Safonau’r Iaith Gymraeg
Cafodd y Cynllun Iaith Gymraeg statudol blaenorol a gymeradwywyd dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, ei ddisodli gan ofynion Safonau’r Gymraeg.
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn mynd ati i foderneiddio’r fframwaith cyfreithiol ynglŷn â defnyddio’r Gymraeg wrth gyflawni gwasanaethau cyhoeddus. Ym Medi 2015, rhoddwyd Nodyn Cydymffurfio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent , oedd yn nodi’r gofyn i weithredu 171 o’r 176 o Safonau’r Gymraeg. (gweler linc isod’)
Nod Safonau’r Gymraeg yw:
- Gwella’r gwasanaethau y gall siaradwyr Cymraeg ddisgwyl eu cael gan sefydliadau penodol yn y Gymraeg;
- Cynyddu’r defnydd y mae pobl yn ei wneud o wasanaethau Cymraeg;
- Ei gwneud yn glir i sefydliadau beth sydd angen iddynt ei wneud o ran y Gymraeg; a
- Sicrhau bod cysondeb priodol o ran y dyletswyddau a roddir ar gyrff yn yr un sectorau.
Dan Safonau 158, 164 a 170, mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ddyletswydd i gynhyrchu Adroddiad Blynyddol yn Gymraeg ar yr Iaith Gymraeg. (gweler linc isod’). Rydyn ni’n falch i gyflwyno ein Hadroddiad Blynyddol Monitro’r Iaith Gymraeg 2020-2021 sydd yn canolbwyntio ar y cynnydd a gwnaed gan yr awdurdod lleol ar gyfer cydymffurfio â’r Safonau.
Dan Safon 145, mae’n rhaid i’r Cyngor gynhyrchu a chyhoeddi Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg bum mlynedd (gweler linc isod) sy’n nodi sut mae’r Cyngor yn bwriadu hyrwyddo’r Gymraeg a hwyluso defnydd o’r Gymraeg yn fwy eang ym Mlaenau Gwent.
Dogfennau Cysylltiedig
- Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2024-25
- Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg 2022 - 2027
- Hysbysiad Cydymffurfio Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
- Polisi ar Ddyfarnu Grantiau yn Cyngor Bwrdeistref Sirol
Am ymholiadau ynghylch yr iaith Gymraeg, neu i rannu unrhyw wybodaeth y credwch a allai fod o berthnasedd neu fudd i ni, cysylltwch â: cymraeg@blaenau-gwent.gov.uk