Llongyfarchiadau a Phob Lwc! Pedwar ar bymtheg o fusnesau o Flaenau Gwent ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Busnes

Cyhoeddwyd enwau’r rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobrau Busnes Torfaen, Sir Fynwy a Blaenau Gwent 2025, gan ddathlu cyflawniadau rhagorol busnesau ac entrepreneuriaid ar draws y tair sir.

Mae cyfanswm o 20 o fusnesau o Flaenau Gwent wedi cyrraedd y rhestr fer mewn amrywiaeth o gategorïau, gan gynnwys tri allan o bedwar a gyrhaeddodd y rownd derfynol yng nghategorïau Cyflogwr y Flwyddyn ac Entrepreneur y Flwyddyn. Mae Blaenau Gwent yn ymuno â'r rhestr am y tro cyntaf eleni, gan greu noson fwy cyffrous fyth o gydnabyddiaeth, rhwydweithio ac ysbrydoliaeth.

Wedi'i drefnu gan Grapevine Event Management, mae'r gwobrau'n dathlu cymunedau busnes bywiog a ffyniannus Torfaen, Sir Fynwy a Blaenau Gwent, gan roi cyfle i gydnabod ymroddiad, arloesedd a chyflawniadau busnesau lleol dros y 12 mis diwethaf. Gyda’r nifer uchaf erioed o geisiadau wedi'u derbyn, mae'r beirniaid wedi adolygu pob cyflwyniad yn ofalus i benderfynu ar restr fer eithriadol eleni.

Wrth siarad am y rhestr fer, dywedodd Liz Brookes, Sylfaenydd y Gwobrau a Chyfarwyddwr Grapevine Event Management:

“Rydym wrth ein bodd yn gweld rhai busnesau sy’n dychwelyd o’r llynedd yn gobeithio cadw eu teitlau, ochr yn ochr ag ystod wych o ymgeiswyr newydd, gan gynnwys amrywiaeth gyffrous o fusnesau Blaenau Gwent yn ymuno â ni am y tro cyntaf. Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae’n bwysicach nag erioed i ni ddod at ein gilydd fel cymuned fusnes a chydnabod gwaith caled ac ymroddiad pawb sy’n cyfrannu at y grym y tu ôl i’n heconomïau lleol ac mae’r gwobrau hyn yn rhoi’r cyfle perffaith i ni wneud hynny.”

Meddai’r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet dros yr Economi a Lleoedd yng Nghyngor Blaenau Gwent:

“Mae’n wych gweld cynrychiolaeth mor gryf o Flaenau Gwent yn ein blwyddyn gyntaf o gymryd rhan yn y Gwobrau Busnes. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo’n gadarn i feithrin amgylchedd lle gall busnesau newydd a sefydledig ffynnu, ac rydym yn falch iawn o weld cyflawniadau’r busnesau hyn yn cael eu cydnabod yn y digwyddiad mawreddog hwn. Pob lwc i bawb ac edrychwn ymlaen at ddathlu eich llwyddiant.”

Mae cyfanswm o 50 o ymgeiswyr terfynol wedi cael eu rhoi ar restr fer ar draws 14 categori. Byddant nawr yn cael eu gwahodd i fynychu cyfweliad panel, gyda'r enillwyr i'w cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo tei du ar 27 Tachwedd 2025 yng Ngwesty'r Parkway. Gall gwesteion edrych ymlaen at noson o ddathlu, adloniant a rhwydweithio wrth i gymuned fusnes y rhanbarth ddod ynghyd i anrhydeddu cyflawniadau rhagorol.

Y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer Busnesau Blaenau Gwent yw:

Busnes Creadigol a Digidol y Flwyddyn

  • Games Alchemist

Cyflogwr y Flwyddyn

  • Blackwood Engineering
  • Diack
  • Halton Wales MEI

Entrepreneur y Flwyddyn

  • Matthew Davies - The Social Work Way
  • Tobias Johnson - Games Alchemist
  • Samantha Fitz-Symonds - Accessible Futures Group 

Busnes Gwasanaeth Ariannol a Phroffesiynol y Flwyddyn

  • Kairos-K

Busnes Gwyrdd y Flwyddyn

  • Honest Love Our Planet

Busnes Rhyngwladol y Flwyddyn

  • Blackwood Engineering
  • The Insurgo Group

Busnes Gweithgynhyrchu'r Flwyddyn

  • J C Moulding
  • M&J Europe

Microfusnes y Flwyddyn (llai na 10 o weithwyr)

  • Powell Bespoke Interiors
  • Shape MSP

Busnes Gwledig y Flwyddyn

  • Roundhouse Farm

Busnes Bach a Chanolig y Flwyddyn

  • Clam's Handmade Cakes
  • Waldron Commercials

 Busnes Trydydd Sector y Flwyddyn

  • Session Recall CIC

Busnes Twristiaeth a Lletygarwch y Flwyddyn

  • Wonder Cinema

Person Busnes Ifanc y Flwyddyn

  • Luke Shepard - Luke Shephard Funeral Directors

Mae'r gwobrau hefyd yn cael eu cefnogi a'u noddi gan: Ystad Parc Mamhilad, Cyngor Sir Torfaen, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Sir Blaenau Gwent, Evermore, Stills a Cleartech Live.

Mae BusinessNewsWales hefyd yn cefnogi Gwobrau Busnes Torfaen, Sir Fynwy a Blaenau Gwent fel ei bartner cyfryngau. Mae cyfleoedd noddi ar gael.

Mae tocynnau ar werth nawr ar gyfer Gwobrau Busnes Torfaen, Sir Fynwy a Blaenau Gwent yma.