Ron Burgess

Y Pafiliwn, Cae Gwella Cwm, Cwm, Glynebwy

Cafodd Ron ei eni yn Cwm i deulu o lowyr ar 9 Ebrill 1917.

Roedd talent Ron yn amlwg ers pan oedd yn ifanc a daeth i sylw Cardiff City gan lofnodi iddynt fel amatur yng nghanol ei arddegau.

Ar ôl y siom gyda Chaerdydd, parhaodd i chwarae dros ei dîm lleol, Cwm Villa ac mewn un tymor cofiadwy sgoriodd 59 gôl. Tynnodd hyn sylw Tottenham a wnaeth ei lofnodi fel amatur fel crwt 19 oed brwd.

Roedd arwyddion cryfder o’i nerth a’i fywiogrwydd yn amlwg fel glowr ifanc. Roedd pobl ifanc oedd yn ei adnabod fel bachgen yn dweud ‘gyda’i egni dibendraw, nerth enfawr a pharodrwydd i weithio yn ddiflino, gallai fod wedi gwagu maes glo De Cymru ar ben ei hun pe na fyddai Tottenham wedi’i lofnodi’.

Gwnaeth ei ymddangosiad gyda’r tîm cyntaf yn Chwefror 1939 yn erbyn Norwich yn Adran 2. Yn fuan ar ôl iddo gael lle cyson yn y tîm cyntaf, daeth yr Ail Ryfel Byd â’i yrfa i ben yn sydyn. Ymunodd Ron â’r RAF fel Hyfforddydd Corfforol, fodd bynnag roedd yn dal i ganfod amser i chwarae pêl-droed ac yn ogystal â chwarae i Tottenham, bu’n chwaraewr gwadd i Huddersfield Town, Nottingham Forest, Notts County a Reading.

Yn diyn y rhyfel, fe wnaeth Ron sefydlu ei le yn y tîm dim ond yn colli gemau oherwydd anaf neu pan oedd yn chwarae i Gymru. Dan y rheolwr newydd Joe Hulme, cafodd y tîm ei ailadeiladu a phan wnaeth Arthur Rowe ei olynu, yn ogystal â dod yn gapten yr ochr a enillodd bencampwriaeth Adran 2 a daeth yn ganolog i’r arddull ‘gwthio a rhedeg’ newydd.

Yn dilyn dyrchafiad yn 1950 aeth Spurs ymlaen i ennill pencampwriaeth yr Adran Gyntaf ac yn ail yn 1952. Arhosodd Ron am ddau dymor arall ond erbyn hynny roedd yn 38 oed ac roedd symud bant o’r clwb ar y cardiau. Ymddangosodd 324 gwaith yn ei yrfa 16 mlynedd yn Tottenham, y rhan fwyaf ohonynt fel capten, 16 gôl a Medalau pencampwriaeth olynol yn Adran 1 a 2. Ef oedd perchennog cyntaf y crys rhif 6 pan gyflwynwyd rhifo ac roedd Bill Nicholson yn ei ystyried fel y chwaraewr canol cae gorau a gafodd y clwb erioed, gan drechu arwyr tebyg i Danny Blanchflower, Dave Mackay, Glenn Hoddle a Paul Gascoigne.

Ymunodd â thîm Swansea Town yn 1954 ac roedd yn chwaraewr reolwr o fewn blwyddyn.

Cwtogodd yr Ail Ryfel Byd yn ddifrifol ar yrfa ryngwladol Ron,  fodd bynnag aeth ymlaen i fod yn gapten ei wlad, gan ennill 32 cap a sgorio un gôl. Ef hefyd oedd y chwaraewr cyntaf o Gymru i gael ei ddethol ar gyfer tîm Prydain Fawr pan wnaethant chwarae Gweddill Ewrop i nodi dychwelyd y 4 cenedl gartref i FIFA.

Roedd ei yrfa fel rheolwr yn llawer mwy o garwsél gyda chyfnodau yn Watford (1959-64) lle mai’r uchafbwynt oedd llwyddiant yng Nghwpan yr FA yn 1959/60, Bedford, Harrow a Hendon lle enillodd Gwpan Amatur yr FA yn 1965. Bu’n rheolwr dros dro Cymru am gyfnod byr yn 1964 a hefyd yn hyfforddwr yn Fulham a sgowt i Luton.

Cafodd y plac glas ei ddadorchuddio ar 12 Tachwedd 2014 gan gyn goliwr Cymru, Neville Southall a ddywedodd, ‘Mae’n anrhydedd dadorchuddio’r plac hwn heddiw  Roedd Ronnie Burgess yn gawr ym mhêl-droed Cymru. Bu’n gapten ei glwb a’i wlad ac arwain Spurs i bencampwriaethau olynol. Fe wnaeth hefyd ddarganfod y gwych Pat Jennings’.

