Mae Holloways Travel yn asiantaeth deithio annibynnol newydd ei sefydlu yn Abertyleri. Maent yn arbenigo mewn darparu atebion teithio pwrpasol, gan gynnwys gwyliau moethus, seibiannau i’r teulu, teithiau antur, mordeithiau, seibiannau yn y DU, a gwasanaethau cyfnewid tramor. Eu cenhadaeth yw darparu profiad teithio hynod bersonol sy’n canolbwyntio ar y gymuned, yn y siop ac ar-lein, wedi’i deilwra i anghenion cwsmeriaid unigol.
Gyda chymorth y Grant Datblygu Busnesau Manwerthu, Gwasanaeth a Lletygarwch, llwyddodd Holloways Travel i gyfarparu’r siop newydd ei hadnewyddu ag offer, desgiau ac arwyddion siop er mwyn gwella golwg y siop.
Dywedodd Gareth Holloway, Cyfarwyddwr Holloway Travels: ‘Mae sicrhau’r grant hwn wedi bod yn hanfodol wrth helpu Holloways Travel i fynd o weledigaeth i realiti. Fe’n caniataodd i ni greu asiantaeth deithio fodern a chroesawgar yng nghanol Abertyleri – un y gall y gymuned fod yn falch ohoni. O’r ailweirio trydanol llawn a’r arwyddion digidol, i flaen y siop a’r arddangosfeydd ffenestr wedi’u brandio, mae pob elfen wedi’i hadeiladu gyda safon a phrofiad cwsmeriaid mewn golwg. Nid yn unig y gwnaeth y cyllid hwn helpu i sefydlu busnes – fe helpodd i lansio breuddwyd, ac rydym mor ddiolchgar am y cymorth i’w gwireddu.’
Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet – Lle ac Adfywio a Datblygu Economaidd: ‘Mae’n wych clywed sut mae ein grant wedi eu helpu i agor siop eu breuddwydion yng nghanol Abertyleri. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i Holloways Travel wrth iddynt ddechrau ar eu taith newydd.’
Mae Grant Datblygu Busnesau Manwerthu, Gwasanaeth a Lletygarwch Blaenau Gwent wedi’i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ac yn cael ei reoli gan y Tîm Busnes ac Arloesi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Nod y grant yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a phresennol ym Mlaenau Gwent.

Llun: Cyfarwyddwr Gareth Holloway a’r Cynghorydd John Morgan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Facebook: @HollowaysTravel
Instagram: Holloways_Travel
Gwefan: https://holloways-travel.co.uk/