Mae ein Cofrestr Pridiant Tir Lleol wedi symud i gofrestr genedlaethol Cofrestrfa Tir EF. Ni fyddwn bellach yn darparu gwasanaeth chwilio Pridiant Tir Lleol, gallwch gael mynediad i’r gwasanaeth digidol newydd drwy’r Portal, Business Gateway a ar dudalennau Cofrestrfa Tir EM/HM Land Registry ar GOV.UK.
Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn parhau i roi atebion i ymholiadau CON29 a CON 290.
Mae’n bwysig cofio mai dim ond gydag ymholiad CON29 a CON290 y dylid cyflwyno’r ffi gofynnol o £136.20.
Mae CON29 yn trin materion tebyg i gynlluniau ffordd, hanes cynllunio yr eiddo a materion amgylcheddol.
Mae CON290 yn ffurflen ddewisol sy’n delio gydag ymholiadau ychwanegol a all ymwneud yn benodol â’r tir/eiddo a gaiff ei chwilio.
Mae’r ffioedd ar gyfer Chwiliadau’r Awdurdod Lleol fel sy’n dilyn:-
| 
 | Cyn TAW | TAW | Yn Cynnwys TAW | |||
| CON29R (un parsel o dir) | £113.50 | 
 £22.70 
 | £136.20 | |||
| Parsel Ychwanegol o Dir | 
 £10.00 
 | £2.00 | £12.00 | |||
| CON290 Dewisol Cwestiynau 4 - 21 | £5.00 | 
 £1.00 
 | £6.00 | |||
| CON290 Dewisol Cwestiwn 22 | £10.00 | 
 £2.00 
 | £12.00 | |||
Mae’n rhaid hefyd gyflwyno cais am Chwiliad Tir Comin i’r Adran Pridiant Tir. Bydd angen i chi gyflwyno ffurflen CON29 Ymchwiliad Dewisol, gan dicio Ymholiad Rhif 22. Y ffi ar gyfer hyn yw £12.00 (yn cynnwys TAW).
Rhaid anfon pob ffurflen cais am chwilio drwy e-bost i land.charges@blaenau-gwent.gov.uk Byddem hefyd yn eich atgoffa mai dim ond gyda’r ffi cywir, taladwy drwy BACS, copi o CON29 / CON29O a chynllun lleoliad safle y caiff Chwiliadau Awdurdod Lleol eu derbyn., Anelwn ddychwelyd canlyniadau chwilio o fewn 10 diwrnod gwaith.
Ni fyddwn yn cynnal chwiliad os na chaiff cynllun lleoliad safle ei amgáu.
Manylion talu BACS
MANYLION BANC:
BANC BARCLAYS PLC 
BLWC SP 674
3YDD LLAWR WINDSOR COURT
3 WINDSOR PLACE
CAERDYDD CF10 3ZL
ENW’R CYFRIF: CYNGOR BWRDEISTREF SIROL BLAENAU GWENT
COD DIDOLI: 20-56-64
RHIF CYFRIF: 60363324
SWIFTBIC: BARCGB22
Gwybodaeth Cyswllt
Adran Pridiant Tir
Rhif Ffôn: 01495 369707
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy NP23 6DN
Cyfeiriad E-bost: land.charges@blaenau-gwent.gov.uk
