Cytuno ar Gydgynllun Datblygu Lleol

Mae cynghorwyr yn Nhorfaen a Blaenau Gwent wedi cefnogi cynnig ar gyfer Cydgynllun Datblygu Lleol.

Mae Cynlluniau Datblygu Lleol yn cael eu datblygu gan awdurdodau lleol i arwain datblygiadau, defnydd tir a gofynion seilwaith yn y dyfodol, dros gyfnod o 15 mlynedd.
Ar hyn o bryd, mae'r ddau gyngor yn y broses o ddatblygu Cynlluniau Datblygu Lleol Newydd, sydd wedi wynebu oedi.

Roedd adroddiad a gyflwynwyd i'r ddau gyngor yr wythnos ddiwethaf yn amlinellu tri opsiwn: parhau â'r prosesau presennol ar gyfer y Cynlluniau Datblygu Lleol Newydd, tynnu'n ôl a dechrau gweithio ar Gynlluniau Datblygu Lleol Newydd unigol, neu dynnu'n ôl a dechrau gweithio ar Gydgynllun Datblygu Lleol Blaenau Gwent Torfaen.

Dywedwyd wrth gynghorwyr y byddai Cydgynllun Datblygu Lleol yn cymryd hyd at chwe mis yn hirach i'w gwblhau na Chynlluniau Datblygu Lleol Newydd ar wahân, ond roedd yn cynnig mwy o fanteision o ran arbed costau, cynlluniau ar gyfer strategaeth datblygu economaidd ar y cyd, dylanwad rhanbarthol cryfach mewn fforymau rhanbarthol a chenedlaethol a mwy o effaith wrth fynd i'r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol.

Byddai hefyd yn alinio â phenderfyniad y cynghorau i ddod yn awdurdodau ffederal y llynedd, ac argymhelliad Llywodraeth Cymru fod cynghorau yn ystyried cydweithio a pharatoi cynlluniau ar y cyd lle mae hynny'n cynnig buddion sylweddol ac yn mynd i'r afael â materion trawsffiniol.

Cymeradwyodd cynghorwyr yn y ddau awdurdod yr opsiwn o lunio Cydgynllun Datblygu Lleol a bydd y ddau Gynllun Datblygu Lleol Newydd yn cael eu tynnu'n ôl, a bydd gofyn i Lywodraeth Cymru gymeradwyo hynny.

Bydd Cynlluniau Datblygu Lleol presennol Blaenau Gwent a Thorfaen yn parhau i fod yn eu lle nes i'r cydgynllun newydd gael ei fabwysiadu.

Meddai’r Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio:

"Mae Cydgynllun Datblygu Lleol yn adlewyrchu'r cyfleoedd y mae'r model ffederasiwn yn eu darparu ac yn cyd-fynd â strategaeth newydd glasbrint ar gyfer twf ar gyfer datblygu economaidd.

"Mae'n bwysig fod cymunedau yn rhan o’r broses o ddatblygu'r cynllun fel bod yr heriau a'r cyfleoedd yn eu hardaloedd lleol yn cael eu hadlewyrchu."

Ychwanegodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Blaenau Gwent dros yr Economi a Lle:

"Mae paratoi Cydgynllun Datblygu Lleol yn cyflwyno cyfleoedd sylweddol i Flaenau Gwent a Thorfaen, gan alinio â’n dyheadau a'n bwriadau uchelgeisiol ar gyfer yr economi a lle a chefnogi'r gwaith o’u cyflawni.

"Yn hanfodol, mae amseru’r cydgynllun yn cynnig y cyfle gorau i ddylanwadu ar y Cynllun Datblygu Strategol, a fydd yn goleuo twf a datblygiad ar draws Rhanbarth y De-ddwyrain yn y blynyddoedd sydd i ddod."

Bydd manylion proses y Cydgynllun Datblygu Lleol newydd, gan gynnwys amserlen ar gyfer ei gyflawni, ar gael ar wefan newydd ar y cyd ar gyfer Cydgynllun Datblygu Lleol Blaenau Gwent a Thorfaen.

Bydd Pwyllgor Craffu Datblygu Economaidd a Rheolaeth Amgylcheddol yn ystyried strategaeth newydd glasbrint ar gyfer twf Trefi Ffyniannus: Coridor Twf Cymoedd Technoleg ddydd Mawrth.