Campws peirianneg newydd ym Mlaenau Gwent yn nodi pennod newydd ar gyfer addysg STEM yn Ne Cymru

Heddiw, yn ystod ymweliad Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a Jack Sargeant AS, Gweinidog Sgiliau Cymru, fe agorwyd cyfleuster Peirianneg Gwerth Uchel (High Value Engineering - HiVE) newydd yn swyddogol yng Nglyn Ebwy.

Datblygwyd yr HiVE mewn partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Coleg Gwent, gyda chyllid gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae'r prosiect yn nodi pennod gyffrous newydd ar gyfer addysg STEM a datblygu sgiliau yn Ne Cymru.

Diolch i fuddsoddiad sylweddol o dros £15 miliwn gan Lywodraeth y DU (y Gronfa Lefelu i Fyny a'r Gronfa Ffyniant a Rennir) a rhaglen Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru, mae gan y cyfleuster offer roboteg o'r radd flaenaf, uwch dechnolegau gweithgynhyrchu ac offer digidol trochol, i roi cyfle i bobl ifanc leol fanteisio ar hyfforddiant ymarferol fel erioed o'r blaen. 

Bu Jo Stevens a Jack Sargeant AS yn mwynhau taith dywys o'r gyfleuster, gan gwrdd â myfyrwyr a darlithwyr a chael golwg uniongyrchol ar rywfaint o'r offer a'r gofodau dysgu anhygoel y mae peirianwyr y dyfodol yn elwa ohonynt.

Mae'r cyfleuster pwrpasol hwn, sy'n mesur 21,808 troedfedd sgwâr ac a ddatblygwyd ar hen safle ffatri Monwel Hankinson, wedi'i gynllunio i fod o fudd i ddysgwyr ifanc a busnesau, gan weithredu fel bwydwr peirianwyr a technegwyr sgiliau uchel i ddiwydiannau'r dyfodol.

Bob blwyddyn mae angen tua 1,000 o weithwyr STEM ar Gymru i fodloni anghenion y diwydiant — ac eto, bu dim ond 600 o raddedigion yn pontio i rolau STEM yn 2023, sy'n arwydd o fwlch sgiliau sylweddol. Yn rhanbarth prifddinas Caerdydd yn unig, mae'r sector deunyddiau uwch a gweithgynhyrchu yn adrodd bwlch sgiliau o 21% — y bwlch mwyaf mewn unrhyw sector yng Nghymru — gan wneud i gyfleusterau fel yr HiVE yn hanfodol o ran adfywio ardaloedd.

Bydd y cyfleuster HiVE yn helpu i fynd i'r afael â'r diffyg hwn drwy gynnig cyfleusterau ar gyfer dysgu'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc i fynd ar drywydd gyrfa yn y meysydd roboteg, awyrofod, cerbydau modur, chwaraeon modur, neu weithgynhyrchu deunyddiau uwch.  

Meddai Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

“Bydd y campws hwn, sef y diweddaraf o'i fath, yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc yn yr ardal i sicrhau swyddi a chyflogau da yn niwydiannau'r dyfodol.

“Rydwyf wrth fy modd bod cyllid oddi wrth Lywodraeth y DU yn cael ei defnyddio i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o beirianyddion, gan greu cyfleoedd i bawb a chyfrannu at dwf economaidd mewn sectorau allweddol megis gweithgynhyrchu uwch.”

Meddai Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol:

“Mae agor y campws HiVE hwn yn garreg filltir nid yn unig i’r gymuned hon, ond am ddyfodol peirianneg ac arloesedd ledled Cymru.

“Gyda chyfleusterau roboteg, awyrofod a gweithgynhyrchu uwch o'r radd flaenaf, bydd yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr – ni waeth o ble maent yn dod – i ennill gyrfaoedd gwerth uchel yn niwydiannau'r dyfodol.

“Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heblaw am weledigaeth a chydweithrediad Cyngor Blaenau Gwent, Coleg Gwent, a'n cydweithwyr yn Llywodraeth y DU i gyd-fynd ag uchelgais ein rhaglen Cymoedd Technoleg.”

Hefyd, ochr yn ochr â myfyrwyr ac addysgwyr presennol Coleg Gwent, fe wahoddwyd plant o ysgolion uwchradd lleol yn Ebwy Fawr, Tredegar ac Abertyleri i archwilio'r cyfleusterau — a bod yn dyst i gyfnewid y ffagl ar gyfer Rownd Derfynol Genedlaethol WorldSkills y DU a ddaeth i derfyn mewn modd Olympaidd yn HiVE. Fe ddarparodd hyn gyfle unigryw i sbarduno chwilfrydedd ac ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ddarpar beirianwyr.

Meddai Nicola Gamlin, Pennaeth Coleg Gwent:

"Prif nod y cyfleuster yw i rymuso'r genhedlaeth newydd o beirianwyr i fynd i'r afael â heriau byd sy'n newid yn gyflym. Drwy brofiad ymarferol ym meysydd STEM, bydd myfyrwyr yn ennill y sgiliau sy'n hollbwysig ar gyfer dyfodol cynaliadwy — dyna'r rheswm pam ein bod mor falch o gyhoeddi'r cyfleuster newydd yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru.”

Meddai Cynghorydd John Morgan, o Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

 “Rydym yn falch iawn o fod wedi gweithio mewn partneriaeth â Coleg Gwent, Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a busnesau lleol i sefydlu HiVE, sef symbol o arloesedd, cydweithrediad ac uchelgais ar gyfer Blaenau Gwent. Mae'r campws hwn, a phopeth y mae'n ei gynnig, yn gatalydd ar gyfer cyfleoedd a thwf, ac ar gyfer creu dyfodol mwy disglair i bawb ynghyd. Drwy ddatblygu hybiau HiVE yn ein ysgolion, rydym yn rhoi arloesedd ac uchelgais wrth wraidd ein system addysg. Bydd yr hybiau hyn yn helpu i bobl ifanc weld yr hyn sy'n bosib, cysylltu â'r diwydiant, a magu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu.”

Bydd HiVE yn gweithredu fel canolfan ar gyfer dysgu ac arloesi yn yr 21ain ganrif — gan ysbrydoli dysgwyr ôl-16 a dysgwyr aeddfed fel ei gilydd, cefnogi dysgu gydol oes, a chyfrannu'n uniongyrchol i adfywiad rhanbarthol.

I ddysgu rhagor am HiVE, ewch i: https://www.coleggwent.ac.uk/our-college/campuses/hive#