Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi paratoi'n well ar gyfer rhybuddion tywydd ac wedi cynnal uwchraddiadau seilwaith sylweddol mewn ardaloedd a effeithiwyd gan lifogydd yn flaenorol, clywodd y Pwyllgor Craffu Rheoli Amgylcheddol.
Yn ogystal â hyn, mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio'n agosach gyda chymunedau ar wydnwch a chynllunio, gan eu grymuso a'u cyfarparu i helpu eu hunain mewn cyfnodau o argyfwng, wedi'i ysbrydoli gan Fargen newydd Blaenau Gwent.
Amlinellodd adroddiad i'r pwyllgor sut y gwnaeth adolygiad annibynnol, a gynhaliwyd ar ôl digwyddiadau Storm Bert yn 2024, 19 o argymhellion, gan dynnu sylw at sawl maes allweddol i'w gwella. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo yn ei ymateb i'r adolygiad, i sicrhau diogelwch a lles trigolion yn ystod digwyddiadau tywydd garw. Mae Cynllun Rheoli Risg Llifogydd newydd hefyd wedi'i ddatblygu ac mae'n aros am gymeradwyaeth derfynol.
Mae cwteri a chwlfertau hanfodol yn cael eu harchwilio'n rheolaidd, ac mae synwyryddion newydd wedi'u gosod mewn rhai ardaloedd sy'n monitro lefelau dŵr ac yn helpu i wella amseroedd ymateb.
Mae rhaglenni gwaith draenio mawr wedi'u cyflawni yn Cwm a Llanhiledd.
Mae'r trefniadau gwell hyn wedi cael eu profi yn ystod sawl storm a rhybudd y gaeaf hwn, lle mae'r mesurau rhagweithiol gwell wedi profi'n effeithiol.
Yn Cwm, mae Tasglu Llifogydd wedi'i sefydlu, sef grŵp o drigolion lleol sy'n gweithio'n agos gyda'r Cyngor. Mae canolfan argyfwng wedi'i sefydlu, sachau llifogydd wedi'u dosbarthu, a hyfforddiant wedi'i ddarparu i'r grŵp cymunedol hwn i rymuso trigolion a chryfhau parodrwydd lleol.
Dywed llefarydd ar ran Tasglu Llifogydd Cwm, Sallie Jones:
“Cafodd ein pentref ei ddinistrio gan lifogydd yn ystod Storm Bert, ac nid ydym am weld hynny byth yn digwydd eto. Mae angen i bob peth negyddol ddod yn gadarnhaol a ganwyd y Tasglu Llifogydd a hefyd perthynas waith newydd, fwy cadarnhaol gyda’r Cyngor, sydd wedi cydnabod y gallai fod wedi gwneud yn well ac mae’n awyddus i ailadeiladu’r ymddiriedaeth a gollwyd gyda’n cymuned. Rydym am wneud beth bynnag y gallwn ei wneud, mewn partneriaeth, a chyda chefnogaeth gan y Cyngor, i gadw’n ddiogel a chefnogi ein cymuned yn ystod argyfwng. Mae’r Cyngor wedi cynnal gwaith helaeth yn y pentref ac, yn ein profiad ni, mae bellach yn llawer mwy parod ar gyfer rhybuddion tywydd, gan weithio’n agos gyda ni a’r gymuned leol i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau.
“Byddem yn annog ac yn cefnogi cymunedau eraill i ddod at ei gilydd a gweithio gyda sefydliadau yn y ffordd hon, gyda’n gilydd rydym yn fwy gwydn ac mewn gwell sefyllfa i allu mynd i’r afael ag unrhyw broblemau yn y dyfodol.”
Dywedodd y Cynghorydd Tommy Smith, Aelod Cabinet dros Gymdogaethau a Gwasanaethau Amgylcheddol:
“Mae’r llifogydd rydyn ni wedi’u gweld yn ein cymunedau ym Mlaenau Gwent, ac ar draws y rhanbarth, wedi bod yn wirioneddol ddinistriol, ac mae ein meddyliau bob amser gyda’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio. Mae tywydd garw yn dod yn amlach, ac fel ein partneriaid yn y sector cyhoeddus, rydyn ni’n gweithio’n galed i fod mor barod ag y gallwn ni fod, gan wneud y gorau o’r adnoddau sydd gennym ni.
“Rydyn ni’n parhau i fod yn ymwrymedig i warchod a chefnogi cymunedau yn y cyfnod cyn ac yn ystod y digwyddiadau tywydd hyn. Rydyn ni wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau cyllid ac wedi dyrannu rhywfaint o’n cyllideb ein hunain i wneud gwelliannau mewn cymunedau sydd wedi’u nodi fel y rhai mwyaf agored i niwed ac mewn perygl a gweithio gyda’r bobl yno ar wydnwch yn y dyfodol.”
Bydd yr adroddiad ar baratoi ar gyfer llifogydd nawr yn mynd i’r Cabinet.

Yn y llun mae aelodau o Dasglu Llifogydd Cwm.