Newyddion Sy'n Torri
  • Problemau Teleffoni wrth ffonio 01495 311556. Mae'r mater wedi'i godi gyda'n cyflenwr a bydd yn cael ei ddatrys yn fuan.

Fforwm Ymgysylltu

Ymunwch â’n fforymau!

Os oes gennych ddiddordeb mewn dweud eich dweud ar faterion eraill, yna efallai yr hoffech ymuno â’n Fforwm 50+, ein Rhwydwaith Profiad Bywyd ar gyfer Cydraddoldeb neu ein Fforwm Ieuenctid, neu gofrestru i dderbyn rhybuddion am ddigwyddiadau ymgysylltu ac ymgynghoriadau gan Fy Ngwasanaethau Cyngor.

Cwblhewch ein Ffurflen Gofrestru ar-lein i gymryd rhan yn un o’r fforymau isod. Os oes angen cymorth arnoch i wneud hyn, gallwch ymweld â’ch Hyb Cymunedol lleol neu gysylltu â’n Swyddog Cynhwysiant Digidol drwy ffonio 01495 311556.

Rhwydwaith Profiad Bywyd ar gyfer Cydraddoldeb

Mae’r Rhwydwaith Profiad Bywyd yn rhwydwaith o bobl o fewn y cyngor (staff) a phobl sy’n byw ym Mlaenau Gwent sydd â nodweddau gwarchodedig ac sydd eisiau rhannu eu straeon, eu heriau a’u cyflawniadau gyda’r cyngor i arwain y gwaith o gyflawni Cynllun Cydraddoldeb Strategol Blaenau Gwent 2024–28.

Fforwm 50+

Dewch at eich gilydd, cymdeithaswch, a thrafodwch yr hyn sy’n bwysig i chi yn y fforwm rhad ac am ddim, anwleidyddol hwn sy’n agored i bawb. Byddwch yn rhan o lais torfol ar gyfer pobl 50 oed a hŷn sy’n byw a/neu’n gweithio ym Mlaenau Gwent, gan gydweithio i adeiladu cymuned oes-gyfeillgar. Mae’r fforwm yn cyfarfod wyneb yn wyneb neu ar-lein ac mae’n cynnwys siaradwyr gwadd, gweithgareddau, a sgyrsiau am y materion sydd bwysicaf i chi.

Y Fforwm Ieuenctid

Rydym yn grŵp o bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sy’n gweithio fel tîm ar faterion allweddol, gan gynrychioli lleisiau plant a phobl ifanc o bob rhan o Flaenau Gwent. Cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cewch y newyddion diweddaraf – rhybuddion Siarad Gyda’n Gilydd

Lluniwch ein gwasanaethau trwy gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau ymgysylltu ac ymgynghoriadau sydd ar ddod. Cofrestrwch i dderbyn rhybuddion ‘Dweud Eich Dweud’ ar Fy Ngwasanaethau Cyngor yma. Ymgynghorir â chi ar ystod eang o faterion i’n helpu i wella ein gwasanaethau i gefnogi lles cymunedol yn eich ardal.

Rydym wedi gwrando a gweithredu

Rydym am eich gwneud yn ymwybodol o sut mae eich amser a’ch ymroddiad wedi effeithio ar ein penderfyniadau ac wedi llywio ein hymarfer yn sgil ein digwyddiadau Siarad Gyda’n Gilydd. Gallwch weld canlyniadau digwyddiadau’r gorffennol trwy ddewis y canlynol:

Siarad Gyda’n Gilydd ar gyfer Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Mai 2024  

Dogfennau cysylltiedig

Mae ein Fforymau Ymgysylltu wedi'u cynllunio i gynnwys a grymuso trigolion ar faterion penodol, yn unol â'n Strategaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad 2024 i 2028

I ymuno â’r fforwm ieuenctid, cofrestrwch yma: Ffurflen Gofrestru'r Fforwm Ieuenctid

I ymuno â’n fforymau eraill, cofrestrwch yma: Ffurflen Gofrestru