynhyrchion i systemau cwbl awtomataidd ar gyfer cydosod a phrofi cydrannau modurol.
Ar hyn o bryd, mae’r cwmni’n cyflogi prentis drwy raglen Anelu’n Uchel y cyngor ac mae wedi cynnig swyddi amser llawn i ddau gyn-brentis yn y gorffennol, gan ddangos ei ymrwymiad i ddatblygu talent lleol.
Gyda chymorth gan Grant Datblygu Busnes Blaenau Gwent, mae CES Ltd wedi prynu canolfan beiriannu CNC XYZ 750 TMC newydd. Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi’r cwmni i ymgymryd â phrosiectau mwy cymhleth, gwella effeithlonrwydd gweithredol, a dechrau strategaeth uwchraddio gweithdai ehangach sydd wedi’i hanelu at dwf hirdymor ac arallgyfeirio i farchnadoedd newydd.
Dywedodd Steve Williams, Cyfarwyddwr CES Ltd: ‘Mae’r grant datblygu busnes wedi galluogi CES i fabwysiadu technoleg newydd, arallgyfeirio ei weithrediadau a chefnogi twf cynaliadwy.’
Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet – Lle ac Adfywio a Datblygu Economaidd: ‘Mae’n wych gweld sut mae’r grant wedi helpu CES i gaffael peiriannau newydd, gan ganiatáu iddynt arallgyfeirio a thyfu eu busnes. Roeddwn i’n falch o gyfarfod a siarad â gweithwyr a phrentisiaid sydd wedi bod yn rhan o raglen brentisiaethau Anelu’n Uchel, ac roedd yn wych clywed sut mae’r rhaglen hon hefyd yn cefnogi’r cwmni a phobl ifanc leol.’

Cyfarwyddwyr Christopher Bow a Stephen Williams, a’r Cynghorydd John Morgan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Mae Grant Datblygu Busnes Blaenau Gwent wedi’i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ac yn cael ei reoli gan y Tîm Busnes ac Arloesi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a busnesau presennol ym Mlaenau Gwent.
Dysgwch fwy am y Grant Datblygu Busnes yma.
Dysgwch fwy am raglen brentisiaethau Anelu’n Uchel yma.
Cyfryngau cymdeithasol
https://www.instagram.com/ces_limited
https://www.combined-engineering.co.uk
https://www.linkedin.com/company/combined-engineering-services-ltd