Lansio llwybr digidol yng Nglynebwy

Mae llwybr digidol newydd wedi'i lansio yng Nglynebwy sy'n archwilio hanes y dref. Disgyblion o Ysgol Pen-y-Cwm oedd yr ymwelwyr cyntaf i gerdded y llwybr. Roedd y llwybr yn rhan o ddatblygiadau twristiaeth a ariannwyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Comisiynwyd y llwybr gan Gyngor Blaenau Gwent ac mae'n defnyddio’r platfform History Points. Mae 14 o adeiladau, gweithiau celf a safleoedd yn eich tywys ar lwybr cylchol drwy'r dref gan archwilio cysylltiadau â Paul Robeson, hufen iâ Eidalaidd a'i gorffennol diwydiannol. Synnodd y disgyblion o glywed bod y llyfrgell ar un adeg yn gapel uniaith Gymraeg, a bod y rheilffordd yn rhedeg yn syth ar hyd prif stryd y dref.

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Blaenau Gwent dros yr Economi a Lleoedd:

"Mae Glynebwy yn adnabyddus i raddau helaeth am ei hanes diwydiannol, a thyfodd yn gyflym gyda datblygiad cynhyrchu dur. Ochr yn ochr â hyn mae straeon am ymfudwyr Eidalaidd yn dod â hufen iâ i'r cymoedd, artistiaid rhyngwladol ac ymladdwyr dros ryddid yn ymweld â'r dref i ganu yn yr Eisteddfod. Mae'r rhain yn straeon uchelgeisiol am oresgyn adfyd a sut cafodd y dref ei gwneud yn lle gwell i fyw a gweithio gan ei phobl.

"Rydym yn gobeithio y bydd y llwybr yn denu mwy o bobl i'n trefi ac yn eu hannog i aros yn hirach. Glynebwy yw'r llwybr cyntaf i'w lansio - llwybr Abertyleri fydd nesaf, gyda threfi eraill i ddilyn."

Meddai Nichola Fry, Athrawes yn Ysgol Pen-y-Cwm:

"Roedd yn wych cael dangos pa mor uchelgeisiol yw ein dysgwyr a'r hyn y gallan nhw ei gyflawni. Gwnaethom i gyd ddysgu cymaint am Lynebwy ac roedden ni'n gyffrous iawn i weld un o'n dysgwyr, Ciaran Mitchel-Neal, yn ymddangos yn un o'r Pwyntiau Hanes. Bydd dysgwyr eraill o Ben-y-Cwm yn ymweld â'r llwybr cyn bo hir - mae'n ffordd wych o ddysgu mwy am ein hardal mewn ffordd arloesol."

Dywedodd y disgybl Emily Bevan:

"Roedd hi’n hyfryd dysgu am hanes Glynebwy, ac roedd yr hufen iâ yn fonws."

Os hoffech chi ddilyn y llwybr ewch i www.historypoints.org a chlicio ar Tours in Blaenau Gwent (Tours in Blaenau Gwent - History Points).