Network Rail, ymyriadau’r Pasg

Trawsnewid llinell Glyn Ebwy – Gwaith arfaethedig dros y Pasg

Dros y Pasg bydd Network Rail yn gwneud y gwaith mawr cyntaf fel rhan o drawsnewid y leinl.

Pa waith fydd yn cael ei wneud dros y Pasg?

23.35 ar nos Iau 14 i 05.40 ar fore Mawrth 19 Ebrill (penwythnos y Pasg), byddwn yn gweithio ar y rheilffordd 24 awr y dydd mewn gwahanol fannau rhwng Casnewydd ac Aber-bîg.

Gwaith paratoi

Trwy gydol mis Ebrill, byddwn yn dechrau sefydlu compowndiau safle a fydd yn cael eu defnyddio dros y Pasg a thrwy gydol cyfnod y prosiect. Efallai y byddwch yn dechrau sylwi ar lawer o weithgarwch yn y mannau hyn gan y byddant yn cynnwys cyfleusterau lles i’n staff yn ogystal â chael eu defnyddio fel storfeydd i beiriannau a deunyddiau ac fel mannau i fynd ar y rheilffordd.

Bydd ein compowndiau safle yn iard Network Rail i’r gorllewin o faes parcio gorsaf Llanhiledd, gorsaf Trecelyn, Glofa Crymlyn ac Iard Sheedy, Crosskeys.

Hefyd bydd mannau mynediad yn iard Network Rail i’r gogledd o orsaf Parcffordd Glyn Ebwy, hen orsaf Aber-bîg a Chlwb Rygbi Llanhiledd yn cael eu defnyddio er mwyn i staff a pheiriannau fynd ar y traciau ac oddi arnynt dros benwythnos a thrwy gydol cyfnod y prosiect cyfan.

Newidiadau i’r gwasanaethau trên

Os ydych chi’n bwriadu teithio ar y trên rhwng 15 a 18 Ebrill, effeithir ar y gwasanaethau trên ar linell Glyn Ebwy, felly ein cyngor i deithwyr yw ichi wirio cyn teithio ar

www.nationalrail.co.uk.