Lle hapus a gofalgar lle mae disgyblion yn ffynnu - Adroddiad Arolygu Ysgol Gynradd Willowtown

Llongyfarchiadau i bawb yn Ysgol Gynradd Willowtown ar eu hadroddiad Estyn diweddar, sy'n dweud bod yr ysgol yn lle hapus, gofalgar lle mae disgyblion yn ffynnu. 

Nododd arolygwyr: 

✅ Fod disgyblion yn dangos agweddau cadarnhaol iawn at ddysgu 
✅ Bod staff ac arweinwyr yn fodelau rôl cryf
✅ Bod disgyblion ag ADY, gan gynnwys y rhai yn y Ganolfan Adnoddau Anghenion Arbennig, yn gwneud cynnydd da
✅ Bod ymddygiad yn gyson ardderchog 
✅ Bod llywodraethwyr yn chwarae rôl weithredol a chefnogol 
✅ Bod profiadau dysgu bywyd go iawn yn ennyn diddordeb ac yn ysbrydoli, ynghyd ag amgylcheddau dysgu effeithiol 

Mae'r adroddiad hefyd yn canmol diwylliant diogelu cryf yr ysgol a'i rôl fel canolbwynt yn y gymuned, gyda busnesau a theuluoedd lleol yn cymryd rhan weithredol yn addysg y disgyblion. 

Tynnodd Estyn sylw hefyd at ddarpariaeth eithriadol yr adran Blynyddoedd Cynnar a'u tîm. 

Dywed y Pennaeth, Mel Evans:

"Rydym yn hynod falch bod Estyn wedi cydnabod Ysgol Gynradd Willowtown fel ysgol hapus, ofalgar lle mae disgyblion yn ffynnu. Mae'r adroddiad hwn yn dyst i waith caled ac ymroddiad diflino ein staff, llywodraethwyr, disgyblion, a theuluoedd. Mae ein gweledigaeth i Herio, Cyflawni ac Anelu at Fwy yn disgleirio trwy bopeth a wnawn, gan sicrhau bod ein holl blant, gan gynnwys y rhai ag ADY, yn derbyn y profiadau dysgu gorau.

"Canmolodd arolygwyr agweddau cadarnhaol iawn ein disgyblion at ddysgu, sydd wir yn glod i'n hysgol. Rwy'n teimlo'n freintiedig, ochr yn ochr â’m tîm arwain, i arwain Ysgol Gynradd Willowtown – calon ein cymuned."

Meddai'r Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:  

"Da iawn i gymuned gyfan ysgol Willowtown ar yr adroddiad gwych hwn a diolch i'r staff, y llywodraethwyr, y disgyblion a'u teuluoedd am eu hymroddiad a'u gwaith tîm. Rydyn ni’n Gyngor Marmot, wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda'n hysgolion a'n teuluoedd i gefnogi plant a phobl ifanc i gael y dechrau gorau mewn bywyd a gwneud y mwyaf o'u potensial." 

Darllenwch yr adroddiad llawn yma.