Mae Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr wedi derbyn statws Ysgol Noddfa yn swyddogol i gydnabod ei hamgylchedd dysgu diogel a chroesawgar.
Mae'r ysgol wedi gweithio'n agos gydag Ysgolion Noddfa a sefydliadau eraill i roi gwell dealltwriaeth i ddisgyblion o'r amrywiaeth a geir yn eu cymunedau lleol, ac o'r profiadau a'r heriau sy'n wynebu'r rhai sy'n ceisio noddfa. Mae dysgwyr o'r ysgol 3 – 16 oed yng Nglynebwy wedi cymryd rhan yn y prosiectau a'r gweithgareddau canlynol:
- Wythnos Ffoaduriaid. Wythnos bwrpasol o ddysgu, myfyrio a dathlu sy'n codi ymwybyddiaeth o brofiadau a chyfraniadau ffoaduriaid.
- Prosiect Cart Celf Symudol: Mewn cydweithrediad â'r elusen MOC, daeth y fenter hon â mynegiant creadigol ac ymgysylltiad cymunedol yn fyw, gan gynnig platfform symudol i fyfyrwyr archwilio themâu hunaniaeth, perthyn, a noddfa.
- Llyfr Croeso i Ffoaduriaid: Prosiect pwerus dan arweiniad yr artist Matt Joyce, lle cyfrannodd myfyrwyr negeseuon a gwaith celf i gynnig croeso twymgalon i ffoaduriaid sy'n ymuno â'n cymuned.
- Arferion Cynhwysiant Ysgol Gyfan: Ar draws pob grŵp blwyddyn ac adran, rydym wedi ymgorffori gwerthoedd o groeso a chynhwysiant yn ein cwricwlwm, gofal bugeiliol, a rhyngweithiadau dyddiol, gan sicrhau bod pob myfyriwr yn teimlo cydnabyddiaeth, diogelwch a chefnogaeth.
Dywed y Pennaeth Mel Thomas:
"Mae hon yn gydnabyddiaeth wirioneddol fawreddog, ac mae'n dyst i ymroddiad, tosturi a gwaith caled gwych pob aelod o gymuned ein hysgol. Mae bod yn Ysgol Noddfa yn golygu ein bod wedi creu amgylchedd sy'n hyrwyddo cynhwysiant, dealltwriaeth a chefnogaeth yn weithredol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae'n ymwneud ag adeiladu diwylliant o garedigrwydd, empathi a dinasyddiaeth fyd-eang - gwerthoedd sydd wrth wraidd popeth a wnawn. Mae'r wobr hon yn ein gosod ymhlith grŵp dethol o ysgolion yng Nghymru ac mae'n enghraifft arall o sut rydym yn parhau i osod y safon ar gyfer rhagoriaeth a thosturi mewn addysg.
"Rhaid talu teyrnged arbennig i Antonia Lane, yr oedd ei hymdrechion diflino a'i hymrwymiad diwyro yn allweddol wrth gyflawni'r wobr hon. Mae ei harweinyddiaeth a'i hangerdd wedi bod yn ddim llai nag ysbrydoledig!"
Meddai'r Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Cyngor Blaenau Gwent dros faterion Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:
"Da iawn i Gymuned Ddysgu Ebwy Fawr ar ddod yn Ysgol Noddfa. Diolch i bawb a gymerodd ran am eu gwaith caled ac i'r dysgwyr, eu teuluoedd a chymuned gyfan yr ysgol am gofleidio a bod yn rhan o'r daith hon. Fel Cyngor, rydym yn gweithio mewn partneriaeth i wneud Blaenau Gwent yn lle diogel a chroesawgar i bawb ac mae cael plant a phobl ifanc wrth wraidd hyn yn allweddol. Llongyfarchiadau."
Mwy am fod yn Ysgol Noddfa yma.