Roedd Ysgol Gynradd Gymunedol Willowtown yng Nglynebwy yn falch iawn o groesawu Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru, ar gyfer ymweliad arbennig i ddathlu llyfr ryseitiau cymunedol newydd y disgyblion. Mae hwn yn brosiect uchelgeisiol sy'n dod â bwyd, diwylliant a chreadigrwydd at ei gilydd.

Yn ystod yr ymweliad, dangosodd disgyblion ddetholiad o brydau o'r llyfr, gan roi cyfle i'r Comisiynydd flasu ryseitiau a gasglwyd gan deuluoedd ar draws cymuned leol amrywiol yr ysgol. Gwnaeth y digwyddiad gynnig cipolwg ymarferol ar waith y disgyblion, a’u gwelodd yn ymchwilio, ysgrifennu, dylunio a darlunio'r cyhoeddiad cyfan eu hunain.
Mae'r llyfr coginio i blant, a grëwyd i annog teuluoedd i goginio gyda'i gilydd a magu hyder yn y gegin, wedi'i gynhyrchu'n broffesiynol ac mae ganddo ISBN swyddogol – sy’n golygu bod y disgyblion yn awduron cyhoeddedig ar oedran ifanc.
Canmolodd y Comisiynydd Plant greadigrwydd a chyflawniad y disgyblion, gan ddweud:
"Dylai'r disgyblion fod yn hynod falch o'u cyflawniad. Maen nhw wedi creu casgliad gwych o ryseitiau, gan gynnwys ffefrynnau teuluol sydd wedi’u trosglwyddo ar hyd y cenedlaethau. Mae eu creadigrwydd yn disgleirio nid yn unig yn y prydau y gwnaethant ddewis eu rhannu, ond hefyd yn y ffordd y gwnaethant helpu i ddylunio’r llyfr gyda darluniau wedi'u hysbrydoli gan eu lluniau eu hunain, gan ddod yn awduron cyhoeddedig ar oedran mor ifanc. Mae cael eu henwau wedi'u hargraffu yn y llyfr yn gyflawniad eithriadol - rhywbeth na all llawer o blant ei ddweud mor gynnar yn eu bywyd.
"Roedd hi’n bleser cael fy ngwahodd i weld gyda’m llygaid fy hun yr ymroddiad a'r angerdd y mae pob disgybl wedi'u rhoi i'r prosiect hwn. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at roi cynnig ar rai o'u ryseitiau nhw fy hun."
Ar hyn o bryd mae Cyngor Blaenau Gwent yn archwilio Bargen Blaenau Gwent, dull newydd o weithio gyda chymunedau i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ac adeiladu cymdogaethau iachach a mwy gwydn. Mae gwaith Willowtown ym maes addysg bwyd a lles cymunedol yn adlewyrchu'r gwerthoedd sydd wrth wraidd y dull hwn.
Dywedodd y Pennaeth, Mel Evans:
"Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o lais y disgybl a dysgu creadigol ar waith. Mae ein plant wedi gweithio'n anhygoel o galed i gynhyrchu rhywbeth ystyrlon sy'n dathlu dysgu a chymuned. Roedden ni’n falch iawn o groesawu'r Comisiynydd Plant i rannu eu llwyddiant."
Llyfr ar gael nawr!
Gallwch brynu copïau o'r llyfr ryseitiau o'r ysgol neu drwy Amazon, a bydd yn cael ei stocio yng Ngŵyl y Gelli eleni. Anogir busnesau lleol sydd â diddordeb mewn stocio'r llyfr i gysylltu â'r ysgol yn uniongyrchol.
