Mae Cyngor Blaenau Gwent yn chwilio am bartneriaid i'w helpu i gyflawni ei gynllun peilot Trailblazer.
Mae Cymru yn un o naw lle sy'n derbyn cymorth drwy raglen arloesi anweithgarwch economaidd Llywodraeth y DU gwerth £125 miliwn, sy'n targedu ardaloedd â'r lefelau uchaf o anweithgarwch.
Bydd arweinwyr lleol ym Mlaenau Gwent, Sir Ddinbych a Chastell-nedd Port Talbot yn dylunio cynlluniau cymorth cyflogaeth wedi'u teilwra i heriau unigryw eu cymuned. Bydd y cynlluniau peilot yn cael eu dylunio a'u cyflwyno gan bartneriaid Awdurdodau Lleol i ddatblygu a phrofi dulliau lleol o leihau anweithgarwch economaidd.
Mae'r Cyngor yn gofyn am Fynegi Diddordeb ar gyfer prosiectau i helpu i gyflawni'r cynllun. Mae angen i brosiectau sicrhau bod y cyfranogwyr targed yn breswylwyr economaidd anweithgar ym Mlaenau Gwent sy'n 16+ o ran oedran gyda ffocws ar yr unigolion hynny sy'n anabl, sydd â chyflyrau iechyd hirdymor a/neu sydd â chyfrifoldebau gofalu.
Er y gall prosiectau wella'r ddarpariaeth bresennol, byddai'r Cyngor yn croesawu'n arbennig technegau newydd ac arloesol i wella a chynyddu ymgysylltiad.
Mae angen i brosiectau hefyd fod yn ymwybodol o'r angen am ddyddiad cychwyn cyflym y prosiect a'r amserlen fer (dyddiad gorffen Mawrth 2026) i gyflawni. Dylai lefel y wybodaeth a ddarperir ar gyfer y cais fod yn gymesur â maint y prosiect a gynigir.
Uchafswm dyraniadau cyllid fydd £60,000 fesul prosiect.
Y dyddiad cau ar gyfer Mynegiadau o Ddiddordeb yw dydd Mawrth, 10 Mehefin 2025.
Bydd Trailblazer yng Nghymru yn darparu hyd at £10 miliwn o gyllid i dreialu ymyriadau newydd a chynyddu ymgysylltiad, gan ddarparu'r gefnogaeth sydd ei angen ar bobl i'w helpu i ddod i waith.
Gall ail-ymuno â'r gweithlu fod yn frawychus. Mae'r fenter Trailblazer wedi'i chynllunio i ddarparu'r offer, yr adnoddau a'r anogaeth sydd eu hangen ar bobl i fynd i mewn i'r gweithlu neu ail-ymuno â'r gweithlu. Mae taith pob person yn unigryw, a gall y rhwystrau maen nhw'n eu hwynebu fod yn gymhleth ac amlochrog. Dyna pam y bydd y dull yng Nghymru yn canolbwyntio ar anghenion yr unigolion, wedi ymrwymo i greu amgylchedd cefnogol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u grymuso i gymryd y cam nesaf tuag at gyflogaeth.
Mae'r Ffurflen Mynegi Gwybodaeth i'w gweld yma.
Dychwelwch ffurflenni wedi'u cwblhau i'r cyfeiriad e-bost canlynol Trailblazer@blaenau-gwent.gov.uk erbyn dydd Mawrth 10 Mehefin 2025.