Mae Ysgol Gynradd Blaen-y-Cwm ym Mrynmawr, Blaenau Gwent, wedi cael adborth gwych yn ei harolygiad diweddar gan Estyn, sy'n tynnu sylw at ymrwymiad i greu amgylchedd croesawgar a chynhwysol lle mae disgyblion yn ffynnu'n academaidd ac yn bersonol.
Tynnodd yr adroddiad sylw at:
- Ddealltwriaeth ddofn o anghenion y gymuned leol
- Disgwyliadau uchel ar gyfer cyflawniad ac ymddygiad disgyblion
- Gofal rhagorol o ran lles disgyblion, sy'n cyfrannu at awyrgylch hamddenol, hapus ar draws yr ysgol
- Disgyblion cwrtais, hyderus sy’n awyddus i ddysgu ac yn ymateb yn gadarnhaol
- Addysgu cryf cyson
- Cwricwlwm ysgogol ac ystyrlon, gyda disgyblion yn cynhyrchu gwaith sy’n llawn dychymyg ac o ansawdd uchel.
Gwnaeth yr arolygwyr hefyd gydnabod cynnydd cryf mewn llythrennedd, sgiliau digidol, a datblygiad corfforol, ochr yn ochr â chefnogaeth effeithiol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae'r adroddiad yn dathlu cyfraniad gweithredol disgyblion at fywyd yr ysgol trwy grwpiau fel y cyngor ysgol a phencampwyr cydraddoldeb, yn ogystal â gwella cyfraddau presenoldeb, gan gynnwys ymhlith disgyblion o deuluoedd incwm isel.
Dywedodd y Pennaeth Sarah Oliver-Bryant:
"Yn Ysgol Gynradd Blaen-y-Cwm rydyn ni’n gweithio'n galed iawn i greu 'Cymuned Hapus, Uchelgeisiol, Gynhwysol', lle mae pob disgybl yn dysgu i ffynnu a dod yn ddysgwyr annibynnol. Mae'r arolygiad ESTYN hwn yn adlewyrchu gweledigaeth ein hysgol. Mae Llywodraethwyr yr Ysgol a minnau yn hynod falch o gymuned ein hysgol, ond yn enwedig ein disgyblion a staff yr ysgol."
Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd: “
"Da iawn i bawb yn Ysgol Gynradd Blaen-y-Cwm ar yr adroddiad gwych hwn. Mae'r ysgol yn amgylchedd dysgu cynnes, cynhwysol lle mae disgyblion yn cael eu cefnogi'n dda ac yn amlwg yn ffynnu, gan atgyfnerthu ein cenhadaeth i sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd."
