Fforwm Dinasyddion yn trafod dyfodol teithio ym Mlaenau Gwent

Wythnos nesaf yw Wythnos Hinsawdd Cymru 2025 ac mae Fforwm Dinasyddion ar Ddyfodol Teithio ym Mlaenau Gwent wedi llunio 10 argymhelliad ar ôl ystyried y cwestiwn Sut gall Blaenau Gwent ddod at ei gilydd i wneud teithio lleol yn decach, yn wyrddach ac yn well i bawb?

Gweithiodd Cyngor Blaenau Gwent gyda'r elusen cyfranogiad cyhoeddus, Involve, i gynnal Fforwm Dinasyddion a ddaeth â 19 o drigolion ynghyd - a ddewiswyd ar hap i fod yn gynrychioliadol o Flaenau Gwent - ar gyfer cyfres o weithdai i glywed tystiolaeth, trafod y materion a llunio deg argymhelliad ar ddyfodol teithio yn y fwrdeistref a'r cyffiniau.

Mae aelodau'r fforwm wedi cyflwyno eu hargymhellion, ac mae'r Cyngor bellach yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i ystyried ac ymgorffori'r argymhellion hyn mewn cynlluniau gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.  Bydd adroddiad a chynllun gweithredu yn cael eu cyflwyno i'n Pwyllgor Craffu Datblygu Economaidd a Rheolaeth Amgylcheddol ym mis Rhagfyr, cyn mynd gerbron yr holl gynghorwyr i'w trafod yn y Flwyddyn Newydd. 

Ariannwyd y Fforwm gan Innovate UK, asiantaeth arloesi Llywodraeth y DU.

Y 10 argymhelliad yw:

  • Lleihau'r defnydd o geir ar gyfer cymudo
  • Cael rampiau cadair olwyn ar drenau bob amser
  • Cynnwys y cyhoedd yn well wrth gynllunio trafnidiaeth
  • Ystyried trosglwyddo bysiau yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus
  • Gwella gwasanaethau tacsi
  • Cynyddu cyhoeddusrwydd, capasiti a chyllid bysiau Fflecsi
  • Hyrwyddo ac ehangu cynlluniau trafnidiaeth gymunedol
  • Cynyddu opsiynau trafnidiaeth gyda'r nos
  • Cynnig opsiynau gwell ar gyfer teithiau ysgol
  • Annog pobl i gerdded, beicio neu olwyno

Meddai'r Cynghorydd Tommy Smith, Aelod Cabinet Cyngor Blaenau Gwent dros Wasanaethau Cymdogaeth a'r Amgylchedd:

"Mae blaenoriaethau ein Cynllun Corfforaethol yn cynnwys ymateb i'r argyfwng natur a hinsawdd, galluogi cymunedau cysylltiedig, annibynnol a gweithio gyda'n gilydd i leihau allyriadau carbon. Yn ogystal â hyn, fel Cyngor Marmot, rydym am greu a datblygu lleoedd a chymunedau cynaliadwy. Bydd angen i ni wneud hyn drwy weithio gydag ystod o bartneriaid, sefydliadau gwirfoddol a'n cymunedau.

"Hoffwn ddiolch i holl aelodau'r Fforwm Dinasyddion am roi o’u hamser i ymgysylltu â'r pwnc hwn. Mae'n hynod bwysig i ni ein bod yn ymgysylltu â phobl leol ac yn gwrando arnynt nhw am y pethau sydd wir yn bwysig iddyn nhw ac mae dod â phobl o bob cefndir at ei gilydd yn rhoi cipolwg da iawn i ni o sut mae pobl go iawn yn meddwl y gall teithio wella a deall unrhyw rwystrau i deithio cynaliadwy a theg. Mae'n amlwg bod angen i ddyfodol teithio gael ei siapio gan drigolion fel bod unrhyw gynnydd yn cefnogi anghenion y gymuned ac yn arwain at fanteision ehangach."

Gellir dod o hyd i adroddiad cryno i'r Fforwm a'u canfyddiadau yma.

Ar hyn o bryd mae Cyngor Blaenau Gwent yn ymgynghori ar ei Rwydwaith Teithio Llesol ac mae sawl gweithdy lleol yn cael eu cynnal yr wythnos nesaf.

  • Llyfrgell Tredegar - 4 Tachwedd, 11am – 2pm
  • Llyfrgell y Blaenau - 6 Tachwedd, 11am – 1pm
  • Eglwys Ebeneser, Abertyleri - 13 Tachwedd, 11:30am - 2:30pm
  • Canolfan Gweithredu Dysgu, Glynebwy - 18 Tachwedd - 11am – 2pm
  • Canolfan Tabor, Brynmawr - 20 Tachwedd, 11am – 2pm

*Gweithiodd y Cyngor gyda Sortition Foundation i ddewis preswylwyr drwy loteri, mewn ffordd sy'n gynrychioliadol o boblogaeth ehangach Blaenau Gwent.

Wythnos Hinsawdd Cymru 2025