Amgueddfa Abertyleri a’r CyffiniauMae gan Amgueddfa Abertyleri a’r Cyffiniau gasgliad eang yn dyddio o’r oes gynhanesyddol i’r cyfnod presennol. Mae adnewyddiadau diweddar yn eich anfon ar daith trwy amser gyda threfniad cronolegol o arddangosfeydd. Ar ben hyn mae ganddynt arddangosfeydd arbennig ar y diwydiannau glo a haearn. Mae ymwelwyr yn gallu gweld bwyell o’r Oes Haearn, pistol a ddefnyddiwyd o bosib gan y Siartwyr a chap pêl-fas Arthur Scargill! Ar ben hyn gallwch fwynhau lluniaeth mewn caffi Eidalaidd go iawn – un o’u harddangosfeydd orau.
Gwybodaeth i ymwelwyr:
Manylion cyswllt am oriau agor, ewch i’r wefan
Y Metropole, Market Street, Abertyleri, Blaenau Gwent NP13 1AH.
Ffôn: 01495 211140
E-bost: abertillerymuseum@btconnect.com
Gwefan: http://www.abertilleryanddistrictmuseum.org.uk
Cost mynediad:
Mynediad am ddim
Gwybodaeth Gyswllt
Datblygiad Economaidd
Rhif Ffôn: 01495 355937 neu 07968 472812
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glyn Ebwy, Blaenau Gwent. NP23 6DN
Cyfeiriad e-bost: alyson.tippings@blaenau-gwent.gov.uk