Digwyddiadau Cymunedol a Chyfleoedd Cymdeithasol
Mae Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy (BGTM) yn trefnu ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau Cymraeg ar gyfer pob oed a gallu. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Grwpiau sgwrsio Cymraeg
- Digwyddiadau a gwyliau diwylliannol
- Gweithgareddau sy'n addas i deuluoedd
- Gweithdai a chyfarfodydd anffurfiol
Mae'r digwyddiadau hyn wedi'u cynllunio i fod yn gynhwysol ac yn groesawgar, p'un a ydych chi'n rhugl neu newydd ddechrau. Maent yn ffordd wych o ddefnyddio'r Gymraeg mewn lleoliad hamddenol a gwneud cysylltiadau newydd.

Cyfarfodydd Wythnosol ym Mharc Bryn Bach, Tredegar
Bob bore Mercher rhwng 10:00 a 12:00, mae grŵp cyfeillgar o ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn cwrdd ym Mharc Bryn Bach am sgwrs anffurfiol a chymdeithasu.
Wedi'i drefnu gyda chefnogaeth Menter Iaith Blaenau Gwent a Dysgu Cymraeg Gwent, mae'r grŵp hwn ar agor i bob lefel ac yn ffordd wych o ymarfer y Gymraeg mewn lleoliad hamddenol, naturiol— ac yn aml yn cael ei ddilyn gan baned yn y caffi. P'un a ydych chi'n ddechreuwr neu'n siaradwr rhugl, mae croeso i chi ymuno a mwynhau'r amgylchoedd hardd wrth ddefnyddio'ch Cymraeg.

Clwb Cymraeg yn Llyfrgell Abertyleri
Croeso i siaradwyr Cymraeg o bob lefel
Bob dydd Mercher: 2:00pm - 3:30pm
Capel y Drindod, 3 Stryd yr Eglwys, Abertyleri NP13 1DB

Nosweithiau Cymraeg yng Nghaffi Tyleri
Bob dydd Iau
I'r rhai sydd gyda ddim gallu yn y Gymraeg: 5:30yp – 7:00yp
Sgwrs i bawb: 7:00yp – 8:30yp
Caffi Tyleri, Pafiliwn Jim Owen, Cwmtyleri, NP13 1LW
Ymunwch â Cymdeithas Gymraeg Blaenau Gwent Heddiw!
Cymdeithas Gymraeg Blaenau Gwent yw'r lle perffaith i gysylltu ag eraill sy'n rhannu eich cariad at bopeth sy'n ymwneud â'r Gymraeg. O ddigwyddiadau lleol a chyfarfodydd iaith i ddathliadau diwylliannol a phrosiectau treftadaeth, mae rhywbeth i bawb.
Sut i Ymuno
E-bost: Cysylltwch â Helen Greenwood yn hgglynebwy@gmail.com i fynegi eich diddordeb a chael gwybod am ddigwyddiadau sydd ar ddod neu fanylion aelodaeth.
Facebook: Ymunwch â grŵp Facebook Cymdeithas Iaith Blaenau Gwent i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau, cyfarfodydd, a ffyrdd o gymryd rhan yma:https://www.facebook.com/groups/194935810541464/
Dysgu'r Iaith Gymraeg i Oedolion
Mae Dysgu Cymraeg Gwent, a ddarperir gan Goleg Gwent ar ran y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg, yn cynnig ystod eang o gyrsiau wedi'u teilwra i'ch anghenion:
- Lefelau Dechreuwyr i Lefelau Hyfedredd
- Dosbarthiadau gyda'r nos, cyrsiau dwys, a dysgu cymysg
- Sesiynau blasu a gloywi ar-lein am ddim
- Cyrsiau i rieni a theuluoedd
Mae'r cyrsiau hyn yn gyfeillgar, yn anffurfiol, ac yn ffordd wych o gwrdd ag eraill yn eich cymuned sydd hefyd yn dysgu Cymraeg.
Fel cyngor, rydym yn falch o ddathlu diwylliant, iaith a thraddodiadau Cymru drwy gydol y flwyddyn — ac rydym wrth ein bodd yn cynnwys pobl leol, ysgolion a sefydliadau yn y dathliadau!

http://intranet/media/211682/Welsh-Calendar-2025-pdf.pdf
Cadwch lygad ar wefan ein cyngor, cyfryngau cymdeithasol, a hysbysfyrddau lleol i weld beth sydd ar y gweill — a sut allwch chi gymryd rhan.
Eisiau gweld sut rydym wedi dathlu diwylliant Cymru eleni?
Cymerwch olwg ar ein Hadroddiad Blynyddol ar yr Iaith Gymraeg am grynodeb llawn o ddigwyddiadau, gweithgareddau, ac uchafbwyntiau cymunedol.