Arwr Lleol yn Arwain Dathliad Goleuadau Nadolig Glynebwy

Roedd canol tref Glynebwy yn llawn ysbryd Nadoligaidd wrth i'r goleuadau Nadolig gael eu troi ymlaen yn swyddogol ddydd Gwener diwethaf, gan nodi dechrau dathliadau'r tymor. Daeth y digwyddiad, a gefnogwyd gan Dîm Canol y Dref CBSBG, â theuluoedd, ffrindiau ac ymwelwyr ynghyd am noson o hwyl Nadoligaidd.

Roedd cefnogaeth aruthrol i'r digwyddiad. Daeth cyllid gan fusnesau canol y dref, yr hen Fforwm Digwyddiadau’r Dref Glynebwy, Partneriaeth Tref Glynebwy newydd ei ffurfio, a Deacon Fairgrounds, ochr yn ochr â sefydliadau a busnesau lleol gan gynnwys Clwb Rygbi Glynebwy, Ace Kitchens, A1 Bounce, Masquerade, a JJ Desserts. Dangosodd yr aelodau etholedig Sue Edmunds a Jonathan Millard nid yn unig eu cefnogaeth ond cyfranasant yn ariannol at y digwyddiad hefyd, gan danlinellu eu hymrwymiad i'r dref.

Cafodd y goleuadau eu troi ymlaen gan yr arwres leol Elizabeth Sullivan MBE, sydd, gyda'i thîm, wedi codi swm anhygoel o arian ar gyfer Ymchwil Canser ac yn parhau i ysbrydoli'r dref gyda'i hymroddiad. Rhoddodd ei chyfraniad gyffyrddiad twymgalon i'r noson, gan atgoffa pawb o gryfder ysbryd cymunedol yng Nglynebwy.

Cyflwynodd y Cynghorydd Chris Smith y wobr i Elizabeth cyn troi’r goleuadau ymlaen.

Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Millard: "Dangosodd troi’r goleuadau ymlaen sut mae'r Fargen yn gweithio yn ac ar gyfer ein cymunedau, partneriaid lleol yn gweithio gyda'i gilydd i greu rhywbeth ysblennydd."

Gwnaeth y Cynghorydd Sue Edmunds y sylw canlynol: "Roedd y digwyddiad gwirioneddol Nadoligaidd hwn yn enghraifft berffaith o'r hyn y gallwn ei gyflawni gyda'n cymuned yn dod at ei gilydd i gefnogi digwyddiadau lleol."

Roedd Tîm Canol y Dref CBSBG wrth eu bodd eu bod wedi trefnu troi’r goleuadau ymlaen ac i gychwyn dathliadau'r Nadolig. Gyda chefnogaeth y gymuned, maent yn gobeithio gwneud y digwyddiad hyd yn oed yn fwy ac yn well y flwyddyn nesaf.

Dyddiad ar gyfer eich dyddiaduron, cynhelir digwyddiad troi’r goleuadau ymlaen y flwyddyn nesaf ar ddydd Sadwrn yr 28ain o Dachwedd 2026.