BioTapestri 70-metr yn rhoi anadl einioes i fyd naturiol Gwent

Cynhaliodd Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent ddathliad ar gyfer gwaith celf cyfrwng cymysg trawiadol newydd sy’n dathlu bioamrywiaeth anhygoel ein rhanbarth.

Mae’r BioTapestri yn greadigaeth uchelgeisiol 70 metr o hyd, a grëwyd gan grwpiau cymunedol o bob un o’r pum awdurdod lleol yng Ngwent. Nid tapestri traddodiadol mohono o gwbl. Mae’n gampwaith cyfrwng cymysg gwych sy’n llawn lliw, gwead a bywyd, ac mae’n dal y cynefinoedd a’r rhywogaethau sy’n gwneud Gwent yn wirioneddol unigryw.

Ar draws 20 o baneli trawiadol, pedwar o bob awdurdod lleol, mae’r BioTapestri yn ein tywys ar daith trwy dirweddau coetir, dyfrol, glaswelltir a threfol. Mae pob panel yn rhoi llwyfan i rywogaethau eiconig gan gynnwys eogiaid, y gylfinbraff, draenogod, pili-pala brith y gors, a chimychiaid crafanc gwyn, yn ogystal â nifer o rai eraill.

Gyda’i gilydd, mae’r paneli hyn yn plethu stori bwerus am amrywiaeth ecosystemau Gwent a’u pwysigrwydd – a’r cymunedau sy’n poeni’n angerddol am eu gwarchod.

Cyfrannodd dros 150 o bobl o Flaenau Gwent at y BioTapestri yn ystod sesiynau allgymorth dan arweiniad BG Arts.  Gwnaeth cyfranogwyr o bob oed gyfraniadau creadigol yn amrywio o ddisgyblion ysgol, teuluoedd, pobl ifanc a grwpiau crefft lleol.

I ddathlu’r BioTapestri a’r bobl y tu ôl iddo, cynhaliodd Grid Gwyrdd Gwent ddigwyddiad arbennig yng Nglan yr Afon ddydd Gwener 6 Mawrth. Daeth y digwyddiad ag artistiaid, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol ynghyd a oedd wedi rhoi o’u hamser a’u creadigrwydd i roi anadl einioes i’r gwaith celf.

Y cyflwynydd teledu bywyd gwyllt Dr Rhys Jones oedd y siaradwr gwadd yn y digwyddiad a thynnwyd lluniau o’r holl gyfranogwyr gyda’u panel.

Meddai’r Cynghorydd Catrin Maby, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Mae’r gwaith celf gwych hwn yn dyst i waith caled, sgiliau, gwaith tîm a brwdfrydedd y rheiny a fu’n ei greu.

“Mae’n gynrychiolaeth drawiadol o’n byd naturiol, ac yn helpu i dynnu sylw at bwysigrwydd ei amddiffyn cystal ag y gallwn.”

Dywedodd aelod o'r Grŵp Celf Inside Out sy'n cyfarfod yn Llyfrgell Tredegar: "Mae wedi bod yn wych cael fy nghynnwys mewn prosiect eang yng Ngwent.  Mae wedi dod â gwahanol aelodau o'r gymuned at ei gilydd ac wedi tynnu sylw at harddwch natur ar garreg ein drws”

Mae’r prosiect wedi cael ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Rhwydweithiau Natur, a’i gefnogi gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.