Roedd Terry Medwin, cyn flaenwr Abertawe, Cymru a Spurs, yn gyn gyd-aelod tîm i Ron, gyda’u gyrfaoedd yn gorgyffwrdd yn Abertawe ac am gyfnod hirach i Gymru. Talodd Terry deyrnged gan ddweud, ‘Ron oedd un o’r chwaraewyr gorau. Roedd yn dda am bopeth a byddech yn sylwi arno lle bynnag yr oedd yn chwarae. Roedd fel injan, roedd yn gweithio’n anhygoel o galed ac yn wych am basio’r bêl. Gyda’i lwyth o brofiad roedd yn arwain drwy esiampl, roedd mor uchel ei barch fel capten, roedd pawb yn ei hoffi, gan annog cyd-aelodau’r tîm ar y maes a hwyl oddi arno’.

Ychwanegodd Cliff Jones, arwr arall Abertawe, Cymru a Spurs: “Pan siaradodd Bill Nicholson am chwaraewyr Spurs, roedd bob amser yn dweud mai Ron Burgess oedd efallai un o’r chwaraewyr gorau a gafodd Spurs erioed, a gyda Bill yn dweud hynny mae’n bwysig ac  mae’n golygu llawer.

“Roedd Ron yn rheolwr Abertawe pan symudais i Tottenham. Roedd wedi dod yno gwpl o flynyddoedd yn gynharach fel hyfforddydd, roedd hefyd yn gapten tîm Cymru pan chwaraeais gyntaf yn 1955. Roedd yn chwaraewr arbennig. Rwy’n cofio pan symudais i Tottenham fod cryn nifer o glybiau ar fy ôl – Arsenal, Wolves, Manchester United – a dywedodd Ron wrthyf ‘gwna ffafr â thi dy hunan, llofnoda i Tottenham, byddant yn gweddu dy fath di o chwarae’. Fe wrandewais arno ac mae’r gweddill yn hanes, fel petai.

Roedd yn gymeriad arbennig ac yn chwaraewr arbennig ac mae’n wych iddo gael ei gydnabod gan Gyngor Blaenau Gwent oherwydd ei fod yn Gymro go iawn. Mae’n hollol haeddiannol. Pan ddywedodd Bill Nicholson ei fod yn un o’r chwaraewyr gorau erioed, rydych yn cymryd sylw!

Roedd llawer o deulu Ron yn bresennol yn y dadorchuddio yn cynnwys ei fab, Richard Burgess oedd wedi hedfan yn ôl o Ffrainc, Samantha James a David James, ei wyrion o Abertawe, Glenys Baylis ei nith o Cwm, ei nai Michael Burgess a Shaun, mab Michael.

Mae Richard yn cofio pa mor gryf oedd ei dad, ‘roedd bol ei goesau mor fawr a grymus fel eu bod yn rhwbio wrth iddo gerdded. Cafodd fy nhad 32 cap i Gymru ac roedd yn gapten 29 ohonynt. Fe wnaeth chwarae 10 gwaith arall, ond ni chafodd unrhyw gapiau eu rhoi dros gyfnod y rhyfel.

‘Rwy’n ei gofio yn chwarae mewn gemau enwogion ac roeddem ni‘r plant wrth ein bodd i gwrdd â phobl fel Des O’Connor, Tommy Steele a Sean Connery – roedd Sean Connery yn chwaraewr gwych.

Ychwanegodd ei wyres Samantha James, “Roedd Mam-gu yn arfer casglu eu holl lofnodion, mae’r llyfr yn dal gennym heddiw. Byddai’n gludo llun wrth ymyl y llofnod fel y gallem gofio pwy oeddent.’

Mae gan Michael Burgess atgofion hoff o ymweliadau ei Ewythr Ron yn ôl gartref i Cwm. Byddai Michael yn aml yn canfod tŷ ei dad-cu a’i fam-gu yn 86 Stryd Currie yn llawn enwogion pêl-droed oedd wedi dod yn ôl gyda Ron i ymweld â Cwm. Yno fe wnaeth gwrdd ag Alf Ramsey, Tom Finney, Stanley Matthews a Ted Ditchburn ymhlith eraill.

‘Roedd ei gyd-chwaraewyr yn nhîm Cymru wrth eu bodd yn ymweld â Cwm hefyd. Roeddent yn arbennig o hoff o’u hymweliadau cymdeithasol i’r Cwm Con Club. Fe fyddai fy nhad-cu yn gwneud iddynt godi ar doriad gwawr i redeg o amgylch Maes Lles Cwm i’w cael yn barod.’

Cafodd codi’r plac ei ysgogi gan y Cyng Hedley McCarthy, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, gan gydnabod pwysigrwydd dathlu arwyr lleol. Dywedodd ‘Roedd plant Cwm yn tyfu lan gyda Ron fel eu harwr pêl-droed, yn union fel mae Gareth Bale heddiw. Roedd yn gawr ym mhêl-droed Cymru a rydym yn cydnabod y ffaith honno heddiw.’

Ron Burgess Portrait

Ron Burgess Plaque

Ron Burges Plaque Unveiling

Family Of Ron Burges