Grantiau Gwella Golwg Canol Trefi

Ar 1 Hydref 2026, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn lansio cynllun grant newydd i gefnogi eiddo yng nghanol trefi.

Mae cyllid y rhaglen grant yn cefnogi gwaith y Cyngor ar gyfer Blaenoriaeth 3, Amcan 1 y Gronfa Twf Lleol (LGF). Rhaglen fuddsoddi datblygu rhanbarthol yw'r LGF yng Nghymru, sydd wedi'i chynllunio i gefnogi twf cynhyrchiant mewn ardaloedd sydd â photensial dal i fyny ac i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd mewn ardaloedd o amddifadedd. Dyfernir y grant hwn o dan Flaenoriaeth 3 - Gwella Seilwaith Rhanbarthol, gyda'r nod o sbarduno buddsoddiad mewn safleoedd ac eiddo strategol sy'n bwysig i'r rhanbarth.

Mae'r rhaglen grantiau wedi'i chynllunio i gefnogi perchnogion busnesau a landlordiaid drwy ddarparu cymorth ariannol i wella ymddangosiad gweledol allanol eu heiddo; bydd hyn, yn ei dro, yn gwella ymddangosiad gweledol allanol canol ein trefi.

Mae enghreifftiau o welliannau y byddwn yn ystyried eu hariannu o dan y rhaglen hon yn cynnwys blaen siopau, ffenestri, ffasgiâu, arwyddion a rendro. Nid rhestr gynhwysfawr yw hon, a byddwn yn rhoi adborth ar ddiwedd Cam 1 ynghylch cymhwysedd y gwaith arfaethedig gennych.

Bydd y rhaglen grantiau yn cynnig grantiau hyd at uchafswm o £25,000 fesul cais, gydag uchafswm cyfradd ymyrraeth grant o 80%. Bydd angen i ymgeiswyr am grant ddangos bod eu cyllid cyfatebol o 20% ar gael ar adeg cyflwyno eu cais llawn am grant.

Mae'r broses ymgeisio yn cynnwys dau gam:

Cam 1: Datganiad o Ddiddordeb

Ffurflen fer sy'n ceisio gwybodaeth gychwynnol am y prosiect arfaethedig, gan gynnwys:

  • Lleoliad yr eiddo
  • Statws deiliadaeth
  • Gwelliannau arfaethedig
  • Cost a amcangyfrifir
  • Dyddiadau cychwyn a gorffen disgwyliedig ar gyfer y gwaith
  • Y dyddiad cau ar gyfer datganiad o ddiddordeb yw dydd Gwener 16 Hydref 2026. Byddwn wedyn yn asesu'r holl geisiadau, a bydd y rhai sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd yn cael eu gwahodd i symud ymlaen i Gam 2: Cais llawn.

Cam 2: Cais Llawn

Gwybodaeth fanylach am y prosiect, gan gynnwys:

  • Disgrifiad manwl o'r gwelliannau arfaethedig
  • Tystiolaeth o ddeiliadaeth
  • Cadarnhad o ganiatâd cynllunio / caniatâd rheoliadau adeiladu (os oes angen)
  • Dadansoddiad o gostau a amcangyfrifir – wedi'u hategu gan 3 dyfynbris
  • Tystiolaeth bod cyllid cyfatebol yn ei le
  • Rhaglen waith arfaethedig

Darperir manylion y dyddiadau cyflwyno ar gyfer y cais llawn pan anfonir y gwahoddiad i symud ymlaen i'r cam nesaf at yr ymgeiswyr.

Er mwyn bod yn gymwys i gael cyllid, bydd yn ofynnol i bob prosiect cymeradwy fod wedi cwblhau'r holl waith, gwneud taliadau i gontractwyr a chyflwyno hawliadau cyn 28 Chwefror 2027.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau wrth baratoi eich ffurflen gais datganiad o ddiddordeb, cysylltwch â regeneration-projects@blaenau-gwent.gov.uk

Neu dilynwch y ddolen i gwblhau datganiad o ddiddordeb ar-lein

Dogfennau Cysylltiedig