DIGWYDDIAD DIWRNOD HAWLIAU GOFALWYR

DIGWYDDIAD DIWRNOD HAWLIAU GOFALWYR (GWYBOD EICH HAWLIAU, DEFNYDDIO EICH HAWLIAU)
10:30YB - 1:00YP
DYDD MERCHER, 19eg o DACHWEDD
SEFYDLIAD GLYNEBWY, STRYD YR EGLWYS, NP23 6BE

Rydym yn estyn gwahoddiad cynnes i chi ymuno ag Age Cymru Gwent mewn partneriaeth â Chyngor Blaenau Gwent yn ein Digwyddiad Diwrnod Hawliau Gofalwyr. Dewch draw i ymlacio, cysylltu a dathlu'r cyfraniad amhrisiadwy rydych chi fel Gofalwyr yn ei wneud i'ch anwyliaid a'r gymuned. Gellir trefnu cludiant i chi a'r sawl sy'n derbyn gofal i gyrraedd y digwyddiad - felly peidiwch â cholli allan!

Uchafbwyntiau'r Digwyddiad

  • Gwybodaeth a Chyngor gan Age Cymru Gwent ac Asiantaethau Partner
  • Staff i gefnogi'r rhai sy'n derbyn gofal, i ganiatáu cyfnod o ymlacio i Ofalwyr
  • Mynediad cynnar  at Grantiau Gofalwyr hyd at £300 a roddwyd ganDîm Gofalwyr BGC
  • Raffl am ddim
  • Cinio bwffe
  • QiGong ysgafn a Chelf a Chrefft


Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni:
ffôn: 01495 321780 gwefan: www.ageuk.org.uk/cymru/gwent/
e-bost: carers@agecymrugwent.org
Rhif elusen gofrestredig RCN 1155903. Age Cymru Gwent, 124-128 Stryd Fawr, Coed Duon, NP12 1AF