Mae ‘Dydd Miwsig Cymru’, neu ‘Diwrnod Cerddoriaeth yr Iaith Gymraeg’ yn ddigwyddiad blynyddol sy’n digwydd ar y 7fed o Chwefror i ddathlu pob math o gerddoriaeth yr iaith Gymraeg.
Yn 2025, croesawodd y fwrdeistref y dathliad hwn yn galonnog, gyda rhyddhau ‘Anthem Blaenau Gwent’, a ysgrifennwyd a’i pherfformio gan gynrychiolwyr o bob ysgol gynradd yn y fwrdeistref.
Arweiniodd y Mei Gwynedd dalentog weithdy ysgrifennu gyda’r myfyrwyr yn sesiwn Cyngor Mawr y Plant yn y Swyddfeydd Cyffredinol i greu cân am Flaenau Gwent.
Aeth Mei i ffwrdd a gweithio ei hud cerddorol a chreu’r gerddoriaeth. Yna daeth Cyngor Mawr y Plant ynghyd i ffilmio fideo cerddoriaeth anhygoel!
Rydym am i’r anthem hon ddod yn rhan annatod o Flaenau Gwent, i’w chanu’n uchel ac yn falch ym mhob math o leoliad.



Gwyliwch y fideo cerddoriaeth isod:
Gwelwch y llyfr gwaith isod i ddysgu'r geiriau a darganfod yr holl ffyrdd cyffrous y gallwch chi ddod â'r anthem yn fyw trwy glicio ar y ddelwedd isod:
Anfonwch fideos a lluniau atom o sut rydych chi'n defnyddio'r anthem er mwyn i ni eu rhannu ar ein cyfryngau cymdeithasol a'u cynnwys yn Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg: cymraeg@blaenau-gwent.gov.uk
