Cynllun Trwyddedu Triniaethau Arbennig
Gwybodaeth am y cynllun trwyddedu triniaeth arbennig gorfodol newydd ar gyfer ymarferwyr a mangreoedd
Mae'r cynllun yn ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr sy'n cyflawni unrhyw driniaeth arbennig (rhestr isod) ar rywun arall yng Nghymru gael eu trwyddedu (cyfeirir at y drwydded hon fel 'Trwydded Triniaeth Arbennig'). Mae'r cynllun hefyd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer mangreoedd/cerbydau y mae ymarferwyr triniaeth arbennig yn gweithredu ohonynt (a elwir yn 'Dystysgrif Mangre Gymeradwy'). Mae gan y cynllun hefyd ofynion/amodau gorfodol o fewn y Rheoliadau ar gyfer ymarferwyr a mangreoedd/cerbydau.
Triniaethau arbennig a gwmpesir gan y cynllun trwyddedu newydd
Mae'r cynllun newydd, ar hyn o bryd, ond yn berthnasol i rai triniaethau arbennig. Diffinnir y rhain yn Adran 57 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, ac maent yn cynnwys y canlynol:
- Aciwbigo (gan gynnwys nodwyddo sych)
- Tyllu’r corff
- Electrolysis
- Tatwio (gan gynnwys colur lled-barhaol / microlafnu)
Amserlenni
Mae’r Rheoliadau bellach wedi dod i rym.
Trwydded Ymarferwyr
Mae'r cynllun trwyddedu newydd yn ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr sy'n cyflawni unrhyw rai o'r triniaethau arbennig rhagnodedig a restrir uchod ar rywun arall yng Nghymru gael eu trwyddedu. Bydd y drwydded yn nodi pa driniaeth(au) arbennig y mae'r ymarferydd wedi'i drwyddedu i’w hymarfer, yn ogystal â rhestru'r fangre y mae'r ymarferydd yn gweithredu ohoni. Rhaid i bob ymarferydd gael ei drwydded ei hun. Dim ond mewn mangreoedd/cerbydau sydd wedi'u cymeradwyo y gall ymarferwyr trwyddedig weithredu.
Bydd yn drosedd i ymarferydd gyflawni triniaeth arbennig heb drwydded neu gyflawni unrhyw driniaethau o fangreoedd neu gerbydau nad ydynt wedi'u cymeradwyo. Bydd hefyd yn drosedd i beidio â chydymffurfio â'r gofynion penodol a nodir yn y rheoliad ar gyfer ymarferwyr a mangreoedd/cerbydau.
Os ydych chi'n ymarferydd newydd, bydd angen i chi wneud cais am drwydded ymarferydd a chael trwydded cyn ymgymryd ag unrhyw driniaethau arbennig yng Nghymru.
Gwnewch gais am Drwydded Ymarferydd yma
Tystysgrif Mangre / Cerbyd Cymeradwy
Bydd y cynllun trwyddedu newydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob mangre neu gerbyd lle mae unrhyw un o'r triniaethau arbennig penodedig (aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a/neu datŵio) yn cael eu cyflawni gan ymarferwyr trwyddedig gael eu cymeradwyo. Bydd y dystysgrif gymeradwyo yn cael ei rhoi i'r person sy'n gyfrifol am y busnes mewn mangre (gall hwn fod yn berchennog, rheolwr neu ymarferydd - nid oes angen iddo fod y person sy'n cyflawni'r triniaethau eu hunain ac efallai na fydd yn cyflogi ymarferwyr yn uniongyrchol). Os oes gan ymarferydd drwydded triniaeth arbennig ond ei fod yn gyflogai, neu'n rhentu cadair/ystafell ym musnes rhywun arall, yna nid oes angen iddo gael ei dystysgrif cymeradwyo mangre/cerbyd ei hun, ond rhaid iddo wneud yn siŵr ei fod ond yn gweithredu o fangre neu gerbyd cymeradwy.
Bydd yn drosedd i ymarferydd gyflawni triniaeth arbennig heb drwydded neu gyflawni unrhyw driniaethau o fangreoedd neu gerbydau nad ydynt wedi'u cymeradwyo. Bydd hefyd yn drosedd i beidio â chydymffurfio â'r gofynion penodol a nodir yn y rheoliad ar gyfer ymarferwyr a mangreoedd/cerbydau.
Os ydych chi'n sefydlu mangre / cerbyd newydd lle rydych chi’n bwriadu darparu unrhyw driniaethau arbennig, bydd angen i chi wneud cais am dystysgrif mangre / cerbyd cymeradwy a chael un wedi’i chymeradwyo cyn ymgymryd ag unrhyw driniaethau arbennig yng Nghymru yn y fangre / cerbyd.
Gwnewch gais am Dystysgrif Cymeradwyo Mangre/Cerbyd yma
Ffioedd
Mae wybodaeth am y strwythur ffioedd presennol ar gyfer y drefn newydd yma
Cronfa Ddata Genedlaethol o Ymarferwyr Trwyddedig a Mangreoedd/Cerbydau Cymeradwy
Mae gofyniad o dan y cynllun newydd i gronfa ddata o'r holl ymarferwyr trwyddedig a mangreoedd / cerbydau cymeradwy fod ar gael i'r cyhoedd.
Mae'r gronfa ddata genedlaethol ar gael yma: Cofrestr Gyhoeddus Gweithdrefnau Arbennig Cymru.
Rhagor o wybodaeth ac arweiniad
Mae rhagor o wybodaeth ac arweiniad ynghylch gofynion y cynllun ar gael yma:
Mae rhagor o wybodaeth a chanllawiau ynglŷn â gofynion y cynllun ar gael yma:
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau statudol ac anstatudol. Mae'r canllawiau hyn i'w gweld yn: https://www.llyw.cymru/triniaethau-arbennig-aciwbigo-electrolysis-tyllur-corff-thatwio
Yn ogystal, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi cynhyrchu canllawiau rheoli heintiau sydd i'w gweld yn: https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/ymwrthedd-a-heintiau-gwrthfiotig/atal-a-rheoli-heintiau/adnoddau-ar-gyfer-gweithwyr-gofal-iechyd-proffesiynol/gweithdrefnau-arbennig/
Cysylltwch â ni
Am ymholiadau am geisiadau i’r cynllun trwyddedu triniaethau arbennig, e-bostiwch at licensing@blaenau-gwent.gov.uk
Ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill ynglŷn â'r cynllun trwyddedu triniaethau arbennig neu i roi gwybod am bryder am ymarferydd, mangre neu gerbyd sy'n cyflawni unrhyw driniaeth(au) arbennig, e-bostiwch environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk