Teithio Llesol – Blaenau Gwent

Yn 2013, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) gyda’r nod o gynyddu gweithgarwch corfforol dyddiol pobl, hybu llesiant a lleihau’r ddibyniaeth ar geir ar gyfer teithiau byr, pwrpasol.

Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i bob awdurdod lleol yng Nghymru annog cerdded a beicio fel y dull teithio a ffefrir ar gyfer teithiau pwrpasol o fewn pellteroedd byr.

Rhaid i awdurdodau lleol ddylunio a darparu llwybrau teithio llesol addas o fewn ac o amgylch eu haneddiadau, gan ddarparu llwybrau diogel a hygyrch i gerddwyr, defnyddwyr cadeiriau olwyn a beicwyr.

Gwyliwch ein hanimeiddiad i gael rhagor o wybodaeth am deithio llesol.

Cyswllt Gogledd/De Glyncoed

Isod mae nifer o luniau o’r gwaith a gafodd ei gwblhau ar Ddolen Gogledd/De Glyncoed. Mae cynlluniau ar y gweill i ymestyn y llwybr ymhellach i’r De.

Active travel        

Gwelliannau cyfredol

Eleni rydym yn gweithio ar wella’r llwybr Teithio Llesol i’r dwyrain o Ysgol Gynradd Ystruth.

Yn ystod mis Medi byddwn yn gweithio gyda Strydoedd Byw i gyflwyno eu prosiect WOW o fewn 8 ysgol gynradd ym Mlaenau Gwent, i gael mwy o wybodaeth ar y prosiect hwn ewch i

WOW, her blwyddyn gron cerdded i’r ysgol

Beth yw teithiau byr, pwrpasol?

Mae taith teithio llesol yn un y gall rhywun ei chymryd ar droed neu ar feic i gyflawni tasg bob dydd, fel:

  • Cerdded neu feicio i'r ysgol
  • Cerdded neu feicio i'r gwaith
  • Cerdded neu feicio i'r orsaf drenau neu fysiau lleol i ddal y trên ar gyfer taith ymlaen
  • Cerdded neu feicio i'r siop/fferyllfa/Swyddfa Bost leol

Beth mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn ei wneud am Deithio Llesol yn y gymuned?

Yn 2021, mae’r Cyngor wedi gweithio ochr yn ochr â Sustrans a phartneriaid eraill i ddatblygu ei Fap Rhwydwaith Teithio Llesol, gan gynnwys datblygu a gwella llwybrau newydd a phresennol.

Mae’r llwybrau hyn yn cynnwys:

  • Parc Bryn Bach – Garnlydan
  • Canol Tref Tredegar - Gerddi Harford
  • Ysbyty Glyn Ebwy - Ysgol 3-11
  • Beaufort – Nant-y-glo
  • Brynmawr – Blaenafon
  • Six Bells – Aber-big
  • Gorsaf Llanhiledd - Royal Oak
  • Royal Oak - Swffryd-Crymlyn

 

Rydyn ni eisiau gwneud teithio llesol yn rhan arferol o fywyd bob dydd, cerdded i'r ysgol neu'r gwaith yn lle mynd â'r car, nid yn unig y mae'n iachach, mae'n wych i'r amgylchedd hefyd.

Gadewch i ni wneud Blaenau Gwent yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld ag ef, i ni ein hunain ac i genedlaethau’r dyfodol.

Os hoffech chi gymryd rhan a helpu i ddatblygu eich rhwydwaith teithio llesol lleol, cysylltwch â Kathryn Childs - Swyddog Cefnogi Partneriaethau ac Ymgysylltu (Teithio Llesol) kathryn.childs@blaenau-gwent.gov.uk neu ewch i'r dudalen hon am ddiweddariadau yn y dyfodol.