Hysbysiad Preifatrwydd Arolwg Lles Gwent

Ein manylion cyswllt

Mae'r sefydliadau a ganlyn yn gyd-reolwyr data mewn perthynas â'r prosiect hwn sy'n cyflawni'r gwaith ar ran byrddau gwasanaethau cyhoeddus lleol ar draws Gwent yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015:

Sefydliad: Manylion Cyswllt Diogelu Data:
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent info@blaenau-gwent.gov.uk info@blaenau-gwent.gov.uk01495 311556
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili dataprotection@caerphilly.gov.uk dataprotection@caerphilly.gov.uk
01443 864322
Cyngor Sir Fynwy dataprotection@caerphilly.gov.uk dataprotection@monmouthshire.gov.uk
01633 644744
Cyngor Dinas Casnewydd information.management@newport.gov.uk information.management@newport.gov.uk
01633 656656
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen DPA@torfaen.gov.uk
01633 647467

Y math o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chasglu

Fel rhan o Arolwg Lles Gwent byddwn yn casglu ac yn prosesu'r wybodaeth ganlynol amdanoch chi:

  • Eich cod post
  • Gan gynnwys y wybodaeth ‘ddewisol’ ganlynol pe byddech yn dewis ei darparu:
  • Eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt (e.e. rhif ffôn neu e-bost).
  • Gwybodaeth am gydraddoldeb fel oedran, rhyw, ethnigrwydd, dewis iaith; crefydd neu gred; cyfeiriadedd rhywiol; statws priodasol; anabledd.

Sut rydyn ni'n cael y wybodaeth bersonol a pham rydyn ni'n ei chael

Darperir y wybodaeth bersonol a broseswn i ni yn uniongyrchol gennych chi. Defnyddir y wybodaeth sydd gennym i’n:

  • Helpu i gael gwell dealltwriaeth o les lleol.
  • Bydd yn caniatáu inni gysylltu â chi ynghylch unrhyw weithgareddau ymgysylltu lles yn y dyfodol pe byddech yn dymuno cymryd rhan.

Rhennir y wybodaeth a gawn gyda'r sefydliadau y manylir arnynt uchod sy'n arwain ar brosiect Arolwg Lles Gwent at y dibenion a nodwyd uchod.

O dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), y seiliau cyfreithlon yr ydym yn dibynnu arnynt ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw:

Erthygl 6(a) - mae'r unigolyn wedi rhoi caniatâd clir i chi brosesu eu data personol i bwrpas penodol.
At ddibenion y gwasanaeth hwn gwelir mai'r pwrpas penodol yw cwblhau'r arolwg a phrosesu'r canlyniadau.

Pan brosesir gwybodaeth categori arbennig (h.y. gwybodaeth bersonol sensitif) y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu hyn yw:

Erthygl 9(2)(a) mae gwrthrych y data wedi rhoi caniatâd penodol i'r prosesu.

Sut rydyn ni'n storio'ch gwybodaeth bersonol

Storir eich gwybodaeth yn ddiogel yn system Arolwg Snap Cyngor Blaenau Gwent.

Dim ond cyhyd ag y bydd ei angen y byddwn yn ei gadw a phan na fydd ei angen mwyach bydd yn cael ei ddileu/dinistrio'n ddiogel.

Eich hawliau diogelu data

O dan y gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau gan gynnwys:

Eich hawl i fynediad: Mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o’ch gwybodaeth bersonol.
Eich hawl i gywiriad: Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth rydych chi’n credu ei bod yn anghywir.
Eich hawl i ddilead: Mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu’ch gwybodaeth bersonol o dan amgylchiadau penodol.
Eich hawl i gyfyngu prosesu: Mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu’r gwaith o brosesu’ch gwybodaeth o dan amgylchiadau penodol.
Eich hawl i wrthwynebu prosesu: Mae gennych hawl i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol mewn rhai amgylchiadau penodol.
Eich hawl i drosglwyddiad data: Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo’r wybodaeth bersonol yr ydych wedi ei rhoi i ni i sefydliad arall, neu i chi mewn rhai amgylchiadau penodol.

Nid yw'n ofynnol i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau. Os gwnewch gais, mae gennym fis i ymateb ichi.

Cysylltwch â'r sefydliad perthnasol, fel y manylir uchod, os ydych am wneud cais.

Sut i gwyno

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch ein defnydd o'ch gwybodaeth bersonol, gallwch wneud cwyn trwy gysylltu â'r sefydliad perthnasol, fel y manylir uchod.

Gallwch hefyd gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) os ydych chi'n anhapus â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data.

Cyfeiriad yr ICO:
     
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Sir Gaer
SK9 5AF
Rhif llinell gymorth: 0303 123 1113
Gwefan ICO: https://www.ico.org.uk