
Archif Menywod Cymru - Cyflog Cyfartal, Hawliau Cyfartal?
A allwch chi helpu Archif Menywod Cymru gyda’u prosiect diweddaraf? Rydym yn dymuno nodi a deall mwy am effaith deddfwriaeth cydraddoldeb y 1970au ar fenywod yng Nghymru.
Mae 2025/26 yn nodi hanner can mlwyddiant tair Deddf arloesol:
Deddf Cyflog Cyfartal 1970: Cyflwynwyd y ddeddf hon ym 1975, fel ‘Deddf i atal gwahaniaethu, o ran telerau ac amodau cyflogaeth’. Dyma’r ymgais gyntaf i sicrhau cyflog cyfartal am waith cyfartal (er nid am waith gyda gwerth cyfartal, fel yr ymgyrchwyd amdano am flynyddoedd lawer, o ganlyniad i bryderon economaidd am y gost).
Deddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw 1975: Roedd y ddeddfwriaeth hon yn gwneud gwahaniaethu ar sail rhyw yn anghyfreithlon mewn cyflogaeth, addysg, gwasanaethau a rheoli eiddo.
Deddf Cysylltiadau Hil 1976: Roedd cwmpas y ddeddfwriaeth yn cynnwys gwahaniaethu ar sail hil, lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol ym meysydd cyflogaeth, darparu nwyddau a gwasanaethau, addysg a swyddogaethau cyhoeddus.
Dros y 6 mis nesaf, bydd Archif Menywod Cymru yn ceisio taflu goleuni newydd ar hanes ac effaith yr ymgais gyntaf hon i ddeddfu yn erbyn gwahaniaethu yn y gweithle. Pa newidiadau, os o gwbl, a gyflwynodd y Deddfau hyn, a gyfunwyd i greu deddf cydraddoldeb 2010 yn ddiweddarach, i fywydau menywod?
Prosiect ar raddfa fach yw hwn, ond ein nod erbyn mis Mawrth 2026 yw:
- Creu casgliad bach o straeon profiadau personol gan fenywod o bob cwr o Gymru.
- Darparu canllaw i adnoddau archif presennol sy’n gysylltiedig â’r prosiect, a, gobeithio, casglu deunydd archif newydd ar gyfer ymchwilwyr y dyfodol.
- Creu arddangosfa i rannu’r straeon hyn.
Ein gwaddol hirdymor, gobeithio, fydd darparu man cychwyn i gynulleidfaoedd y dyfodol ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o’r frwydr dros gydraddoldeb, a chyfeirio pobl at waith ymchwil pellach ar effaith y ddeddfwriaeth hon yng Nghymru.
Felly, os ydych chi:
- Yn fenyw a fu’n ymgyrchu dros newid yn y 1970au
- Yn fenyw yr effeithiodd y newidiadau ar ei bywyd
- Yn archif neu’n amgueddfa sy’n cadw casgliadau’n ymwneud â’r stori hon yng Nghymru
- Yn gwmni, sefydliad, undeb neu grŵp ymgyrchu a oedd yn weithredol ar y pryd, sydd wedi cadw rhywfaint o gofnodion, papurau neu atgofion o’r cyfnod,
byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!
Os ydych chi’n credu y byddech yn gallu ein helpu mewn unrhyw ffordd o gwbl, cysylltwch â Ffion Fielding, rheolwr y prosiect, neu Michelle Rafferty, ymchwilydd y prosiect, drwy e-bostio: ffionmfielding@gmail.com, erbyn 15 Rhagfyr 2025 os yn bosibl, er mwyn cael eich cynnwys yn y prosiect.