Mae 'Dennis i’r Adwy' – ystafell ddosbarth symudol sy'n dysgu plant am bwysigrwydd gofalu am ein hamgylchedd – yn teithio o amgylch ysgolion Blaenau Gwent.
Mae'n edrych fel cerbyd casglu sbwriel nodweddiadol o'r tu allan ond y tu mewn mae Dennis yn cynnwys offer ystafell ddosbarth gyda sgriniau teledu a byrddau gwyn i 15 o ddisgyblion gymryd rhan mewn gwersi am wastraff ac ailgylchu, newid hinsawdd, cynaliadwyedd a llawer o bynciau eraill sy'n gysylltiedig â materion amgylcheddol allweddol.
Gan adeiladu ar daith lwyddiannus y llynedd, bydd Dennis a'n Pencampwr Ansawdd Amgylcheddol Lleol, John Mewett yn ymweld â naw ysgol o amgylch y fwrdeistref sirol dros y pythefnos nesaf.
Gwnaeth yr Aelod Cabinet dros Gymdogaethau a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Tommy Smith, ddal i fyny â Dennis a disgyblion yn Ysgol Gynradd Bryn Bach yn Nhredegar.
Meddai’r Cynghorydd Smith:
"Un o'n prif flaenoriaethau yw ymateb i'r argyfwng natur a hinsawdd ac fel Cyngor Marmot rydym yn gweithio i ddatblygu lleoedd a chymunedau cynaliadwy. Mae'n hanfodol i blant a phobl ifanc ddysgu am yr heriau sy'n wynebu ein hamgylchedd a sut y gallant chwarae eu rhan yn yr ateb - nhw yw pencampwyr gwyrdd y dyfodol. Rydw i wedi mwynhau fy ymweliad heddiw a dysgu ambell beth fy hun."